Mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniad prif gam ei arwerthiant i ryddhau tonnau awyr ar gyfer gwasanaethau symudol 4G a gwasanaethau 5G yn y dyfodol.
Rydym wedi bod yn cynnal arwerthiant o donnau awyr – neu sbectrwm – mewn dau fand amledd:
Mae’n ddyletswydd ar Ofcom i reoli defnydd y sbectrwm yn effeithlon, a lluniwyd yr arwerthiant i gyflawni hyn.
Bu pum cwmni’n cymryd rhan ym mhrif gam yr arwerthiant. Roedd y prif gam, sydd newydd orffen, yn cynnwys 34 o ‘lotiau’ sbectrwm oedd ar gael ar draws dau fand.
Cadarnhaodd Ofcom heddiw faint y sbectrwm a enillwyd yn y prif gam gan bob cwmni.
Cyfanswm y prif gam yw £1,355,744,000 a chaiff yr holl arian a godir gan yr arwerthiant ei dalu i Drysorlys EM.
Bydd Ofcom yn awr yn symud i’r cam ‘neilltuo’, sef cam bidio olaf yr arwerthiant. Mae hon yn broses fer, sy’n caniatáu i gwmnïau sydd wedi ennill sbectrwm yn y prif gam i fidio i bennu ymhle yn y bandiau amledd y bydd eu sbectrwm newydd wedi’i leoli.
Ar ddiwedd y cam neilltuo, byddwn yn cyhoeddi trwyddedau i’r bidwyr llwyddiannus ddefnyddio’r sbectrwm perthnasol o fewn ychydig ddyddiau, gan eu galluogi i ddechrau gwneud defnydd ohono. Disgwyliwn gyhoeddi canlyniadau’r arwerthiant terfynol yn fuan wedyn.
Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm yn Ofcom: “Dyma newyddion da i bawb sy’n defnyddio’u ffonau symudol i fynd ar y rhyngrwyd. Fel cenedl rydym yn defnyddio mwy a mwy o ddata symudol ar ffonau clyfar a dyfeisiau symudol. Bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws mynd ar-lein pan fydd rhywun ar grwydr. Bydd hefyd yn caniatáu i gwmnïau baratoi ar gyfer 5G symudol, gan fraenaru’r tir ar gyfer ystod o ddyfeisiau clyfar wedi cysylltu â’i gilydd.”
Mae’r arwerthiant sbectrwm yn un rhan o waith Ofcom i wella gwasanaethau symudol. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau symudol ymestyn eu rhwydweithiau wrth i fwy o donnau awyr gael eu rhyddhau y flwyddyn nesaf. Rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth i’w gwneud yn haws i gwmnïau osod mastiau. Ac rydym yn gwneud dyfeisiau mwyhau ffonau symudol yn gyfreithlon – dyfeisiau sy’n helpu i gynyddu signal symudol yng nghartrefi pobl.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION