Mae Ofcom wedi penodi Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Polisi Cyfryngau a Chynnwys Ofcom, i’r Bwrdd.
Ymunodd Kevin ag Ofcom yn 2016 ac mae wedi goruchwylio llawer o’r gwaith allweddol ar safonau cynnwys a pholisi, gan gynnwys rheoleiddio’r BBC a’n paratoadau i fod yn rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Bydd yn ymuno fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd o’r mis hwn ymlaen.
Dywedodd yr Arglwydd (Terry) Burns, Cadeirydd Ofcom: “Mae gan Kevin brofiad golygyddol sylweddol, a bydd hynny o fudd mawr i Fwrdd Ofcom.”
Dywedodd Kevin Bakhurst: “Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Bwrdd Ofcom a hynny ar adeg pan fo gwarchod cynulleidfaoedd cyn bwysiced ag erioed.”
Ymunodd Kevin ag Ofcom o RTÉ, y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yng Ngweriniaeth Iwerddon. Cyn hynny, bu’n gweithio am gyfnod hir i’r BBC.