Mae Ofcom wedi nodi cynlluniau manwl heddiw ar gyfer gwella mynediad i seilwaith Openreach, gan ei gwneud hi’n haws ac yn rhatach i ddarparwyr sy'n cystadlu gysylltu eu band eang ffibr eu hunain yn uniongyrchol â chartrefi a swyddfeydd.
Mae cystadleuaeth rhwydwaith yn gallu arwain at fanteision sylweddol i ddefnyddwyr drwy ddewis ac arloesedd, sy’n gallu darparu ansawdd uwch a phrisiau is. Mae mesurau heddiw wedi cael eu dylunio i sbarduno buddsoddiad yn y genhedlaeth nesaf o gysylltiadau rhyngrwyd gwibgyswllt, a lleihau dibyniaeth hanesyddol y wlad ar Openreach – busnes rhwydwaith BT Group.
Bydd cynlluniau Ofcom yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws i gystadleuwyr BT adeiladu eu rhwydweithiau ffibr eu hunain yr holl ffordd at garreg drws pobl drwy ddefnyddio polion telegraff a ‘phibellau’ Openreach – y twneli tanddaearol bach sy’n cludo’r ceblau telegyfathrebiadau.
Dyma’r prif gynigion sy’n cael eu cyhoeddi heddiw:
Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Polisi Cystadleuaeth Ofcom: “Mae ar bobl angen band eang cyflym a dibynadwy yn fwy ac yn fwy. Byddwn yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau gynnig eu band eang ffibr llawn eu hunain yn rhatach drwy gael mynediad at dwneli a pholion telegraff Openreach.
“Bydd hyn yn sicrhau tegwch i ddarparwyr eraill gyda BT, er mwyn iddynt fod â’r hyder i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau ffibr llawn eu hunain.”
Mae’r DU yn cymharu’n dda â gwledydd Ewropeaidd mawr eraill o ran argaeledd cysylltiadau band eang sy’n cynnwys rhyw fath o gebl ffibr optig, fel ffibr yn rhedeg i gabinet y stryd. Fodd bynnag, mae Ofcom yn dal i bryderu bod gan y DU ddarpariaeth isel iawn o fand eang ‘ffibr llawn’, lle mae llinellau cebl a ffibr yn cysylltu’n uniongyrchol i gartrefi a swyddfeydd.[2]
Mae cystadleuwyr BT wedi codi pryderon ynghylch y costau a'r amser sydd ynghlwm wrth adeiladu’r rhwydweithiau hyn. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Ofcom wedi ymrwymo i ostwng y rhwystrau hyn drwy wella mynediad at seilwaith presennol Openreach.
Bydd ailddefnyddio pibellau tanddaearol sydd eisoes yn bodoli yn gallu cwtogi faint o amser mae’n ei gymryd i gyflwyno rhwydwaith newydd yn sylweddol. Er enghraifft, mae hi’n gallu cymryd dyddiau i adeiladu 200m o bibell drwy ddefnyddio dulliau adeiladu traddodiadol, ond gellid gosod ceblau ffibr yn yr un hyd o bibell sydd eisoes ar gael mewn ychydig o oriau.
Ers i Ofcom amlinellu cynlluniau cychwynnol ym mis Rhagfyr, mae Openreach wedi gwneud y broses ar gyfer cael mynediad i’w bibellau a’i bolion yn fwy effeithlon, yn dilyn treial y llynedd gyda phum cwmni telegyfathrebiadau arall. Mae’r darparwyr eraill nawr yn gwneud eu gwaith eu hunain ar y seilwaith, sydd wedi helpu i leihau oedi.
Fodd bynnag, mae rhagor o waith i’w wneud. Mae Ofcom yn bwriadu mynnu bod Openreach yn sicrhau bod ei rwydwaith presennol o bibellau a pholion yn ‘barod i’w ddefnyddio’. Mae hyn yn golygu y byddai’n rhaid iddo drwsio seilwaith diffygiol a chlirio pibellau sydd wedi’u rhwystro ar gais, a hynny cyn pen amserlen y cytunir arni gyda'i gwsmeriaid.
Mae ar Ofcom eisiau sicrhau bod pob darparwr yn gallu gosod ffibr ym mhibellau BT mor hawdd â BT ei hun. Felly rydyn ni’n cynnig gwella’r broses er mwyn sicrhau na fydd cystadleuwyr o dan anfantais wrth ddefnyddio seilwaith BT i gyflwyno gwasanaethau band eang gwibgyswllt.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn golygu y byddai BT yn adennill costau darparu mynediad i drydydd parti, fel trwsio pibellau, yn yr un ffordd ag y mae’n adennill y costau hyn ar gyfer ei ddefnydd ei hun – er enghraifft drwy eu rhannu rhwng pob gwasanaeth sy’n defnyddio’r bibell.
Os oes ar ddarparwr telegyfathrebiadau eisiau adeiladu ei rwydwaith gwibgyswllt ei hun i gwsmeriaid, ond mae angen refeniw ychwanegol arno er mwyn galluogi’r buddsoddiad, mae Ofcom yn cynnig y dylai’r cwmni hefyd allu defnyddio seilwaith BT er mwyn darparu ‘llinellau ar brydles’ – ceblau cyflym arbennig sy’n cael eu defnyddio gan fusnesau mawr. Mae hyn yn gallu helpu i gryfhau’r achos busnes dros fuddsoddiad newydd.
Ar gyfer tua hanner cartrefi’r DU, mae’r cysylltiad olaf rhwng cartref y cwsmer a’r rhwydwaith yn ‘wifren gollwng’ o bolyn telegraff gerllaw.
Mae cwmnïau sydd eisiau cysylltu ffibr yn uniongyrchol i eiddo yn gallu wynebu problemau fel diffyg lle ar bolion BT, sy’n aml yn cymryd amser ac arian i’w datrys.
Felly mae Ofcom yn cynnig ei bod yn rhaid i BT sicrhau bod capasiti ar gael ar ei bolion telegraff ar gyfer ceblau ffibr ychwanegol sy’n cysylltu adeiladau â’r rhwydwaith.
Mae Ofcom wedi dweud wrth Openreach am ddarparu data cynhwysfawr am ei rwydwaith o bibellau a pholion – ‘map digidol’ o’r DU er mwyn galluogi cystadleuwyr i gynllunio a chyflwyno eu rhwydweithiau eu hunain.
Yn ddiweddar roedd Openreach wedi lansio hyn fel cronfa ddata ar-lein. Mae’r teclyn newydd yn dangos i ddarparwyr telegyfathrebiadau eraill union leoliad ei bibellau, ei bolion a’i siambrau, ynghyd â syniad o’r capasiti pibellau sydd ar gael.
Er ein bod yn croesawu’r cynnydd hwn, mae arnom eisiau i Openreach wneud ei declyn map digidol yn haws i ddarparwyr eraill ei ddefnyddio.
Mae cynigion heddiw yn rhan o Adolygiad Ofcom o’r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2021.[3] Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Mehefin 2017, ac mae Ofcom yn disgwyl cyhoeddi ei benderfyniadau terfynol yn gynnar yn 2018 a daw’r rheolau newydd i rym ar 1 Ebrill 2018.
Rydyn ni hefyd yn ystyried newidiadau i ffioedd rhentu Openreach am gael mynediad i’w rwydwaith o bibellau, ac rydyn ni’n disgwyl cyhoeddi cynigion penodol ynghylch hyn yr haf yma.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION