Bydd cwsmeriaid BT sydd ond yn prynu gwasanaeth ffôn llinell dir yn gweld eu biliau misol yn disgyn £7 y mis, ar ôl adolygiad Ofcom.
Mae hyn yn golygu arbed £84 y flwyddyn, neu 37%, i hyd at filiwn o gwsmeriaid llinell dir yn unig BT.
Mae’r bobl yma wedi bod yn cael gwerth gwael am arian dros y blynyddoedd diwethaf, wrth gymharu â'r rheini sy’n prynu bwndeli o wasanaethau llinell dir, band eang a/neu deledu drwy dalu. Mae agos i ddau ymhob tri (66%) o gwsmeriaid sydd dim ond â llinell dir dros 65 oed a dydy dros dri chwarter (77%) erioed wedi newid darparwr.
Mae Ofcom yn poeni bod prisiau rhentu llinellau ffôn wedi codi, er gwaethaf y ffaith bod costau cyfanwerthol wedi disgyn. Yn dilyn adolygiad o’r farchnad hon, rydyn ni wedi gosod cynigion pendant i ostwng biliau misol ar gyfer cwsmeriaid llinell dir yn unig BT rhwng £5 a £7.
Mewn ymateb, mae BT wedi cytuno i’n cynnig yn llawn ac mae’n torri £7 oddi ar bris rhentu llinell misol o fis Ebrill 2018 ymlaen ar gyfer ei gwsmeriaid sydd ond yn defnyddio llinell dir gan BT. [1]
Bydd y cwsmeriaid llinell dir yn unig hyn - sy’n talu £18.99 y mis am rentu llinell ar hyn o bryd - yn talu £11.99, a fydd yn golygu arbed £84 ar eu bil ffôn bob blwyddyn. Bydd y gostyngiad hwn o 37% yn dod â rhent llinell BT ar gyfer y cartrefi hyn yn ôl i lefel debyg i’r hyn a welwyd yn 2009.
Nid oes angen i o leiaf 800,000 o’r cwsmeriaid llinell dir yn unig hyn wneud dim byd i hawlio’r gostyngiad hwn mewn prisiau – bydd yn ymddangos ar eu biliau’n awtomatig. Byddan nhw wedyn yn cael eu diogelu rhag cynnydd prisiau termau real, gyda chostau rhentu llinell a galwadau’n cael eu capio ar gyfradd chwyddiant.
Gallai tuag at 200,000 o gwsmeriaid pecyn ‘Home Phone Saver’ BT fod yn gymwys hefyd. Gall y grŵp hyn o gwsmeriaid ddewis aros ar eu pecyn presennol neu symud i’r cynnyrch safonol sy’n cael ei ostwng, yn dibynnu ar y fargen orau. [2]
Os na fydd BT yn gwneud hyn, bydd Ofcom yn camu i mewn.
Dywedodd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Grŵp Cystadleuaeth Ofcom: “Llinell dir nifer o bobl ydy eu cyswllt nhw â’r byd.
“Ond mae cartrefi sydd dim ond â llinell dir – a dim band eang – wedi gweld eu biliau ffôn yn codi’n sylweddol. Mae nifer ohonynt mewn oed ac wedi bod yn gwsmeriaid i BT ers degawdau. Rydyn ni’n glir ei bod yn rhaid iddynt gael bargen well. Felly rwy’n falch i weld bod BT wedi ymateb i’n cynlluniau yn llawn drwy gynnig gostyngiad sylweddol ym mhrisiau biliau’r cwsmeriaid hyn.”
Ar ei hôl hi
Mae’n rhaid i ddarparwyr telegyfathrebiadau barhau i wella ansawdd eu gwasanaethau ac mae gormod o gwsmeriaid yn parhau i gael problemau. Ond ar y cyfan mae cwsmeriaid sy’n prynu gwasanaethau cyfathrebu mewn bwndel yn cael llawer mwy am eu harian, diolch i gystadleuaeth gref yn y farchnad. Yn groes i hynny, nid ydy cwsmeriaid llinell dir yn unig yn cael cymaint o ddewis, gyda nifer o ddarparwyr wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r cynnyrch hwn yn gyfan gwbl.
Mae ein dadansoddiad yn dangos bod yr holl ddarparwyr llinell dir mawr wedi cynyddu eu prisiau rhentu llinell yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar – rhwng 23% a 47% mewn termau real. Ac mae hyn yn digwydd er bod darparwyr wedi elwa o ostyngiad o ryw 27% yng nghost gyfanwerthol sylfaenol darparu’r gwasanaeth.
O’r 1.5 miliwn o gwsmeriaid llinell dir yn unig yn y DU, mae dwy ran o dair gyda BT. Mae'r sefyllfa hon wedi golygu bod BT wedi gallu cynyddu prisiau heb lawer o berygl o golli cwsmeriaid, ac mae darparwyr eraill wedi dilyn BT. Rydyn ni’n disgwyl y bydd darparwyr eraill nawr yn dilyn BT wrth iddo dorri £7 oddi ar ei brisiau.
Cael bargen well
Mae Ofcom hefyd eisiau helpu pobl sy’n prynu gwasanaeth ffôn gan un darparwr a gwasanaeth band eang gan ddarparwr arall.
Er na fydd y gostyngiad hwn mewn prisiau’n berthnasol i’r grŵp hwn, mae’r cytundeb yn mynnu bod BT yn helpu'r cwsmeriaid hyn i fanteisio ar y bargeinion sydd ar gael yn y farchnad, drwy egluro y byddai modd iddyn nhw gael bargen well drwy brynu gwasanaethau fel rhan o fwndel.
Ar wahân, mae Ofcom yn edrych ar fesurau i helpu pobl i chwilio am y fargen orau gyda mwy o hyder, er mwyn iddyn nhw allu manteisio’n llawn ar y dewis eang o wasanaethau cystadleuol.
Byddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar y farchnad, er mwyn sicrhau bod gweithredoedd BT yn mynd i’r afael â’r problemau rydyn ni wedi’u nodi. Os bydd gennym unrhyw bryderon am ddefnyddwyr neu gystadleuaeth, byddwn yn ystyried yr angen am ymyriad pellach.
Mynd i’r afael â phrisiau llinellau tir ydy'r diweddaraf mewn cyfres o fesurau gan Ofcom i helpu cwsmeriaid telathrebu. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod pobl a busnesau’n cael gwybodaeth well am gyflymder band eang cyn ymrwymo i gontract; a chryfhau’r rheolau cyffredinol mae’n rhaid i bob darparwr eu dilyn.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION