Datgelwyd gan Ofcom heddiw bod y rhan fwyaf o bobl yn y DU yn ddibynnol ar eu dyfeisiau digidol, a’u bod angen cysylltiad cyson â’r rhyngrwyd, yn dilyn degawd o weddnewid digidol.
Daw’r canfyddiadau o’r Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebiadau gan Ofcom a gyhoeddwyd heddiw - yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o sut mae gwasanaethau cyfathrebu yn newid yn y DU. Eleni, mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae technoleg wedi gweddnewid ein bywydau o fewn deng mlynedd.
2008 oedd y flwyddyn pan ymddangosodd ffonau clyfar am y tro cyntaf yn y DU. Pan gyflwynwyd yr iPhone a'r ffôn Android i farchnad y DU ddegawd yn ôl, roedd 17% o bobl yn berchen ar ffôn clyfar. Mae'r gyfradd yn 78% erbyn hyn yn ôl ffigurau diweddaraf Ofcom, ac mae’r gyfradd yn 95% ymysg pobl ifanc 16-24 oed. [1] Y ffôn clyfar erbyn hyn yw'r ddyfais mae pobl yn dweud y byddent yn ei fethu fwyaf, gan ddylanwadu’n fawr ar fywydau llawer o bobl mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol.
Pan maent yn effro, mae pobl yn y DU erbyn hyn yn mynd at eu ffonau clyfar bob 12 munud ar gyfartaledd. Mae dau o bob oedolyn (40%) yn edrych am y tro cyntaf ar eu ffôn o fewn pum munud i ddeffro, ac yn codi i 65% o bobl o dan 35 oed. Yn yr un modd, mae 37% o oedolion yn edrych ar eu ffonau bum munud cyn diffodd y golau, sy’n codi eto i 60% o bobl dan 35 oed.
Yn wahanol i'r sefyllfa ddegawd yn ôl, mae’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn yn dweud eu bod angen ac yn disgwyl cael cysylltiad cyson â'r rhyngrwyd, lle bynnag maent yn mynd. Dywed dwy ran o dair o oedolion (64%) fod y rhyngrwyd yn rhan hanfodol o’u bywyd. Dywed un o bob pump oedolyn (19%) eu bod yn treulio dros 40 awr yr wythnos ar-lein, i fyny o 5% ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl. Am y tro cyntaf eleni, mae menywod yn treulio mwy o amser na dynion ar-lein. [2]
Dros y degawd diwethaf, mae cael mynediad gwell i'r rhyngrwyd wedi gweddnewid sut rydym yn rhyngweithio â’n gilydd. Dywed dau o bob pum person (41%) eu bod, wrth fynd ar-lein, yn gallu gweithio’n fwy hyblyg, a dywed tri chwarter (74%) bod mynd ar-lein yn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad agos â’u teulu a’u ffrindiau.
Mae’r amser rydym yn ei dreulio'n gwneud galwadau ffôn o’n ffonau symudol wedi gostwng am y tro cyntaf, wrth i ni wneud mwy a mwy o ddefnydd o wasanaethau rhyngrwyd fel WhatsApp a Facebook Messenger. Dim ond 75% o ddefnyddwyr ffonau clyfar sy’n ystyried bod defnyddio ffôn symudol i wneud galwadau ffôn yn bwysig o'i gymharu â 92% sy'n ystyried bod pori ar we yn bwysig.
I nifer sylweddol o bobl, mae effeithiau negyddol i fod ar-lein. Mae pymtheg y cant o bobl yn cytuno bod hynny’n gwneud iddynt deimlo eu bod bob amser yn y gwaith, ac mae dros hanner (54%) yn cyfaddef bod dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu yn tarfu ar sgyrsiau wyneb yn wyneb â ffrindiau a theulu. Mae dros ddau o bob pump (43%) hefyd yn cyfaddef eu bod yn treulio gormod o amser ar-lein.
Dywed oddeutu traean o bobl eu bod yn teimlo un ai wedi’u hynysu (34%) neu ar goll (29%) heb y rhyngrwyd, oni allant fynd ar-lein, a dywed 17% bod hynny'n achosi straen. Dywed hanner yr holl oedolion yn y DU (50%) y byddai eu bywyd yn ddiflas pe na bai modd iddynt gael mynediad i'r rhyngrwyd.
I’r gwrthwyneb, mai rhai yn gweld diffyg mynediad i'r rhyngrwyd yn rhywbeth cadarnhaol. Mae un o bob deg yn teimlo eu bod yn fwy cynhyrchiol heb gysylltiad, sy’n codi i 15% ar gyfer pobl 18-34 oed; ac mae 16% yn teimlo eu bod yn cael mwy o lonydd.
