Erbyn hyn, mae oedolion yn y DU yn treulio dros chwarter o'u horiau effro ar-lein – y lefelau uchaf erioed – gyda gwasanaethau fel TikTok a Zoom yn tyfu'n eithriadol, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom i fywydau ar-lein y wlad.
Mae adroddiad blynyddol Ofcom, Ein Gwlad Ar-lein[1], yn datgelu bod oedolion yn y DU, ym mis Ebrill 2020 pan oedd y cyfyngiadau symud ar eu heithaf, wedi treulio cyfartaledd dyddiol o bedair awr a dau funud ar-lein – i fyny o ychydig yn llai na thair awr a hanner ym mis Medi y llynedd.[2]
Nawr bod pobl yn chwilio am ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad, o gael gwybodaeth ac adloniant, ac o gadw'n heini yn ystod y pandemig, mae gwasanaethau rhannu fideos a galwadau fideos yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.
Mae TikTok yn gadael i ddefnyddwyr greu a rhannu fideos dawnsio, cydwefuso, comedi a thalent byr. Roedd 12.9 miliwn o oedolion wedi ymweld â'r llwyfan ym mis Ebrill, i fyny o 5.4 miliwn ym mis Ionawr. Roedd nifer yr ymwelwyr â Twitch, y llwyfan ffrydio byw poblogaidd i chwaraewyr gemau, wedi codi i 4.2 miliwn, o 2.3 miliwn.
Mae cyfran yr oedolion ar-lein yn y DU sy'n gwneud galwadau fideo wedi dyblu yn ystod y cyfyngiadau symud hefyd. Mae mwy na saith o bob deg yn gwneud galwad fideo unwaith yr wythnos o leiaf. Roedd Houseparty, yr ap sy'n cyfuno galwadau fideo mewn grŵp â gemau a chwisiau, wedi tyfu i 4 miliwn o ymwelwyr sy'n oedolion ym mis Ebrill, o 175,000 ym mis Ionawr. Ond Zoom sydd wedi gweld y twf mwyaf. Dros yr un cyfnod, roedd y llwyfan cyfarfodydd ar-lein wedi tyfu o gyrraedd 659,000 o oedolion yn y DU, i gyrraedd 13 miliwn – cynnydd o bron i 2,000%.
Mae safleoedd ac apiau fel YouTube, Snapchat, Instagram a TikTok, sy'n gadael i bobl greu, rhannu a llwytho fideos i fyny ar-lein, yn fwy poblogaidd nag erioed.
Yn ôl ein hadroddiad, mae naw o bob deg oedolyn ar-lein a bron i'r holl blant hŷn rhwng 8 a 15 oed wedi defnyddio o leiaf un o'r gwefannau ac apiau hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod llawer yn gwylio fideos sawl gwaith bob diwrnod. Mae traean (32%) o'r oedolion ar-lein bellach yn treulio mwy o amser yn gwylio gwasanaethau rhannu fideos nag ydynt yn gwylio teledu sy'n cael ei ddarlledu.[3]
Nid yn unig ydyn ni'n gwylio, rydyn ni'n creu ac yn darlledu ein cynnwys ein hunain hefyd. Mae dau o bob pum oedolyn (40%) a 59% o blant hŷn sy'n defnyddio safleoedd ac apiau rhannu fideos bellach yn creu ac yn llwytho eu fideos eu hunain i fyny, gan sbarduno twf enfawr mewn cynnwys ffurf-fer wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr.
Mae flogio'n fenter broffidiol hefyd. Mae 17% o oedolion sy'n creu ac yn llwytho fideos i fyny yn cael refeniw neu roddion am y fideos.[4] O ganlyniad i'r statws byd-enwog mae rhai flogwyr yn ei ennill, roedd cyfran y plant dan 13 oed ag uchelgais o fod yn 'YouTuber' wedi cynyddu 19% erbyn diwedd 2019 o'i gymharu â 2018.[5] Mae bechgyn yn fwy tebygol o'i ystyried fel gyrfa.
Hefyd mae rhannu fideos a ffrydio byw yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn ffordd werthfawr i bobl gadw mewn cysylltiad, cael gwybodaeth, a chodi ysbryd. Er enghraifft mae miliynau wedi gwylio a chymryd rhan yn sesiynau Joe Wicks, P.E. with Joe, bob dydd ar YouTube; roedd Twitch wedi cynnal digwyddiad cerddoriaeth elusennol o'r enw Stream Aid i godi arian i'r frwydr yn erbyn Coronafeirws; ac fe wnaeth TikTok ffrydio sesiwn Holi ac Ateb fyw gydag arbenigwyr o Sefydliad Iechyd y Byd.[6]
Yn ôl astudiaeth Ofcom, cyn pandemig Covid-19 roedd llawer o bobl yn troi eu cefn ar y mathau mwy traddodiadol o gyfathrebu – yn enwedig galwadau llinellau tir a negeseuon testun SMS – ac yn mabwysiadu dulliau newydd.
Yn ystod y 12 mis hyd at fis Chwefror 2020, roedd mwy o oedolion ar-lein o lawer yn anfon negeseuon testun bob dydd gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau negeseuon ar-lein (52%) fel WhatsApp a Facebook Messenger, yn hytrach nag SMS (41%) ac e-bost (26%). Roedd y defnydd dyddiol o alwadau llais ar-lein (31%) dim ond ychydig yn is na galwadau symudol (38%).
Mae'n ymddangos bod y pandemig wedi cyflymu'r broses o ddibynnu ar wasanaethau ar-lein i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Erbyn hyn mae mwy na saith o bob deg oedolyn ar-lein yn y DU yn gwneud galwad fideo o leiaf unwaith yr wythnos, i fyny o 35% cyn y cyfyngiadau symud. Gwelir y tueddiad hwn yn arbennig o amlwg ymysg defnyddwyr hŷn y rhyngrwyd; roedd cyfran yr oedolion ar-lein 65+ oed sy'n gwneud o leiaf un alwad fideo bob wythnos wedi codi o 22% ym mis Chwefror 2020 i 61% ym mis Mai 2020.
Mae cyfran yr oedolion yn y DU sydd wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein sefydledig i wneud galwadau fideo o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud wedi dyblu– roedd WhatsApp wedi cyrraedd 49% ym mis Mai (i fyny o 20% ym mis Chwefror); Facebook Messenger ar 41% (i fyny o 18%); a FaceTime ar 30% (i fyny o 13%).
Ond y gwasanaethau sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf aruthrol yn eu defnydd yw Zoom (a oedd yn cyrraedd 659,000 o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ym mis Ionawr, ac 13 miliwn ym mis Ebrill); Microsoft Teams (3 miliwn o'i gymharu â 6.5 miliwn); a Houseparty (175,000 o'i gymharu â 4 miliwn).
I lawer o oedolion a phlant, mae gwylio neu greu cynnwys ar safleoedd neu apiau rhannu fideos yn brofiad cadarnhaol.[7] Ond mae gan 87% o oedolion – a 79% o blant rhwng 8 a 15 oed – bryderon ynglŷn â phlant yn defnyddio'r llwyfannau hyn. Ymysg y prif bryderon mae trolio neu fwlio, cynnwys niweidiol neu anaddas i oedran, a chael negeseuon preifat gan bobl ddieithr.[8]
Mae ymddiriedaeth oedolion mewn safleoedd i dynnu cynnwys anghyfreithlon, sarhaus a niweidiol wedi cynyddu saith pwynt canran ers y llynedd, i 54%. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o oedolion (57%) yn parhau i gefnogi rhagor o reoleiddio ar lwyfannau rhannu fideos (64% yn 2019).
Mae Ofcom yn paratoi ar gyfer ysgwyddo cyfrifoldebau newydd o ran rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Yr haf hwn, byddwn yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i ddylanwadu ar ein canllawiau ar y mesurau dylai llwyfannau eu rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.
Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: "Mae'n bosib y bydd y cyfyngiadau symud yn cael effaith barhaol ar y byd digidol. Mae Coronafeirws wedi newid ein ffordd o fyw, o weithio ac o gyfathrebu ar-lein yn llwyr, gyda miliynau o bobl yn defnyddio gwasanaethau fideo ar-lein am y tro cyntaf erioed.
"Wrth i'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu ddatblygu ac wrth i bobl ehangu eu gorwelion ar-lein, ein rôl ni yw helpu i wneud yn siŵr bod profiad pobl yn un cadarnhaol a'u bod yn ddiogel, ac yn cael eu gwarchod."
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
Ar wahân, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi ein hymchwil blynyddol ar bryderon defnyddwyr y rhyngrwyd ynglŷn ag elfennau niweidiol ar-lein posibl a'u profiadau ohonynt, a gomisiynwyd ar y cyd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a'n Hadroddiad ar Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau 2020.