Mae’r diwygiad mwyaf yn hanes Openreach ar fin cael ei gwblhau, ar ôl i BT gytuno i ofynion Ofcom iddo wahanu ei adran rhwydwaith yn gyfreithiol.
Mae hyn yn golygu y bydd Openreach yn dod yn gwmni ar wahân, gyda’i staff a’i reolwyr ei hun, ynghyd â’i strategaeth ei hun a phwrpas cyfreithiol i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd.
Mae BT wedi cytuno i'r holl newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â phryderon Ofcom ynglŷn â chystadleuaeth. O ganlyniad i hyn, ni fydd angen mwyach i Ofcom wthio’r newidiadau hyn drwy reoleiddio. Bwriedir i’r diwygiadau ddechrau eleni.
Er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith, bydd angen deddfwriaeth i gadw ‘Gwarant y Goron’ ar gyfer staff Openreach sy'n aelodau o gynllun pensiwn BT.1
Bydd yr Openreach newydd yn cael y lefel uchaf bosibl o annibyniaeth o Grŵp BT heb yr oedi a’r tarfu – ar y diwydiant, defnyddwyr a chynlluniau buddsoddi – sy’n gysylltiedig â gwahanu’r cwmnïau’n strwythurol neu werthiant Openreach i gyfranddalwyr newydd.
Bydd ymrwymiadau BT, ynghyd â rheoleiddio a wneir gan Ofcom drwy ei adolygiadau rheolaidd o'r farchnad, yn darparu ateb cynhwysfawr i’r problemau a welwyd yn y farchnad gan Ofcom.
Bydd y model newydd yn cael ei gefnogi gan waith monitro gofalus a pharhaus i sicrhau ei fod yn effeithiol. Fel rhan o hyn, bydd BT yn darparu trylowyder ychwanegol i Ofcom ynglŷn â natur y rhyngweithio rhwng yr Openreach newydd a gweddill Grŵp BT.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: "Dyma ddiwrnod pwysig i ddefnyddwyr ffonau a band eang. Bydd yr Openreach newydd yn cael ei adeiladu i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd, gan weithio’n wirioneddol annibynnol a gwneud penderfyniadau buddsoddi ar ran y diwydiant cyfan – nid BT yn unig.
“Rydym yn croesawu penderfyniad BT i wneud y diwygiadau hyn, sy’n golygu bod modd eu rhoi ar waith yn llawer cyflymach. Byddwn yn monitro’n ofalus sut bydd yr Openreach newydd yn perfformio, a hefyd yn parhau gyda’n gwaith yn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigir gan yr holl gwmnïau telathrebu.”
Mae ymrwymiadau BT hefyd yn cynnwys diwygiadau i’r modd y mae BT yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon, lle nad yw Openreach yn gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn y manteision sy’n gysylltiedig â’r newidiadau i Openreach i BT Gogledd Iwerddon – gan gynnwys rhagor o annibyniaeth, cyfrinachedd, a brandio annibynnol. Bydd BT Gogledd Iwerddon hefyd yn dal i fod yn gallu ystyried cyfleoedd ac amgylchiadau penodol lleol.2
Fe wnaeth Ofcom gyhoeddi cynlluniau y llynedd, fel rhan o’i Adolygiad o Gyfathrebu Digidol, i ailwampio trefnu lywodraethu Openreach a chryfhau ei annibyniaeth o BT.
Roedd hyn yn dilyn ein pryderon fod BT wedi cadw rheolaeth ar benderfyniadau Openreach, ac na fu digon o ymgynghori â chwmnïau telathrebu eraill ar gynlluniau buddsoddi sy’n effeithio arnynt.
Mae diwygio Openreach yn un rhan o waith Ofcom i sicrhau bod yr holl ddarparwyr yn ateb gofynion cynyddol y cwsmeriaid. Rydym hefyd yn cwblhau mesurau i sicrhau mwy o werth i gwsmeriaid sy’n cymryd llinell dir yn unig; darparu iawndal awtomatig i gwsmeriaid llinell dir a band eang pan fydd pethau’n mynd o’i le; a sicrhau bod Openreach yn gosod offer ac yn atgyweirio namau’n gynt.
Mae BT wedi amlinellu ei ymrwymiadau mewn hysbysiad ffurfiol i Ofcom.
Cyn bo hir, bydd Ofcom yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y modd y bydd y cytundeb heddiw yn mynd i'r afael â’n pryderon ynglŷn â chystadleuaeth, ynghyd â chynigion i ryddhau BT o’i fentrau blaenorol yn ymwneud ag Openreach unwaith y bydd yr ymrwymiadau newydd yn eu lle yn gyfan gwbl. Ar yr un pryd, byddwn yn datgan sut byddwn yn monitro ac yn gorfodi’r strwythur newydd ar gyfer Openreach.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
Er mwyn gwneud hyn gan effeithio cyn lleied â phosibl ar gynllun pensiwn BT, bydd angen cynnal Gwarant y Goron, sy’n bodoli eisoes, ar gyfer staff Openreach sy'n aelodau o gynllun pensiwn BT. Mae Gwarant y Goron yn bwysig hefyd i gadw hawliau pensiwn gweithwyr Openreach. Mater i'r Llywodraeth yw cynnal Gwarant y Goron, ac mae angen newid y ddeddfwriaethol bresennol.