Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sefyllfa ariannol y gwasanaeth post cyffredinol wedi gwella

25 Mai 2016

25 May 2016

Sefyllfa ariannol y gwasanaeth post cyffredinol wedi gwella

  • Gofynion newydd ar y Post Brenhinol i helpu i hyrwyddo cystadleuaeth
  • Ofcom yn cynnig peidio â chyflwyno rheoliad prisiau newydd
  • Cynlluniau i warchod llythyrau 'heb eu tracio' sydd â chynnwys gwerthfawr

Mae'r gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy yn ariannol, yn ôl adroddiad Ofcom heddiw, ac mae'r rheolau a'r mesurau diogelu cyfredol ar gyfer y bobl a'r busnesau sy'n defnyddio'r post yn gweithio'n dda yn gyffredinol.

O dan y gwasanaeth cyffredinol, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol ddanfon i bob cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, chwe diwrnod yr wythnos, am bris unffurf. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ddefnyddwyr post1, ac mae ei delerau wedi'u gwarchod gan ddeddf Seneddol.

Ar ôl adolygu'r farchnad bost2 , mae Ofcom heddiw wedi canfod y canlynol:

  • Mae elw cyfredol y Post Brenhinol ar werthiant ym mhen is yr ystod 5-10% a ystyrir gan Ofcom fel elw sy'n gydnaws â gwasanaeth cyffredinol cynaliadwy. Tan 2014-15, roedd elw'r Post Brenhinol ar werthiant yn is na'r ystod hwn, er ei fod wedi bod yn gwella ers 2010-11.
  • Mae gwelliannau moderneiddio'r Post Brenhinol yn nodedig ond gallai wneud mwy o hyd i wella effeithlonrwydd, er budd defnyddwyr y post. Mae effeithlonrwydd swyddfeydd dosbarthu'r Post Brenhinol yn amrywio'n sylweddol, a gall y cwmni dargedu'r safleoedd sy'n perfformio'n is.3
  • Mae defnyddwyr yn fodlon iawn â'r gwasanaethau post, a'r gwerth am arian.
  • Mae mwy o gystadlu ac arloesi wedi bod yn y sector parseli. Mae'r Post Brenhinol wedi parhau i fod mewn sefyllfa dda o ran danfon parseli bychan, unigol.

Wrth ystyried y farchnad lythyrau sy'n dirywio a mwy o gystadleuaeth o ran danfon parseli, nid yw Ofcom yn cynnig gorfodi rheolaethau newydd ar brisiau ar gynnyrch adwerthu na chyfanwerthu'r Post Brenhinol.

Fel y rheoleiddiwr post, mae gan Ofcom ddyletswydd i ddiogelu'r gwasanaeth cyffredinol a sicrhau ei fod yn parhau'n effeithlon. Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan bwysau ariannol sylweddol ar ôl blynyddoedd o ostyngiad yn nifer y llythyrau sy'n cael eu danfon, ac roedd yn gwneud colled o fwy na £100m yn 2011.

Ysgogodd y pryderon hyn Ofcom i gyflwyno fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio'r post yn 2012, gyda mwy o ryddid masnachol i'r Post Brenhinol - a hefyd cap diogelu ar brisiau stampiau er mwyn gwarchod defnyddwyr agored i niwed. Heddiw mae Ofcom yn cynnig gadael y fframwaith hwn, a'r cap diogelu, yn eu lle.

Gwarchod llythyrau heb eu tracio

Rhaid i bob cwmni post sy'n danfon llythyrau 'heb eu tracio' - fel llythyrau meddygol, cyfriflenni banc a chardiau pen-blwydd - leihau'r risg o golli, lladrata neu ddifrodi o dan y cynlluniau a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad heddiw.

Gall fod yn bwysig iawn diogelu llythyrau heb eu tracio, a gallant fod yn werthfawr i'r sawl sy'n eu derbyn - er mai anaml iawn y byddant yn cynnwys eitemau sydd â gwerth enwol uchel, sy'n cael eu hanfon drwy wasanaeth tracio yn aml iawn.

Gall enghreifftiau o lythyrau heb eu tracio gynnwys biliau cerdyn credyd, apwyntiadau ysbyty neu ganlyniadau arholiad. Hefyd, mae llythyrau heb eu tracio yn fwy tebygol o fynd ar goll am nad yw'r sawl sy'n eu derbyn yn disgwyl cael dim o bosib.

Mae Ofcom eisoes yn nodi rheolau ynghylch gofalu am bost - gan gynnwys sut dylai cwmnïau post recriwtio a hyfforddi staff, sicrhau diogelwch post a rhoi gwybod i'r rheoleiddiwr am ddigwyddiadau difrifol.

Yn ôl y cynigion heddiw, byddai'n rhaid i'r cwmnïau post ganolbwyntio ar sicrhau bod llythyrau'n4 cyrraedd yn ddiogel. Mae Ofcom yn bwriadu cyflwyno rheolau newydd i egluro sut mae'n rhaid i gwmnïau post ofalu am yr eitemau hyn - gan symud ffocws y rheoliad o'r gofynion logistaidd a gweithdrefnol, tuag at asesu gwir berfformiad cwmnïau post. Byddai'r rhai sy'n methu â chyrraedd y targedau newydd yn wynebu dirwyon.

