Mesurau i sicrhau bod model newydd Openreach yn cyflawni’r diben

13 Gorffennaf 2017

  • Cynnydd tuag at is-adran rhwydwaith yn cael ei gwahanu'n gyfreithiol oddi wrth BT
  • Mae Ofcom yn esbonio sut bydd y cwmni newydd yn cael ei fesur a’i fonitro

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi sut bydd Openreach yn cael ei ddal i gyfrif, wrth iddo gael ei wahanu'n gyfreithiol oddi wrth BT, er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’r diben ar gyfer defnyddwyr ffonau a band eang.

Rydym yn disgwyl i’r Openreach diwygiedig ymgysylltu â’r diwydiant i ddarparu rhwydweithiau ffibr eang, gan gynnig band eang cyflym, dibynadwy. Dylai’r cwmni newydd ddarparu gwasanaeth da er mwyn diwallu anghenion yr holl bobl a busnesau sy'n dibynnu ar ei rwydwaith, ynghyd â newid sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth.

Ym mis Mawrth 2017 cytunodd BT i gydymffurfio â gofynion Ofcom ar gyfer y broses fwyaf erioed o ddiwygio Openreach, ei is-adran rhwydwaith. Mae’r newidiadau'n golygu y bydd Openreach yn dod yn gwmni ar wahân, gyda’i staff, ei reolwyr a'i strategaeth ei hun, yn ogystal â phwrpas cyfreithiol i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd.[1]

Bydd Ofcom yn monitro cydymffurfiaeth BT â'i ymrwymiadau newydd yn ofalus, a pha mor effeithiol mae Openreach yn gwasanaethu’r diwydiant cyfan. Byddwn yn mesur i ba raddau mae Openreach yn gwella ei rwydwaith ac yn helpu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd gwell.

Os daw i’r amlwg nad yw’r Openreach newydd y gweithio, neu fod BT yn methu cydymffurfio â'i ymrwymiadau, bydd Ofcom yn edrych eto ar y model er mwyn ystyried mesurau newydd i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon.

Cynnydd hyd yn hyn

Ers mis Mawrth, mae BT ac Openreach wedi cymryd camau cadarnhaol tuag at weithredu’r ymrwymiadau newydd, a chroesawn hynny. Mae gan Openreach Gadeirydd a Bwrdd newydd, ac nid oes gan y rhan fwyaf o aelodau unrhyw gysylltiad â Grŵp BT.

Mae Openreach wedi sefydlu ei bwyllgor cydymffurfio ei hun, ac mae'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar broses newydd o ran sut mae'n ymgysylltu â chwmnïau telegyfathrebiadau ynghylch gwasanaethau a buddsoddiadau yn yr arfaeth.

Sut bydd Ofcom yn mesur canlyniadau

Rydym yn disgwyl i’r cwmni fod yn ymatebol i fodelau gwahanol o fuddsoddiad a fydd yn cael eu cynnig gan ei gwsmeriaid, gan gynnwys buddsoddi ar y cyd a rhannu risg.

Bydd Ofcom yn edrych i weld a yw holl ddefnyddwyr a busnesau’r DU sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach yn cael cyflymder teilwng, a’r gwasanaeth priodol i ddiwallu eu hanghenion. Byddwn yn mesur ac yn cyflwyno adroddiad ar gyfraniad Openreach at y rhwydweithiau band eang ffibr cynyddol, gan gynnwys llinellau ‘ffibr llawn’ sydd ar gael ar hyn o bryd i ddim ond tua 2% o adeiladau’r DU.[2]

Rydym yn disgwyl i’r cwmni fod yn ymatebol i fodelau gwahanol o fuddsoddiad a fydd yn cael eu cynnig gan ei gwsmeriaid, gan gynnwys buddsoddi ar y cyd a rhannu risg.

Rydym hefyd eisiau gweld newid mawr mewn ansawdd gwasanaeth telegyfathrebiadau. Felly byddwn yn adrodd ar amseroedd trwsio a gosod Openreach, a p’un ai a yw peirianwyr yn cyrraedd yn brydlon.

Sut bydd Ofcom yn monitro cydymffurfiad

Mae Ofcom yn sefydlu Uned Monitro Openreach penodol, er mwyn monitro a yw'r trefniadau newydd yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus.

Bydd yr uned yn asesu a yw’r rheolau llywodraethu newydd yn cael eu dilyn, ac a yw Openreach yn gweithredu’n fwy annibynnol ar BT, yn gwneud ei benderfyniadau ei hun, ac yn trin ei holl gwsmeriaid yn deg.

Bydd yn ystyried a yw BT ac Openreach yn dilyn yr ymrwymiadau, ac yn creu diwylliant llwyddiannus sy’n gwerthfawrogi annibyniaeth Openreach.

Bydd Ofcom yn cyhoeddi ei ganfyddiadau chwe mis ar ôl i’r ymrwymiadau ddod i rym, ac wedyn bob blwyddyn.

Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth BT o ran ei ymrwymiadau yng Ngogledd Iwerddon, lle nad yw Openreach yn gweithredu, ond a ddylai elwa o’r trefniadau newydd yn yr un modd â gweddill y DU.[3]

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Bydd yr Openreach newydd yn cael ei adeiladu i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd, gan weithredu’n annibynnol a gwneud penderfyniadau buddsoddi ar ran ei holl gwsmeriaid.

“Mae BT wedi gwneud cynnydd cadarnhaol at weithredu’r diwygiadau hyn. Ar ôl iddo orffen, bydd Ofcom yn cadw llygad barcud ar p’un ai a yw Openreach yn gweithio i ddefnyddwyr telegyfathrebiadau ai peidio, gan sicrhau bod BT ac Openreach yn dilyn eu hymrwymiadau. Os byddwn yn gweld problemau'n dod i’r amlwg, ni fyddwn yn oedi i weithredu.”

Y camau nesaf

Mae cwblhau'r broses o ddiwygio Openreach yn dibynnu ar y Llywodraeth yn diwygio Gwarant y Goron, sy'n gwarantu Cynllun Pensiwn BT, fel ei fod yn cynnal diogelwch pensiwn i aelodau’r cynllun sy’n trosglwyddo i’r Openreach newydd. Fe wnaeth Deddf yr Economi Ddigidol gyflwyno pŵer i alluogi’r newid hwn, ac mae’r Llywodraeth wrthi’n drafftio deddfwriaeth eilaidd i’w weithredu.

Ar ôl hynny, byddai angen i ymddiriedolwyr pensiwn BT gytuno'n ffurfiol y bydd Openreach yn dod yn gyflogwr sy'n cymryd rhan yn y cynllun pensiwn. Rhaid i BT hefyd gwblhau proses ymgynghori er mwyn trosglwyddo gweithwyr i’r Openreach newydd.

Ar ôl gwneud hyn ac ar ôl i’r ymrwymiadau newydd ddod i rym, mae Ofcom wedi cadarnhau heddiw y bydd yn rhyddhau BT o'i ‘rwymedigaethau’ o’r gorffennol.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae’r diwygiadau wedi’u llunio i fynd i’r afael â phryderon Ofcom bod BT yn y gorffennol wedi bod yn rheoli penderfyniadau Openreach, heb ymgynghori'n ddigonol ar ei gynlluniau buddsoddi â chwmnïau telegyfathrebiadau eraill sy'n dibynnu ar ei rwydwaith.
  2. Er enghraifft, bydd busnes Rhwydweithiau’r BT yng Ngogledd Iwerddon ar wahân yn llwyr bron i’r rhiant-gwmni. Bydd ei gwsmeriaid yn cael eu trin yn gyfartal, gan gynnwys yng nghyswllt gwybodaeth gyfrinachol, a bydd brand BT yn cael ei dynnu oddi ar faniau a bathodynnau peirianwyr yng Ngogledd Iwerddon.
  3. Yn groes i hynny, bydd band eang ffibr llawn i eiddo ar gael i tua un rhan o bump o gartrefi yn UDA, a thua tri chwarter o gartrefi Sbaen a Phortiwgal.