25 February 2016
Heddiw, mae Ofcom wedi amlinellu sut mae’n bwriadu gwella ansawdd a darpariaeth telegyfathrebiadau er mwyn gwneud yn siŵ r bod defnyddwyr a busnesau yn y DU yn cael y gwasanaethau ffôn a band eang gorau posib.
Dyma gasgliadau cychwynnol Adolygiad Strategol Ofcom o Gyfathrebiadau Digidol, a gyhoeddwyd y llynedd, sydd â'r amcan o sicrhau bod y DU ar flaen y gad yn yr economi ddigidol dros y degawd nesaf a thu hwnt.
Mae nifer o’r mesurau hyn yn effeithio ar bob un o’r prif gwmnï au sy’n darparu gwasanaethau ffôn a band eang. Mae rhai eraill yn ymwneud yn benodol ag Openreach, yr is-adran o BT sy’n cynnal rhwydwaith ffôn a band eang mwyaf y DU ar ran darparwyr sy'n cystadlu â’i gilydd.
Nod y penderfyniadau mae Ofcom wedi'u gwneud yw sicrhau:
Heddiw, mae Ofcom yn cyhoeddi strategaeth newydd i hyrwyddo'r broses o gyflwyno rhwydweithiau band eang tra chyflym newydd ar raddfa fawr (sy’n defnyddio llinellau cebl a ffibr) fel dewis amgen i’r technolegau copr yn rhannol y mae BT yn eu cynllunio ar hyn o bryd.
Bydd cefnogi buddsoddiad gan ddarparwyr sy'n cystadlu â’i gilydd yn lleihau dibyniaeth y wlad ar Openreach ac yn cynyddu'r pwysau cystadleuol ar ei rwydwaith.
I helpu i wneud hyn, bydd angen i Openreach agor ei bolion telegraff a’i bibelli - y twneli bach o dan y ddaear sy’n cario llinellau telegyfathrebiadau - i eraill. Gan ddefnyddio’r rhain, bydd modd i ddarparwyr sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd adeiladu eu rhwydweithiau ffibr eu hunain, i'w cysylltu’n uniongyrchol â chartrefi a swyddfeydd.
Mae’n rhaid i Openreach ei gwneud yn haws o lawer i gystadleuwyr gael mynediad at y rhwydwaith hwn, a darparu data mwy cynhwysfawr ar natur a lleoliad ei bibelli a’i bolion. Bydd y ‘map digidol’ newydd hwn o'r DU yn gadael i weithredwyr sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd fuddsoddi, cynllunio a gosod rhwydweithiau datblygedig. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut maent yn derbyn eu gwasanaethau ffôn a band eang.
Mae Openreach yn rhan o Grŵ p BT, ond mae ganddo rwymedigaethau i drin ei holl gwsmeriaid yn gyfartal. Cyflwynodd Ofcom y strwythur hwn yn 2005, ac mae manteision wedi dod yn ei sgil, gan gynnwys cystadleuaeth gryfach.
Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth sydd wedi deillio o adolygiad Ofcom yn dangos bod gan Openreach gymhelliant o hyd i wneud penderfyniadau er budd BT, yn hytrach na chystadleuwyr BT, ac mae hyn yn gallu arwain at broblemau o ran cystadleuaeth.
Er enghraifft, nid yw trefniadau llywodraethu Openreach yn ddigon annibynnol ar Grŵ p BT. Mae gan y cwmni ehangach reolaeth o hyd dros benderfyniadau Openreach a’r gyllideb ar gyfer y rhwydwaith, ac nid yw cwmnï au telegyfathrebiadau eraill wedi cael eu cynnwys ddigon mewn cynlluniau buddsoddi sy'n effeithio arnynt.
Am y rhesymau hyn, mae Ofcom wedi penderfynu bod angen ailwampio trefniadau llywodraethu Openreach a’i wneud yn fwy annibynnol ar BT. Yn y dyfodol, mae angen i Openreach wneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch y gyllideb, buddsoddiadau a strategaethau - fel cyflwyno rhwydweithiau newydd.
Dylai fod yn ofynnol i reolwyr Openreach gynnig yr un gwasanaeth i bob cwsmer cyfanwerthol, ac ymgynghori â nhw ar gynlluniau buddsoddi. Bydd prosesau mwy agored hefyd o ran sut mae costau ac asedau’n cael eu dyrannu rhwng Openreach a gweddill BT.