Dywedodd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Cystadleuaeth Ofcom: "Dylai defnyddwyr fod yn gwbl hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau post. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod llythyrau heb eu tracio, ond sydd â chynnwys pwysig yr un fath o bosibl, yn cyrraedd yn ddiogel."

Rheolau newydd i'r Post Brenhinol a chwmnïau post

Mae adolygiad Ofcom yn dangos cystadleuaeth gref yn y farchnad 'mynediad' - lle mae cwmnïau sy'n cystadlu yn casglu ac yn didoli post cyn ei drosglwyddo i'r Post Brenhinol i'w ddanfon. Mae'r post mynediad yn cynrychioli tua 56% o'r holl lythyrau yn y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, mae Ofcom yn cynnig tynhau rheolau yn y maes hwn. Yn gyntaf, atal y Post Brenhinol rhag rhoi cyfnodau rhybudd byrrach ar gyfer telerau contract i gwmnïau mynediad. Yn ail, ymateb o fewn chwe wythnos pan fydd cwsmer cyfanwerthu'n gofyn am gynnyrch tebyg i un sy'n cael ei werthu'n barod gan y Post Brenhinol.

Hefyd, mae Ofcom yn pryderu bod gan y Post Brenhinol y potensial i roi cymhorthdal i'w fusnes parseli drwy ei fusnes llythyrau - lle mae ganddo gyfran llawer mwy yn y farchnad a rhwydwaith danfon sydd wedi'i sefydlu - mewn modd a allai achosi anfantais i gwmnïau parseli eraill.

Felly bydd Ofcom yn dechrau monitro'n ofalus i sicrhau bod y Post Brenhinol yn dyrannu ei gostau rhwng parseli a llythyrau yn briodol.

Y camau nesaf

Mae ymgynghoriad heddiw ar yr Adolygiad o'r gwaith o Reoleiddio'r Post Brenhinol yn dod i ben ar 3 Awst 2016. Mae Ofcom yn gobeithio cyhoeddi datganiad ar ei benderfyniadau terfynol yn ddiweddarach eleni.

Bydd Ofcom yn parhau i fonitro'r farchnad bost yn agos, ac yn ymyrryd, os bydd angen, er mwyn amddiffyn y gwasanaeth post cyffredinol.

DIWEDD

 

NODIADAU I OLYGYDDION

1. O ran gwerth y gwasanaeth cyffredinol i ddefnyddwyr, edrychwch ar Adolygiad blaenorol Ofcom o Anghenion Defnyddwyr Post.
2. Cyhoeddwyd adolygiad Ofcom y llynedd, ar ôl i Whistl, un o gystadleuwyr y Post Brenhinol, gyhoeddi ei fod yn tynnu'n ôl o'r farchnad ar gyfer danfon yn uniongyrchol - lle mae cwmni'n casglu, yn didoli ac yn danfon post swmp gan ddefnyddio ei rwydwaith ei hun yn unig. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan y Post Brenhinol unrhyw gystadleuaeth genedlaethol ar gyfer danfon llythyrau yn uniongyrchol.
3. Yn ôl dadansoddiad Ofcom, petai'r Post Brenhinol yn cynyddu effeithlonrwydd cyfartalog ei 1,400 o swyddfeydd didoli 10% i gyd-fynd â'i rai sy'n perfformio orau, gallai'r cwmni gynyddu effeithlonrwydd cyffredinol ei swyddfeydd 10%.
4. Bydd hyn yn berthnasol i lythyrau a llythyrau mawr. Mae llythyrau mawr yn golygu unrhyw eitem sy'n fwy na Llythyr a hyd at 353mm o ran hyd, 250mm o ran lled, a 25mm o ran trwch, ac sy'n pwyso dim mwy na 750g.
5. Ar wahân i'r Adolygiad o'r gwaith o Reoleiddio'r Post Brenhinol, bydd Ofcom yn ymchwilio i weld a yw'r Post Brenhinol wedi cam-fanteisio ar safle cryf yn groes i'r Ddeddf Cystadleuaeth 1998, yn rhinwedd y prisiau mynediad a gyhoeddwyd ganddo ym mis Tachwedd 2013 ac ym mis Ionawr 2014. Daeth yr ymchwiliad hwn yn dilyn cwyn gan TNT Post UK (sef Whistl erbyn hyn). Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Ofcom Ddatganiad Gwrthwynebiad i'r Post Brenhinol, yn cyflwyno barn Ofcom dros dro fod y Post Brenhinol wedi torri'r gyfraith ar gystadleuaeth drwy ymddwyn mewn ffordd a arweiniodd at wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn cwmnïau post a oedd yn cystadlu yn erbyn y Post Brenhinol wrth ddanfon. Mae Ofcom yn disgwyl y bydd yn gwneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.