Buddsoddi mwy mewn band eang ffeibr

08 Ionawr 2020

  • Ofcom yn nodi amodau er mwyn helpu i gyflwyno ffeibr llawn ledled y wlad
  • Gwella’r achos busnes dros fuddsoddi mewn ffeibr a diogelu cwsmeriaid rhag prisiau uchel
  • Helpu i gau hen rwydwaith copr y DU wrth i ffeibr newydd gael ei adeiladu

Bydd cartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad yn cael budd o fand eang ffeibr cyflymach a mwy dibynadwy yn sgil y cynigion o bwys a gyflwynir gan Ofcom heddiw.

Wrth i’r galw am ddata ar y rhyngrwyd gyflymu, mae angen uwchraddio seilwaith y DU. Mae cysylltiadau band eang ffeibr llawn yn gallu cynnig cyflymderau llawer cyflymach na chopr – hyd at un gigabit yr eiliad. Maent hefyd bum gwaith yn fwy dibynadwy, ac yn llai tebygol o arafu pan fydd llawer o bobl yn eu defnyddio ar yr un pryd.[1]

Felly heddiw, rydym yn cynnig rheoliadau newydd, hyblyg a fydd yn helpu i ddatblygu dyfodol ffeibr llawn ar gyfer y DU gyfan.

Mae cael dewis o rwydweithiau wedi sicrhau manteision sylweddol i bobl, fel arloesedd, gwell gwasanaethau a phrisiau cystadleuol. Yn 2017 fe wnaethom ni bennu ystod o fesurau o blaid buddsoddi a wnaeth ysgogi ystod o gwmnïau band eang i gyflwyno ffeibr llawn. Ers hynny, mae darpariaeth ffeibr llawn wedi treblu.[2]

Rydyn ni nawr yn adeiladu ar y momentwm hwnnw gyda chynigion a fydd yn gweddnewid yr achos busnes dros fuddsoddi mewn ffeibr – ar gyfer trefi, dinasoedd a phentrefi fel ei gilydd. Y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu amrywio ein rheoliadau ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad, a fydd – ar y cyd â chyllid gwerth £5bn gan y Llywodraeth mewn ardaloedd gwledig – yn helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Gwell band eang a gwasanaeth symudol - lle bynnag eich lleoliad

Mae cynigion heddiw yn rhan o’n hadolygiad o delegyfathrebiadau cyfanwerthol a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau preswyl a busnes yn y DU. Mae hwn yn nodi sut bydd Ofcom yn rheoleiddio BT yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2026.

Ysgogi cystadleuaeth a buddsoddiad

Mae ein ffocws ar hyrwyddo cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau band eang wedi helpu i gynyddu’r ddarpariaeth ffeibr llawn ar y gyfradd gyflymaf erioed.

Rydyn ni eisoes wedi’i gwneud yn rhatach, yn gyflymach ac yn haws i gystadleuwyr BT osod ceblau ffeibr drwy roi mynediad gwell a rhatach iddynt at bolion telegraff a thwneli tanddaearol Openreach. Mae nifer o gwmnïau bellach yn defnyddio’r rhain i gysylltu miloedd o adeiladau heb orfod tyllu strydoedd sawl gwaith.[3]

Rydym nawr yn cynnig rhoi hwb enfawr i'r strategaeth gyda chynllun pedwar cam i gefnogi buddsoddiad cystadleuol mewn rhwydweithiau ffeibr.[4]

1. Gwella’r achos busnes dros fuddsoddi mewn ffeibr. Mewn ardaloedd mwy trefol, lle mae’n debygol bod dewis o rwydweithiau, byddwn yn pennu prisiau cyfanwerthol Openreach mewn modd sy’n annog cystadleuaeth gan rwydweithiau newydd, yn ogystal â buddsoddiad gan Openreach – drwy roi cyfle iddo wneud elw teg.