Bydd Ofcom yn paratoi cynigion manwl yn ddiweddarach eleni i roi’r newidiadau hyn ar waith. O dan y model newydd, mae’n bosib y bydd angen cadw Openreach ar wahân, a’i wneud yn is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Grŵ p BT, gyda’i ddibenion a’i aelodau bwrdd ei hun. Os bydd angen, mae Ofcom yn cadw’r hawl i’w wneud yn ofynnol i BT wneud Openreach yn endid cyfreithiol cwbl ar wahân, gyda’i gyfranddalwyr ei hun.
Mae Ofcom yn bwriadu cyflwyno ystod o fesurau i sicrhau bod pob cwmni ffôn a band eang yn darparu gwasanaethau o ansawdd mae cwsmeriaid yn eu disgwyl.
Yn gyntaf, bydd gofynion sylfaenol llymach yn cael eu gosod ar Openreach ar gyfer trwsio diffygion a gosod llinellau newydd yn gyflymach. Bydd y rhain yn adeiladu ar fesurau a gyflwynodd Ofcom yn 2014, ond byddant yn gosod safonau sylfaenol uwch ac yn cynnwys agweddau eraill ar berfformiad, fel pa mor aml mae diffygion yn digwydd.
Yn ail, bydd Ofcom yn cyflwyno tablau perfformiad ar ansawdd gwasanaethau, gan enwi’r gweithredwyr gorau a’r gweithredwyr gwaethaf ar ystod o fesurau perfformiad er mwyn i gwsmeriaid allu bod yn ffyddiog wrth ystyried a dewis gwasanaethau.
Yn drydydd, mae Ofcom yn bwriadu cyflwyno iawndal awtomatig i ddefnyddwyr a busnesau pan fydd pethau’n mynd o’i le. Ni fydd rhaid i gwsmeriaid band eang, llinellau sefydlog a gwasanaethau symudol fynd ati eu hunain i wneud cais am iawndal mwyach, byddant yn cael eu had-dalu’n awtomatig os byddant yn colli neu’n cael llai o wasanaeth.
Mae’r ddarpariaeth gwasanaethau symudol a band eang yn cynyddu’n gyflym. Erbyn hyn, mae mwy nag wyth o bob deg eiddo yn y DU yn cael band eang cyflym iawn, a disgwylir y bydd hyn yn cynyddu i 95% y flwyddyn nesaf. O dan reolau Ofcom, mae’n rhaid i 98% o gartrefi a swyddfeydd gael signal symudol 4G o dan do erbyn y flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, mae Ofcom yn dal yn poeni am y rheini sydd ddim yn gallu cael gwasanaeth derbyniol. Byddwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod gan bob cartref a busnes yn y DU hawl gyffredinol i gael band eang cyflym a fforddiadwy. Rydym hefyd yn bwriadu gosod rhwymedigaethau newydd ar drwyddedau sbectrwm yn y dyfodol i wella darpariaeth symudol yng nghefn gwlad.
Bydd Ofcom hefyd yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr wybodaeth gywir a hawdd ei defnyddio am ddarpariaeth, er mwyn eu helpu i ddewis y darparwr gorau. Bydd hyn yn rhoi rhagor o bwysau ar weithredwyr rhwydweithiau symudol i wella’r ddarpariaeth.
Y llynedd, lansiodd Ofcom fap cynhwysfawr o’r ddarpariaeth symudol yn ôl cod post ar gyfer y DU gyfan. Bydd yn cael ei ddiweddaru cyn hir i gynnwys darpariaeth band eang, ac rydym yn bwriadu cynnig data ar gyfer cyfeiriadau unigol yn y dyfodol.
Cyn bo hir bydd Ofcom yn ymgynghori ar gynlluniau i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid gwasanaethau symudol newid darparwr, er mwyn helpu i gael mwy o gystadleuaeth yn y farchnad.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae pobl ym mhob cwr o’r DU heddiw angen gwasanaethau ffôn a band eang fforddiadwy a dibynadwy. Mae darpariaeth ac ansawdd gwasanaethau yn gwella, ond nid yw hynny’n digwydd yn ddigon cyflym i fodloni disgwyliadau cynyddol defnyddwyr a busnesau.
“Felly rydym wedi cyhoeddi heddiw y bydd y farchnad telegyfathrebiadau yn cael ei diwygio - mwy o gystadleuaeth, strwythur newydd i Openreach, targedau perfformiad llymach ac ystod o fesurau i wella ansawdd gwasanaethau.
“Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bargen well i ddefnyddwyr telegyfathrebiadau, a fydd yn gwella’r gwasanaethau a’r rhwydweithiau sy’n rhan ganolog o’n gwaith a’n ffordd o fyw.”
Mae casgliadau cychwynnol heddiw yn egluro camau nesaf yr holl bolisï au sy’n deillio o adolygiad Ofcom. Er enghraifft, dros y flwyddyn nesaf bydd Ofcom yn: