Canlyniadau prif gam yr arwerthiant tonnau awyr symudol

05 Ebrill 2018

  • Y prif gam bidio ar gyfer arwerthiant sbectrwm wedi dod i ben
  • Bydd tonnau awyr newydd yn cynyddu gwasanaethau symudol 4G presennol a 5G yn y dyfodol

Mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniad prif gam ei arwerthiant i ryddhau tonnau awyr ar gyfer gwasanaethau symudol 4G a gwasanaethau 5G yn y dyfodol.

Rydym wedi bod yn cynnal arwerthiant o donnau awyr – neu sbectrwm – mewn dau fand amledd:

  • 2.3 GHz, y gall ffonau symudol presennol ei ddefnyddio ac a fydd o gymorth i wella capasiti 4G ar gyfer defnyddwyr symudol heddiw; a
  • 3.4 GHz, sy’n un o’r bandiau sbectrwm a glustnodwyd ar gyfer 5G, y genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol.

Mae’n ddyletswydd ar Ofcom i reoli defnydd y sbectrwm yn effeithlon, a lluniwyd yr arwerthiant i gyflawni hyn.

Bu pum cwmni’n cymryd rhan ym mhrif gam yr arwerthiant. Roedd y prif gam, sydd newydd orffen, yn cynnwys 34 o ‘lotiau’ sbectrwm oedd ar gael ar draws dau fand.

Cadarnhaodd Ofcom heddiw faint y sbectrwm a enillwyd yn y prif gam gan bob cwmni.

Canlyniadau’r prif gam

  • Nid yw Airspan Spectrum Holdings Limited wedi ennill unrhyw sbectrwm yn y naill fand.
  • Mae EE Limited wedi ennill 40 MHz o’r sbectrwm 3.4 GHz am gost o £302,592,000.
  • Mae Hutchinson 3G UK Limited wedi ennill 20 MHz o’r sbectrwm 3.4GHz am gost o £151,296,000.
  • Mae Telefónica UK Limited wedi ennill yr holl 40 MHz o’r sbectrwm 2.3 GHz oedd ar gael am gost o £205,896,000; a 40 MHz o’r sbectrwm 3.4 GHz am gost o £317,720,000.
  • Mae Vodafone Limited wedi ennill 50 MHz o’r sbectrwm 3.4GHz am gost o £378,240,000.

Cyfanswm y prif gam yw £1,355,744,000 a chaiff yr holl arian a godir gan yr arwerthiant ei dalu i Drysorlys EM.

Camau nesaf

Bydd Ofcom yn awr yn symud i’r cam ‘neilltuo’, sef cam bidio olaf yr arwerthiant. Mae hon yn broses fer, sy’n caniatáu i gwmnïau sydd wedi ennill sbectrwm yn y prif gam i fidio i bennu ymhle yn y bandiau amledd y bydd eu sbectrwm newydd wedi’i leoli.

Ar ddiwedd y cam neilltuo, byddwn yn cyhoeddi trwyddedau i’r bidwyr llwyddiannus  ddefnyddio’r sbectrwm perthnasol o fewn ychydig ddyddiau, gan eu galluogi i ddechrau gwneud defnydd ohono. Disgwyliwn gyhoeddi canlyniadau’r arwerthiant terfynol yn fuan wedyn.

Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm yn Ofcom: “Dyma newyddion da i bawb sy’n defnyddio’u ffonau symudol i fynd ar y rhyngrwyd. Fel cenedl rydym yn defnyddio mwy a mwy o ddata symudol ar ffonau clyfar a dyfeisiau symudol. Bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws mynd ar-lein pan fydd rhywun ar grwydr. Bydd hefyd yn caniatáu i gwmnïau baratoi ar gyfer 5G symudol, gan fraenaru’r tir ar gyfer ystod o ddyfeisiau clyfar wedi cysylltu â’i gilydd.”

Mae’r arwerthiant sbectrwm yn un rhan o waith Ofcom i wella gwasanaethau symudol. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau symudol ymestyn eu rhwydweithiau wrth i fwy o donnau awyr gael eu rhyddhau y flwyddyn nesaf.  Rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth i’w gwneud yn haws i gwmnïau osod mastiau. Ac rydym yn gwneud dyfeisiau mwyhau ffonau symudol yn gyfreithlon – dyfeisiau sy’n helpu i gynyddu signal symudol yng nghartrefi pobl.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae canllaw manwl i broses yr arwerthiant a Chwestiynau ac Atebion ar gael o wefan Ofcom.