Mae Bwrdd Ofcom heddiw wedi cyhoeddi bydd Jonathan Oxley yn Brif Weithredwr Dros Dro.
Ar hyn o bryd mae Jonathan yn Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Cystadleuaeth ac yn aelod o Fwrdd Ofcom. Bydd yn cychwyn fel Prif Weithredwr Dros Dro pan fydd Sharon White yn gadael ar ddiwedd Tachwedd.
Mae’r broses i apwyntio Prif Weithredwr yn parhau ac mae Bwrdd Ofcom yn disgwyl cyhoeddi apwyntiad wedi’r Etholiad Cyffredinol.
Bydd Jonathan, nad oedd wedi gwneud cais i fod yn Brif Weithredwr, yn cymryd holl gyfrifoldebau Prif Weithredwr a bydd hefyd yn Swyddog Atebol Ofcom.
Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom, “Mae Jonathan yn hynod alluog i allu camu mewn i ddarparu parhad pwysig i Ofcom a’r sectorau mae’n eu rheoleiddio.”
Dywedodd Jonathan Oxley: “Dwi wrth fy modd bod y Bwrdd wedi gofyn i fi gymryd swydd Prif Weithredwr Dros Dro. Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer pobl a busnesau.”