Ofcom yn apwyntio Jonathan Oxley fel Prif Weithredwr Dros Dro

06 Tachwedd 2019

Mae Bwrdd Ofcom heddiw wedi cyhoeddi bydd Jonathan Oxley yn Brif Weithredwr Dros Dro.

Ar hyn o bryd mae Jonathan yn Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Cystadleuaeth ac yn aelod o Fwrdd Ofcom. Bydd yn cychwyn fel Prif Weithredwr Dros Dro pan fydd Sharon White yn gadael ar ddiwedd Tachwedd.

Mae’r broses i apwyntio Prif Weithredwr yn parhau ac mae Bwrdd Ofcom yn disgwyl cyhoeddi apwyntiad wedi’r Etholiad Cyffredinol.

Bydd Jonathan, nad oedd wedi gwneud cais i fod yn Brif Weithredwr, yn cymryd holl gyfrifoldebau Prif Weithredwr a bydd hefyd yn Swyddog Atebol Ofcom.

Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom, “Mae Jonathan yn hynod alluog i allu camu mewn i ddarparu parhad pwysig i Ofcom a’r sectorau mae’n eu rheoleiddio.”

Dywedodd Jonathan Oxley: “Dwi wrth fy modd bod y Bwrdd wedi gofyn i fi gymryd swydd Prif Weithredwr Dros Dro. Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer pobl a busnesau.”

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Prif Weithredwr Ofcom yn apwyntiad cyhoeddus gan Fwrdd Ofcom. Mae'n amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros ddigidol, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon.