Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi adolygiad o’r farchnad fanwerthu ar gyfer gwasanaethau ffôn llinell dir annibynnol (standalone), i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwerth am arian.
Mae cystadleuaeth yn y sector telegyfathrebiadau’n parhau’n gryf, gyda defnyddwyr yn cael gwell gwerth am arian mewn blynyddoedd diweddar (gweler siart 1). Fodd bynnag, mae Ofcom yn pryderu nad yw pobol sy’n prynu gwasanaethau llinell dir yn unig yn cael eu gwasanaethu’n dda gan y farchnad.
Mae ein dadansoddiad yn dangos bod pob un o’r darparwyr llinell dir wedi cynyddu eu prisiau rhentu llinell yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf – o rhwng 28% a 41% yn nhermau real. Mae hyn er gwaethaf bod y darparwyr yn elwa o ostyngiad o oddeutu 25% yng nghostau cyfanwerthu sylfaenol o ddarparu gwasanaeth llinell dir (gweler siart 2).
Mae’r cynnydd mewn prisau yn cael yr effaith fwyaf ar gwsmeriaid llinell dir annibynnol (standalone) – rheini sydd heb wasanaeth band eang na gwasanaeth teledu ar dalu. Dydy nhw ddim yn elwa o gystadleuaeth gref yn y farchnad am wasanaethau telegyfathrebiadau wedi eu bwndelu – lle mae gwasanaethau llinell dir, band eang ac ambell waith teledu ar dalu wedi eu pecynu gyda’u gilydd.
Mae dadansoddiad Ofcom yn dangos bod pobl oedrannus a phobl fregus, sydd yn gyfran sylweddol o gwsmeriaid llinell dir annibynnol yn y DU, yn benodol yn cael eu effeithio gan brisau cynyddol (gweler siart 3). Yn aml iawn, maent yn ddibynnol ar eu llinell dir, ac yn fwy tebygol o fod wedi aros gyda’r un cwmni ffôn drwy gydol eu hoes.
Bydd adolygiad Ofcom yn canfod a oes angen rhoi mesurau ar waith i ddiogelu'r grŵp yma o gwsmeriaid. Rydym yn awr yn dadansoddi'r farchnad yn fanwl ac, yn dibynnu ar ein canfyddiadau, y disgwyl yw y byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad yn gynnar yn 2017.
Dywedodd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Grŵp Cystadleuaeth Ofcom: “Mae ein tystiolaeth yn dangos bod darparwyr llinell dir wedi bod yn cynyddu eu prisau rhentu llinell, er bod eu costau wedi bod yn lleihau.
Rydym yn pryderu am pobl oedrannus a phobl fregus sy’n dibynnu ar eu llinell dir and yn llai tebygol o newid darparwr. Felly, rydym yn adolygu’r farchand hon er mwyn diogelu cwsmeriaid a sicrhau eu bod nhw’n cael gwerth am arian.”
Yn Ionawr eleni, cyhoeddodd Ofcom waith ymchwil a wnaethpwyd gyda’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar ddealltwriaeth defnyddwyr o sut roedd prisau band eang yn cael eu hysbysebu, gan gynnwys gwahanu prisau rhentu llinell.
Yn dilyn y gwaith hwn, mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi cyflwyno rheolau newydd yn yr Hydref, rydym yn eu croesawu, sy’n gofyn ar i brisau band eang for yn glir ac yn gynwysiedig o brisau rhentu llinell. Fodd bynnag, mae’n anhebygol o elwa cwsmeriaid llinell dir yn unig – rheswm arall dros adolygiad Ofcom o’r farchnad.
Siart 1:
Siart 2
Siart 3
Mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o ymgynghoriad sy’n cynnwys adolygiad ar wahân o’r marchnadoedd cyfanwerthu sy’n sail i wasanaethau llais llinell sefydlog yn y Deyrnas Unedig. (1)
Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r prisoedd cyfanwerthu mae BT yn cael codi ar ddarparwyr telegyfathrebiadau eraill er mwyn cynnig gwasanaeth ffôn dros ei rwydwaith copr. Mae’r rheoleiddio a ddaw o ganlyniad i’r adolygiad yn berthnasol o 1 Hydref 2017 hyd at 30 Medi 2020.
Mae’r adolygiad cyfanwerthu yn edrych ar y marchnadoedd canlynol
Mae ymgynghoriad heddiw yn cau ar 28 Chwefror 2017.
DIWEDD
Ffynhonnell ar gyfer Siart 1: Adroddiad ar y Farchnad Gyfathebu Ofcom (Ffigwr 4.34) Ofcom / darparwyr / ONS. Rhwng 2011 a 2015 cynyddodd y cyfartaledd o ddefnydd data band eang yn y cartref o 17 GB i 82 GB.
Ffynhonnell ar gyfer Siart 2: Ofcom/Pure Pricing UK Broadband Updates.
Ffynhonnell ar gyfer Siart 3: Arolwg preswyl Jigsaw (rhan 1).