Bydd cwsmeriaid band eang a llinell dir yn cael arian yn ôl gan eu darparwyr pan fydd pethau'n mynd o chwith, heb orfod ei hawlio, yn dilyn adolygiad gan Ofcom.
Nid yw cwmnïau telegyfathrebiadau bob amser wedi datblygu mor gyflym ag anghenion cynyddol cwsmeriaid o ran ansawdd gwasanaeth.1 Nid yw llawer o bobl yn cael yr ansawdd maent yn ei ddisgwyl, neu nid ydynt yn cael iawndal digonol pan fydd y gwasanaeth yn ddiffygiol.
Felly, lluniodd Ofcom gynlluniau i bobl gael iawndal awtomatig gan ddarparwyr am waith atgyweirio araf, methu apwyntiadau ac oedi gyda gosod gwasanaeth. Mae hyn yn golygu rhoi credyd yng nghyfrif y cwsmer - heb iddo orfod gofyn amdano.
Yn sgil ymyrraeth Ofcom, mae BT, Sky, TalkTalk, Virgin Media a Zen Internet – sydd gyda'i gilydd yn gwasanaethu tua 90% o gwsmeriaid llinell dir a band eang yn y DU – wedi cytuno i gyflwyno iawndal awtomatig,2 a fydd yn adlewyrchu’r niwed mae defnyddwyr yn ei ddioddef pan fydd pethau'n mynd o chwith. Dyma sut bydd yn gweithio:
Ar hyn o bryd caiff iawndal ei dalu mewn tua un achos o bob saith (15%) ymysg cwsmeriaid llinell dir neu fand eang sy'n dioddef gwaith atgyweirio araf, oedi gyda gosod gwasanaethau neu beirianwyr sy’n methu apwyntiadau; a hyd yn oed wedyn, dim ond mewn symiau bach y caiff ei roi.3
Bydd lansio'r cynllun iawndal awtomatig cyntaf erioed ar gyfer cwsmeriaid telegyfathrebiadau yn broses gymhleth, ac yn galw am newidiadau sylweddol i systemau bilio darparwyr, cyfrifon ar-lein a chanolfannau galwadau. Felly bydd cyfnod gweithredu o 15 mis cyn y daw i rym er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno'n ddidrafferth. Mae defnyddwyr sy’n cael anawsterau ar hyn o bryd yn gallu dod o hyd i gyngor ar wefan Ofcom ynglŷn â beth i’w wneud os ydynt yn anhapus gyda’r gwasanaeth maent yn ei dderbyn.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Mae aros yn rhy hir i’ch llinell dir neu fand eang gael ei drwsio yn ddigon rhwystredig, heb sôn am orfod ymladd i gael iawndal.
“Felly bydd yn rhaid i ddarparwyr dalu arian yn ôl yn awtomatig pryd bynnag na fydd gwaith atgyweirio neu osod yn digwydd ar amser, neu pan na fydd peiriannydd yn dod draw. Bydd pobl yn cael yr arian maen nhw'n ei haeddu, tra bydd darparwyr eisiau gweithio'n galetach i wella eu gwasanaeth.”
Dywedodd Alex Neill, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau’r Cartref, ‘Which?’: “Rydym yn falch bod iawndal ar gyfer band eang gwael yn mynd i fod yn awtomatig gan ei fod yn rhan hanfodol o’n bywydau bob dydd erbyn hyn.
“Er mwyn i’r holl ddefnyddwyr gael yr hyn sy’n ddyledus iddynt, mae’n holl bwysig bod yr holl ddarparwyr yn chwarae’n deg ac yn ymuno â’r cynllun.”
Bydd Ofcom yn monitro cynllun y diwydiant yn ofalus, ac yn ei adolygu flwyddyn ar ôl iddo gael ei roi ar waith er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i ddefnyddwyr. Os na fydd yn gweithio, byddwn yn camu i mewn.4
Mae iawndal awtomatig yn un o sawl maes lle mae Ofcom yn gweithio i ddiogelu cwsmeriaid telegyfathrebiadau. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau costau is i gwsmeriaid llinell dir agored i niwed; gwybodaeth well am gyflymder band eang cyn ymrwymo i gontract; gwybodaeth fanwl er mwyn taflu golau ar berfformiad darparwyr gwahanol; a dirwyo cwmnïau am ymddygiad gwael.
Mae oddeutu traean o fusnesau bach a chanolig (SME) yn dewis gwasanaethau llinell dir a band eang preswyl, ac felly byddant hwythau hefyd yn elwa o’r cynllun iawndal.
Hefyd, mae llawer o gontractau busnes safonol eisoes yn darparu iawndal am nifer o broblemau. Fodd bynnag, gwelsom nad oedd tua hanner (49%) o fusnesau bach a chanolig yn gwybod a oedd ganddynt hawl i iawndal ai peidio pan oedd eu gwasanaeth yn ddiffygiol.
Felly mae Ofcom yn cyflwyno rheolau newydd i wneud yn siŵr bod pob busnes bach a chanolig yn cael gwybodaeth gliriach, fwy manwl ymlaen llaw am y safon y gallan nhw ei ddisgwyl gan wasanaeth. Mae hyn yn cynnwys p’un ai a allant hawlio iawndal pan fydd problemau'n codi.