Mae Ofcom heddiw yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr dalu iawndal awtomatig - un ai taliad arian, neu gredyd ar fil - i gwsmeriaid sy’n dioddef y mathau hyn o wasanaeth gwael.
Byddai gan gwsmeriaid hawl i iawndal awtomatig, heb orfod defnyddio proses hawlio a all fod yn anodd a hirfaith:
Mae Ofcom yn amcangyfrif y byddai’r cynlluniau’n golygu y gallai hyd at 2.6 miliwn yn rhagor o gwsmeriaid llinell dir a band eang dderbyn hyd at £185m mewn taliadau iawndal newydd bob blwyddyn.[1]
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Mae rhywbeth yn mynd o’i le gyda llinell dir neu fand eang cwsmer yn ddigon rhwystredig heb sôn am orfod ymladd yn galed i gael iawndal teg gan y darparwr.
“Felly, rydym yn cynnig rheolau newydd i orfodi darparwyr i dalu arian yn ôl i gwsmeriaid yn awtomatig pan na fydd gwaith gosod neu waith trwsio’n digwydd ar amser, neu pan mae pobl yn disgwyl am beiriannydd nad yw’n troi i fyny. Byddai hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn cael iawndal digonol, a bydd darparwyr yn awyddus i weithio’n galetach i wella’u gwasanaeth.”
Ofcom fyddai’n pennu symiau’r iawndal, a byddent yn adlewyrchu lefel y niwed a ddioddefir gan ddefnyddwyr. Dyma sut y byddai cynllun iawndal awtomatig Ofcom yn gweithio:
Problem | Byddai gan qwsmer llinell dir neu fand eang hawl i gael iawndal os... | Faint o iawndal |
---|---|---|
Oedi cyn trwsio ar ôl colli gwasanaeth | Mae'r gwasanaeth wedi stopio gweithio a heb ei drwsio'n iawn ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn. | £10 am bob diwrnod calendr dydy'r gwasanaeth heb ei drwsio. |
Methu apwyntiadau | Dydy peiriannydd ddim yn dod i apwyntiad sydd wedi cael ei drefnu, neu mae'n cael ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd. | £30 fesul apwyntiad sy'n cael ei fethu. |
Oedi cyn dechrau gwasanaeth newydd | Mae'r darparwr yn addo dechrau gwasanaeth ar ddyddiad penodol ond yn methu gwneud hynny. | £6 am bob dirrnod calendr o oedi, gan gynnwys y dyddiad dechrau a fethwyd. |
Mae cynigion heddiw yn berthnasol i wasanaethau ffôn llinell dir a band eang sefydlog yn unig. Dengys ein dadansoddiad fod cwmnïau symudol eisoes yn talu iawndal sylweddol i gwsmeriaid ac rydym yn amcangyfrif mai llai nag 1% o gwsmeriaid symudol sy’n colli gwasanaeth am fwy na 24 awr.[2] Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro’r maes hwn.
Er bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr at ei gilydd yn fodlon â'u gwasanaethau telegyfathrebu[3], mae lleiafrif sylweddol yn dal i wynebu problemau.
Mae ein dadansoddiad yn awgrymu:
Pan fyddant yn digwydd, gall y problemau hyn olygu nad yw cwsmeriaid yn gallu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, na defnyddio’r rhyngrwyd, tra mae un o bob pedwar person (26%) sydd wedi profi apwyntiad yn cael ei fethu wedi gorfod gwastraffu diwrnod o wyliau i aros gartref i ddisgwyl am beiriannydd.
Ar hyn o bryd, mae taliadau iawndal yn cael eu rhoi ar sail ad hoc i leiafrif yn unig o'r rheini sy’n dioddef problemau (mewn hyd at 15% o achosion) ac nid ydynt o bosibl yn adlewyrchu’n ddigonol y niwed a achosir.
Mae oddeutu traean o fusnesau bach a chanolig yn dewis gwasanaethau llinell dir a band eang preswyl a byddent hwythau hefyd yn elwa o’n cynigion ar gyfer iawndal.
Ond rydym yn cynnig y dylai pob BBaCh elwa o wybodaeth gliriach a fwy manwl ymlaen llaw am y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig - gan gynnwys a oes hawl ganddynt i iawndal, a faint, pan fydd problemau’n codi.
Gall BBaCh negodi telerau pwrpasol ac mae contractau busnes llinell dir a band eang safonol ar gael sy’n darparu gwarantau ar gyfer gwasanaethau a iawndal ar gyfer nifer o broblemau gwahanol, gan gynnwys colli gwasanaeth. Ond roedd ein hymchwil yn dangos bod oddeutu hanner y BBaCh (49%) yn ansicr o’u hawliau pan oedd gwasanaeth y darparwyr yn ddiffygiol.
Dylai ein cynigion ar gyfer rhagor o dryloywder helpu BBaCh i gymharu ansawdd y gwasanaeth a’r trefniadau iawndal ar gyfer contractau gwahanol, a dewis yr un a fydd yn bodloni anghenion eu busnes hwy orau.
Mae ymgynghoriad ar gynigion heddiw yn agored tan 5 Mehefin 2017 am 5pm, a byddwn yn cyhoeddi datganiad ar ein penderfyniad oddeutu diwedd y flwyddyn.
Mewn ymateb i gynlluniau Ofcom, mae BT, Sky a Virgin Media gyda’i gilydd wedi cyflwyno cynnig drafft i gyflwyno iawndal awtomatig drwy god ymarfer gwirfoddol drafft gan y diwydiant. Ar hyn o bryd, ni chredwn fod y cynnig hwn yn ateb ein pryderon yn ddigonol, pan mae ansawdd gwasanaethau’n ddiffygiol.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
CYSWLLT
1 Ffynhonnell: Ofcom, Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu 2016, Awst 2016, Ffigurau 4.38 a 4.40: https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0024/26826/cmr_uk_2016.pdf
2 Ffynhonnell: SME experience of communications services, Ionawr 2017, p. 33: https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0030/96348/Ofcom-SME-consumer-experience-research-2016-Report.pdf