Mae canfyddiadau Ofcom, sy’n ymwneud â phryniant arfaethedig Sky gan 21st Century Fox, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Ar 16 Mawrth 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon hysbysiad ymyriad Ewropeaidd, a oedd yn gofyn i Ofcom lunio adroddiad ar ddwy ystyriaeth lles y cyhoedd mewn perthynas â chynlluniau gan 21st Century Fox i brynu’r cyfranddaliadau yn Sky nad yw’n eiddo arnynt yn barod.
Yn benodol, gofynnwyd i Ofcom ystyried a fyddai nifer digonol o bobl â rheolaeth dros fentrau yn y cyfryngau; ac a fyddai’r partïon yn wirioneddol ymrwymedig i gyflawni amcanion safonau mewn perthynas â darlledu.
Rhoesom ein hadroddiad lles y cyhoedd i’r Ysgrifennydd Gwladol ar 20 Mehefin 2017, sydd heddiw wedi cyhoeddi adroddiad Ofcom.
Mae’n hadroddiad yn nodi bod y trafodiad arfaethedig yn codi pryderon lles y cyhoedd yn ymwneud â lluosogrwydd yn y cyfryngau.
Mae’n nodi risg y bydd gan aelodau Ymddiriedolaeth Teulu Murdoch fwy o ddylanwad dros agenda newyddion y Deyrnas Unedig a’r broses wleidyddol, gyda’i bresenoldeb unigryw ar y radio, ar y teledu, mewn print ac ar-lein.
Dywed ein hadroddiad ein bod o’r farn y gallai’r pryderon hyn gyfiawnhau cyfeirio’r mater at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Hefyd, mae dyletswydd barhaus ar Ofcom i fod yn fodlon bod trwyddedeion darlledu yn ddeiliaid trwydded addas a phriodol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu asesu trwyddedai unrhyw bryd, heb i neb ein cymell, yn ogystal â gallu ymateb i bryderon a fynegir gan drydydd partïon.
Ar 6 Mawrth 2017, cyhoeddasom y byddem yn asesu pa mor addas a phriodol yw Sky i ddal trwyddedau darlledu petai’r newid rheolaeth hwn yn digwydd, a gwneud hynny yn unol ag amserlen cwblhau’r adroddiad lles y cyhoedd. Rydym wedi cyhoeddi’r asesiad hwnnw heddiw.
Mae Ofcom wedi ystyried honiadau o aflonyddu rhywiol a hiliol yn Fox News sy’n ddifrifol ac annifyr iawn. Mae’n ymddangos yn glir y bu methiannau sylweddol yn y diwylliant corfforaethol yn Fox News. Er mwyn cael pryder am addasrwydd a phriodoldeb, byddai angen i ni weld tystiolaeth o gamymddwyn yn y rhiant-gwmni, Fox. Ond, nid oes gennym dystiolaeth glir fod uwch swyddogion gweithredol yn Fox yn ymwybodol o gamymddwyn cyn iddynt gael gwybod am hynny ym mis Gorffennaf 2016, pryd y cymerwyd camau i ddelio â'r sefyllfa.
Rydym wedi dod i'r casgliad nad yw'r dystiolaeth gyffredinol sydd ar gael hyd yma yn darparu sail resymol i Ofcom ddod i’r farn na fyddai Sky, petai yn llwyr yn nwylo Fox ac yn cael ei reoli gan Fox, yn ddeiliad trwyddedau darlledu addas a phriodol. Mae ein hasesiad yn dod i'r casgliad y byddai Sky yn aros yn ddeiliad trwydded addas a phriodol petai’r uno’n digwydd.
Gan fod addasrwydd a phriodoldeb yn ddyletswydd barhaus, gallwn ailystyried ein safbwynt os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw, ar sail asesiad Ofcom, ei bod hi’n bwriadu cyfeirio at ymchwiliad Cam 2 am resymau lluosogrwydd yn y cyfryngau. Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai gan y partïon tan 14 Gorffennaf i gyflwyno sylwadau cyn iddi wneud ei phenderfyniad terfynol.
DIWEDD