Mae mwy nag erioed o rieni’r DU yn teimlo bod defnydd ar-lein plant yn cario mwy o risg nag o fanteision erbyn hyn, yn ôl astudiaeth flynyddol ddiweddaraf Ofcom o fywydau plant ar y cyfryngau ac ar-lein. [1]
Mae rhieni a gofalwyr yn dod yn fwy tebygol o ganiatáu mwy o annibyniaeth ddigidol i’w plant a hwythau’n iau [2]. Ond mae llawer llai’n credu bod manteision bod ar-lein yn fwy na'r risg i’w plentyn nag oedd bum mlynedd yn ôl (55% ar draws y DU, lawr o 65% yn 2015). Mae rhieni a gofalwyr yng Nghymru, fodd bynnag, yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o deimlo’n fwy cadarnhaol ynglŷn â’r rhyngrwyd, gyda dwy ran o dair (67%) yn cytuno bod y manteision i’w plant yn fwy na'r risg.
Daw hyn ar adeg pan mae plant yn fwy tebygol o weld cynnwys casineb ar-lein. Roedd hanner (51%) y rhai 12-15 oed ar draws y DU sy’n mynd ar-lein wedi gweld cynnwys casineb yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi cynyddu o 34% yn 2016. Dywed llai o blant yng Nghymru eu bod yn gweld y math hwn o gynnwys (37%). [3]
Mae rhieni ar draws y DU yn mynd yn fwy a mwy pryderus y gallai eu plentyn weld cynnwys a allai ei annog i niweidio ei hun (45%, wedi codi o 39% yn 2018); mae hyn yn arbennig o wir ymysg rhieni yng Nghymru (65%). Yn yr un modd, mae problemau’n ymwneud â hapchwarae yn achosi pryder arbennig i rieni yng Nghymru; y pwysau o fewn gemau ar i’w plentyn brynu pethau fel ‘loot boxes’, rhith eitemau sy’n cynnwys gwobrau (55% o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 42%) a’r posibilrwydd i’w plentyn gael ei fwlio drwy gemau ar-lein (51% o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 36%).
Fodd bynnag, mae rhieni’r DU yn fwy tebygol nawr nag yn 2018 o siarad â’u plant am aros yn ddiogel ar-lein (85%, wedi codi o 81%). Mae rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o gael y sgyrsiau hyn (95%) na chyfartaledd y DU. Mae rhieni’r DU hefyd bron ddwywaith yn fwy tebygol o fynd ar-lein eu hunain i gael cymorth a gwybodaeth am gadw eu plant yn ddiogel nag oeddent flwyddyn yn gynt (21%, wedi codi o 12%). Eto, mae rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o wneud hyn na chyfartaledd y DU (33%).
O edrych ar yr hyn y mae plant heddiw yn ei wneud ar-lein, mae Ofcom wedi darganfod tri llinyn ar-lein amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r astudiaeth heddiw yn canfod bod plant hŷn yn defnyddio ystod ehangach o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol nag erioed o’r blaen. Mae WhatsApp yn arbennig wedi tyfu mewn poblogrwydd ymysg blant 12-15 oed ers y llynedd, er bod iddo isafswm oedran o 16.
Caiff WhatsApp ei ddefnyddio gan bron i ddwy ran o dair o blant hŷn erbyn hyn (62%) – wedi codi o 43% yn 2018. Am y tro cyntaf, mae’n cystadlu â Facebook (69%), Snapchat (68%) ac Instagram (66%) fel un o’r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i blant hŷn.
Mae llwyfannau mwy newydd fel TikTok - sy’n galluogi defnyddwyr i greu fideos cydwefuso, comedi a thalent 15 eiliad - hefyd yn dod yn fwy poblogaidd. Mae tua un o bob saith plentyn hŷn ar draws y DU yn defnyddio TikTok (13%) - wedi codi o 8% yn 2018. Mae un o bob 20 plentyn hŷn yn defnyddio Twitch - y llwyfan ffrydio byw i’r rhai sy’n chwarae gemau. Mae’r gyfran o rai 8-15 oed yng Nghymru sy’n defnyddio TikTok (12%) a Twitch (7%) yn debyg.
Mae plant yn defnyddio mwy o ddyfeisiau wedi’u cysylltu nag erioed o’r blaen. Ymysg y rhain, yn y defnydd o seinyddion clyfar y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae mwy na chwarter y plant yn eu defnyddio erbyn hyn - wedi codi o 15% yn 2018 - mwy nag sy’n defnyddio radios (22%) am y tro cyntaf. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o ddefnyddio seinyddion clyfar (41%) a radios (33%). Cynyddodd defnydd plant y DU o setiau teledu clyfar hefyd o 61% i 67% yn 2019 - sy’n gyson â’r defnydd ymysg plant yng Nghymru (68%).
Mae arferion gwylio plant yn newid yn fawr hefyd. Mae bron ddwywaith cymaint o blant yn gwylio cynnwys wedi’i ffrydio nag oedd bum mlynedd yn ôl (80% yn 2019 o’i gymharu â 44% yn 2015). Yn 2019, gwyliodd llai o blant deledu wedi’i ddarlledu’n draddodiadol na chynnwys wedi’i ffrydio (74%), ac nid oedd chwarter yn ei wylio o gwbl. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o wylio teledu sy’n cael ei ddarlledu (81%) na chyfartaledd y DU, ond mae’r gyfran sy’n gwylio cynnwys wedi’i ffrydio yn debyg i’r DU.
O ran mynd ar-lein, mae plant yn fwyaf tebygol o ddefnyddio dyfais tabled (68%), ond mae ffonau symudol yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae plant yr un mor debygol o ddefnyddio ffôn symudol â gliniadur (55%) erbyn hyn. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o ddefnyddio dyfais tabled i fynd ar-lein (79%), ond yr un mor debygol o ddefnyddio ffôn symudol (55%). [5]
Mae’r symudiad hwn tuag at ffôn symudol yn cael ei yrru gan blant hŷn yn y DU; iddyn nhw, 10 erbyn hyn yw’r oedran pan fyddant yn cael annibyniaeth ddigidol. Rhwng naw a 10 oed, mae cyfran y plant sy’n berchen ar ffôn clyfar yn dyblu o 23% i 50% – gan roi mwy o annibyniaeth ddigidol iddynt wrth baratoi i symud i’r ysgol uwchradd. Erbyn iddynt gyrraedd 15 oed, mae gan bob plentyn bron (94%) ffôn symudol.[6]
Yn ôl Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Nid yw plant heddiw erioed wedi byw heb y rhyngrwyd, ond erbyn hyn mae dau filiwn o rieni’n teimlo bod y rhyngrwyd yn achosi mwy o niwed na lles iddynt.
“Mae’n galonogol felly fod rhieni, gofalwyr ac athrawon yn cael mwy o sgyrsiau nawr nag erioed o’r blaen gyda phlant am ddiogelwch ar-lein. Bydd addysg a rheoleiddio cryfach hefyd yn helpu plant i gofleidio’u hannibyniaeth ddigidol, gan eu hamddiffyn rhag y risgiau yr un pryd.”
DIWEDD
Adroddiad ymchwil ansoddol gan Revealing Reality, wedi’i gomisiynu gan Ofcom, yw Children’s Media Lives. Mae’n darparu dealltwriaeth drylwyr o sut mae sampl o 18 plentyn, rhwng wyth a 18 oed, yn meddwl am gyfryngau digidol ac yn eu defnyddio, a sut mae hyn wedi newid dros amser.
Rydyn ni’n fwy tebygol o ymddiried mewn plant i gael eu ffôn clyfar eu hunain nag oedden ni bum mlynedd yn ôl.
Oed | 2015 | 2019 |
---|---|---|
7 | 6% | 10% |
8 | 7% | 11% |
9 | 14% | 23% |
10 | 30% | 50% |
11 | 47% | 64% |
15 | 83% | 94% |
3. Mae ‘cynnwys casineb' yn cyfeirio’n benodol at gynnwys sydd wedi’i anelu at grŵp neilltuol o bobl, ar sail, er enghraifft, eu rhyw, eu crefydd, eu hanabledd, eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.
4. Pan ofynnir i blant y DU ddewis un yn unig i’w wylio, maen nhw’n fwy tebygol o ddewis YouTube (44%) yn hytrach na gwasanaethau ffrydio fel Netflix, Now TV ac Amazon Prime Video (32%); neu sianeli teledu fel y BBC ac ITV (17%).
5. Mae plant yn y DU nawr yr un mor debygol o ddefnyddio’u ffôn symudol â gliniadur (55% y naill a'r llall). Mae chwarter (26%) yn gwylio’r teledu a ffilmiau ar eu ffôn, wedi codi o 20% flwyddyn yn unig yn ôl.
6. Perchnogaeth dyfeisiau ymysg plant y DU:
7. Caiff Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ei gynnal ar 11eg Chwefror 2020 ar thema fyd-eang ‘Gyda’n gilydd o blaid gwell rhyngrwyd’, a theitl yr ymgyrch yn y DU eleni yw ‘Rhyddid i fod yn fi’. Yn cael ei gyd-drefnu yn y DU gan Ganolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel y DU mae’r dathliad yn galw ar filoedd o sefydliadau i gymryd rhan i helpu i hyrwyddo defnyddio diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc. www.saferinternetday.org.uk #DiwrnodDefnyddio'rRhyngrwydYnFwyDiogel #RhyddidIFodYnFi