Mae canran y bobl sy’n defnyddio'r rhyngrwyd drwy eu ffôn symudol wedi cynyddu o 20% bron i ddegawd yn ôl i 72% yn 2018. Ar gyfartaledd, mae'r amser a dreulir ar-lein ar ffôn clyfar yn 2 awr a 28 munud y dydd. Mae hyn yn codi i 3 awr ac 14 munud ymysg pobl ifanc 18-24 oed.
Dywed saith deg dau y cant o oedolion mai eu ffôn clyfar yw eu dyfais bwysicaf ar gyfer cael mynediad i'r rhyngrwyd. Dywed 71% nad ydynt byth yn diffodd eu ffôn, a dywed 78% na fyddent yn gallu byw hebddo.
Dywedodd Ian Macrae, Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad yn Ofcom: “Dros y degawd diwethaf, mae bywydau pobl wedi cael eu gweddnewid gan dwf y ffôn clyfar, ynghyd â gwell mynediad i'r rhyngrwyd a gwasanaethau newydd.
“Pa un a yw hynny’n golygu gweithio’n hyblyg, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion y dydd neu siopa ar-lein, gallwn wneud mwy ar y ffordd nag erioed o'r blaen. Ond er bod pobl yn gwerthfawrogi eu ffôn clyfar fel eu cydymaith cyson, mae rhai yn teimlo eu bod yn cael eu gorlwytho pan maent ar-lein, neu’n rhwystredig pan nad ydynt ar-lein.”
Mae’r cenedlaethau hŷn ac iau yn anghytuno am beth sy'n ddefnydd derbyniol o ffonau clyfar yng nghwmni eraill. Mae llawer o bobl yn cyfaddef bod y ffordd y maent yn ymddwyn yn gyhoeddus ar eu ffonau clyfar yn annerbyniol mewn egwyddor.
Mae tri chwarter y bobl (76%) yn cael eu cythruddo pan mae rhywun yn gwrando ar gerddoriaeth, yn gwylio fideos neu'n chwarae gemau yn uchel ar gludiant cyhoeddus; tra bo 81% yn anfodlon bob pobl yn defnyddio’u ffonau yn ystod prydau bwyd.
Mae mwyafrif yr oedolion (53%) yn dweud eu bod fel arfer ar eu ffôn wrth wylio teledu ag eraill. Mae chwech o bob deg (62%) unigolyn dros 55 oed yn credu bod hyn yn annerbyniol, ond mae hyn yn gostwng i ddau o bob deg yn unig (21%) ymysg pobl 18-34 oed.
I lawer o gymudwyr erbyn hyn mae bod ar-lein yn hanfodol yn ystod eu siwrnai er mwyn iddynt allu cyflawni tasgau yn eu bywyd personol (42%) neu broffesiynol (35%). Mae oedolion ifanc yn fwy tebygol o wneud sawl tasg ar eu siwrnai: mae 9% o bobl 18-34 oed yn cyflawni un ar ddeg neu fwy o weithgareddau ar-lein, o’i gymharu ag 1% yn unig o bobl dros 35 oed.
I gefnogi’r tueddiadau hyn, mae Ofcom yn gweithio gyda'r Llywodraeth a’r diwydiant i wella’r ddarpariaeth rhyngrwyd a symudol ar y llwybrau trafnidiaeth mawr. Mae hyn yn cynnwys creu darlun manwl o'r derbyniad symudol ar draws rhwydwaith rheilffyrdd y DU, a rhyddhau rhagor o donnau awyr i wella’r ddarpariaeth symudol a'r capasiti.
1. Yn 2008, roedd y ffonau clyfar gorau yn costio tua £500. Erbyn hyn, mae ffonau’n gallu costio hyd at £1,000. Yn sgil hynny, does dim gymaint o bobl yn gallu eu prynu’n syth, ac felly mae llai yn prynu gwasanaethau talu wrth ddefnyddio. Erbyn 2008, roedd 64% o gwsmeriaid ar gontractau talu wrth ddefnyddio. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dim ond 30% o’r holl danysgrifiadau symudol sy’n rhai talu wrth ddefnyddio.
2. Yr amser cyfartalog oedd yn cael ei dreulio ar-lein (cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol) bob diwrnod, yn ôl oed a rhywedd ym mis Mawrth 2018 (oriau a munudau):
3. Mae gweithgareddau ar-lein teithwyr yn cynnwys gwirio’r cyfryngau cymdeithasol, siopa a bancio ar-lein, ffrydio cerddoriaeth a defnyddio apiau lleoli.