Yn yr ardaloedd hyn, rydym yn cynnig bod y prisiau cyfanwerthol mae Openreach yn eu codi ar ddarparwyr adwerthol am wasanaeth band eang cyflym iawn (40 Mbit yr eiliad) yn cael eu capio yn unol â chwyddiant. Mae hyn yn dilyn toriad sylweddol a wnaeth Ofcom i'r cynnyrch hwn yn adolygiad 2018, ond mae’n dal yn rhoi lle i wneud elw ar fuddsoddiad mewn ffeibr, wrth i gostau adeiladu leihau.

Mae ffeibr llawn yn gyflymach ac yn llawer mwy dibynadwy na band eang copr. Felly, rydyn ni’n cynnig y gall Openreach godi premiwm bychan ar gyfer cynnyrch a reoleiddir os yw’n cael ei ddarparu ar gyfer ffeibr llawn, er mwyn helpu’r achos busnes. Byddai ei wasanaethau ffeibr cyflymaf yn osgoi rheoliadau prisio, i gefnogi’r ras fuddsoddi rhwng adeiladwyr rhwydweithiau.[5]

2. Diogelu cwsmeriaid a hybu cystadleuaeth. Byddwn yn sicrhau bod pobl yn dal yn gallu cael gafael ar fand eang fforddiadwy drwy gapio costau cyfanwerthol gwasanaethau band eang copr arafach Openreach. I atal Openreach rhag niweidio cystadleuaeth, byddai’n cael ei gyfyngu rhag gallu cynnig gostyngiadau a allai rwystro ei gystadleuwyr rhag buddsoddi.

3. Cyflymu ardaloedd gwledig. Mewn ardaloedd gwledig â phoblogaethau mwy gwasgaredig, lle nad oes siawns o adeiladu mwy nag un rhwydwaith, rydym yn bwriadu cefnogi buddsoddiad gan Openreach – yr unig weithredwr sydd â rhwydwaith gwledig ar raddfa fawr.

Byddem yn caniatáu i Openreach adennill costau buddsoddi dros brisiau cyfanwerthu ystod ehangach o wasanaethau, gan leihau’r risgiau mae’n eu hwynebu o ran buddsoddi. Os bydd BT yn ymrwymo’n gadarn i adeiladu rhwydweithiau ffeibr yn y rhannau hyn o’r wlad, gallwn gynnwys y costau hyn yn ei brisiau o’r dechrau. Os na fydd yn ymrwymo, dim ond ar ôl iddo osod ffeibr newydd y byddem yn caniatáu iddo adennill y costau hyn.

Bydd cyllid cyhoeddus hefyd yn hanfodol i gysylltu ardaloedd gwledig. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi £5 biliwn i gyrraedd 20% mwyaf heriol y DU ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar ei chynlluniau yn hyn o beth.

4. Cau’r rhwydwaith copr. Rydym yn cydnabod bod angen i Openreach roi’r gorau i ddefnyddio gwifrau copr sy’n mynd yn hŷn er mwyn sicrhau nad yw’n wynebu costau diangen yn sgil rhedeg dau rwydwaith cyfochrog. Rydyn ni’n bwriadu diddymu rheoliadau ar gynnyrch copr Openreach mewn ardaloedd lle mae ffeibr llawn yn cael ei adeiladu. Bydd hyn yn helpu Openreach i symud cwsmeriaid i’r rhwydwaith ffeibr newydd.

Byddwn hefyd yn diogelu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio hwn, drwy drosglwyddo ein rheoliadau – gan gynnwys y rhai cysylltiedig â diogelu prisiau – o wasanaethau copr i wasanaethau ffeibr newydd.

Dywedodd Jonathan Oxley, Prif Weithredwr dros dro Ofcom Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i ddatblygu darpariaeth ffeibr llawn ar gyfer y wlad gyfan. Rydyn ni wrthi’n cael gwared â’r rhwystrau sy’n parhau i atal buddsoddi, ac yn hybu cystadleuaeth er mwyn sicrhau bod cwmnïau’n gallu adeiladu’r rhwydweithiau a fydd yn cyflymu’r DU yn y byd digidol.

“Mae band eang ffeibr llawn yn llawer cyflymach a mwy dibynadwy. Mae’n hanfodol bod pobl a busnesau ym mhob man – mewn ardaloedd gwledig, trefi bach neu ddinasoedd – yn gallu elwa ar y manteision hyn. Felly, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod gan gwmnïau'r cymhellion cywir i gyflwyno ffeibr llawn ym mhob rhan o'r DU."

Cefnogi 5G a busnes

Rydyn ni hefyd wedi nodi heddiw sut rydym yn bwriadu rheoleiddio ‘llinellau ar brydles’ – sef cysylltiadau data cyflymder uchel sy'n cael eu defnyddio gan sefydliadau mawr. Rhain yw asgwrn cefn rhwydweithiau symudol a band eang y DU o ran data.

Yn yr un modd â’n dull gweithredu ar gyfer band eang, rydym yn bwriadu amrywio ein mesurau rheoleiddio, yn dibynnu ar lefel y gystadleuaeth bresennol neu bosibl mewn ardal benodol. Byddai hyn yn golygu bod Openreach yn gorfod rhoi mynediad i gwmnïau i'w 'ffeibr tywyll’ – ceblau sydd 'wedi'u goleuo' gan gystadleuwyr – mewn ardaloedd nad ydynt yn gystadleuol, am bris sy'n adlewyrchu ei gostau. Byddai hyn yn lleihau’n sylweddol faint byddai’n ei gostio i weithredwyr symudol gyflwyno eu rhwydweithiau 5G newydd.

Y camau nesaf

Daw ymgynghoriad heddiw i ben ar 1 Ebrill 2020, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau ddechrau 2021 cyn i’r rheolau presennol ddod i ben ym mis Ebrill 2021.[6]

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae ffeibr llawn – neu ‘ffeibr i’r adeilad’ – yn fath o fand eang gwibgyswllt sy’n defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i gartrefi pobl, heb ddefnyddio unrhyw gopr.
  2. Ym mis Mawrth 2017, fe wnaethom gyhoeddi ein cynigion ar gyfer rheoleiddio BT rhwng 2018 a 2021. O ganlyniad, cyhoeddodd sawl cwmni band eang gynlluniau i fuddsoddi mewn band eang ffeibr llawn. Yna, cynyddodd y ddarpariaeth ffeibr llawn o 3% i 10% – er bod hynny o sylfaen fechan – rhwng 2017 a 2019. Cynyddodd y defnydd data misol cyfartalog mewn cartrefi o 190 GB i 315 GB yn ystod yr un cyfnod.
  3. Mae dros 80 o gwmnïau bellach yn ystyried defnyddio polion telegraff a phibellau tanddaearol Openreach i osod ffeibr newydd. Rhyngddynt, mae darparwyr sy’n cystadlu â’i gilydd bellach yn bwriadu defnyddio dros 40,000 o bolion a 5,000km o bibellau, fyddai’n gynnydd mawr o’i gymharu â’r 12,000 a'r 2,500km o’r naill a’r llall oedd yn bodoli ym mis Mai.
  4. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi creu cynlluniau newydd a fyddai'n ei gwneud yn haws i bobl newid rhwng rhwydweithiau band eang gwahanol.
  5. Mae caniatáu hyblygrwydd prisiau i Openreach ar gyfer ei gynnyrch band eang cyflymaf yn ei alluogi i fuddsoddi’n broffidiol mewn ffeibr llawn. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gwmnïau eraill gystadlu ag Openreach o ran prisiau. Mae gallu rhwydweithiau i godi prisiau cyfanwerthol yn cael ei gyfyngu gan barodrwydd pobl i ystyried gwasanaethau rhatach – fel pecyn 40Mbit yr eiliad.
  6. Er mwyn sicrhau bod Openreach yn darparu gwasanaeth o'r safon sydd ei hangen ar gwsmeriaid, rydym wedi cyhoeddi heddiw ein bod yn cynnig cadw’r rheolau llym sydd eisoes mewn grym o ran pa mor gyflym mae’n rhaid i Openreach wneud y gwaith gosod a thrwsio. Rydym yn adolygu ardal Hull ar wahân ac yn ymgynghori ynghylch ein trefniadau rheoleiddio ar gyfer KCOM yn ystod y misoedd nesaf.