Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi sut y byddwn yn rhyddhau tonnau awyr pwysig i helpu i wella band eang symudol a chefnogi'r broses o gyflwyno 5G.
Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sef adnodd y mae pen draw iddo sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys ffonau symudol.
I helpu i wella gwasanaethau symudol a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar rwydweithiau 5G, byddwn yn rhyddhau rhagor o donnau awyr symudol mewn arwerthiant. Bydd hyn yn cynyddu faint o donnau awyr sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau symudol yn y DU bron i un rhan o bump (18%). Ar ôl ymgynghoriad, rydym heddiw wedi cadarnhau'r rheolau ar gyfer sut bydd yr arwerthiant yn gweithio.
Yn yr arwerthiant, bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am sbectrwm mewn dau fand amledd gwahanol.
Yn debyg i’n harwerthiant sbectrwm yn 2018, bydd dau gam yn arwerthiant eleni. Fel hyn bydd yn gweithio:
I roi’r cyfle i weithredwyr symudol i greu ‘blociau’ mwy cyson o Sbectrwm sy’n barod ar gyfer 5G, mae’r cam neilltuo yn golygu y bydd y rheini sy’n ennill sbectrwm 3.6-3.8 GHz yn yr arwerthiant yn negodi eu lleoliadau yn y band ymysg ei gilydd.
Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. Rydym hefyd yn sicrhau bod cwmnïau’n gallu cystadlu'n deg a bod gan gwsmeriaid ddewis cryf o rwydweithiau symudol. Er mwyn helpu i gynnal cystadleuaeth gref ym marchnad symudol y DU, byddwn yn gosod cap o 37% ar gyfanswm y sbectrwm y gall un cwmni fod yn berchen arno ar ôl yr arwerthiant.
Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod wedi dod i gytundeb gyda’r pedwar cwmni rhwydweithiau symudol - BT/EE, O2, Three a Vodafone – i sefydlu Rhwydwaith Gwledig a Rennir er mwyn gwella darpariaeth symudol ar draws y DU. Mae hyn yn golygu y bydd pob cwmni’n ymrwymo i ddarparu darpariaeth 4G o ansawdd da i o leiaf 90% o’r DU dros chwe blynedd.
Wrth i gwmnïau symudol gydweithio, gyda chefnogaeth cyllid gan y Llywodraeth, bydd y cytundeb yn cyflawni darpariaeth well nag y gallai Ofcom fod wedi'i fynnu o dan ein pwerau, ac felly ni fyddwn yn cynnwys dyletswyddau darpariaeth yn ein harwerthiant.
Mae’r pedwar cwmni rhwydweithiau symudol wedi cytuno i Ofcom amrywio eu trwyddedau sbectrwm er mwyn i’r ymrwymiadau darpariaeth ddod i rym. Byddwn hefyd yn monitro ac yn adrodd ar y cynnydd y maent yn ei wneud o ran cyflawni'r ymrwymiadau newydd.
Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: “Mae’r galw am allu mynd ar-lein wrth symud ar gynnydd, gyda chwsmeriaid symudol yn defnyddio bron i 40% yn fwy o ddata o un flwyddyn i'r llall. Felly bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn rhoi hwb mawr ei angen i gapasiti - gan helpu cwsmeriaid ffonau symudol i gael gwasanaeth gwell.
“Rydym hefyd yn rhyddhau rhagor o donnau awyr i helpu i sicrhau lle'r DU fel arweinydd byd yng nghyswllt 5G.”
Ochr yn ochr â’n penderfyniadau ynghylch sut bydd yr arwerthiant yn gweithio, rydym wedi llunio fersiwn terfynol Rheoliadau’r Arwerthiant. Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud ac ar ôl iddynt ddod i rym, byddwn yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar gynigwyr ar gyfer yr arwerthiant. Byddwn yn asesu pob cais, cyn cyhoeddi manylion pwy sydd wedi cymhwyso i gymryd rhan a phryd bydd y prif gam yn dechrau.