Cael gafael ar y newyddion… heb hyd yn oed sylweddoli

13 Gorffennaf 2018

Mae Ofcom wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil ansoddol heddiw sy’n archwilio beth mae pobl yn ei feddwl a’i deimlo am y newyddion a sut maen nhw’n cael gafael arno.

Gyda llawer iawn o straeon newyddion ar gael 24/7, drwy amrywiaeth eang o ddyfeisiau a llwyfannau ar-lein, mae’r ymchwil yn datgelu sut rydyn ni’n addasu ein harferion a’n hymddygiad er mwyn dal i fyny.

Dyma Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom, yn rhannu ei barn am y canfyddiadau. Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl yma’n wreiddiol yn ‘The Times’.

Codi papur newydd gyda phaned yn y bore. Setlo lawr i wylio’r newyddion ar y teledu ar ôl diwrnod caled yn y gwaith. Darllen yr adrannau o’r papurau dydd Sul yn eich hoff drefn.

Ers degawdau, mae ein harferion wedi helpu i ddiffinio ein perthynas â’r newyddion. Yn y gorffennol, roedd pobl yn cael gafael ar y newyddion ar adegau penodol o’r dydd, ond ddim yn cael llawer o newyddion fel arall. Ond ar gyfer nifer o bobl, mae’r arferion hynny, a’r dirwedd newyddion sy’n eu siapio, wedi newid yn aruthrol.

Mae nifer mawr o straeon newyddion nawr ar gael 24/7 drwy amrywiaeth eang o ddyfeisiau a llwyfannau ar-lein, a chyfryngau cymdeithasol ydy'r ffordd fwyaf boblogaidd o gael gafael ar newyddion ar y rhyngrwyd erbyn hyn. Mae darllenwyr a gwylwyr heddiw yn wynebu sialens i ddal i fyny. Ac mae’n bwysig bod rheoleiddio yn dal i fyny hefyd.

Mae amgylchedd cyfnewidiol cyfryngau cymdeithasol yn sicr yn dod â manteision i newyddion, drwy gynnig mwy o ddewis, diweddariadau amser real, a llwyfan ar gyfer lleisiau a safbwyntiau gwahanol. Ond mae hynny’n arwain at sialensiau newydd hefyd ar gyfer darllenwyr a rheoleiddwyr – rhywbeth rydym ni, fel rheoleiddiwr safonau golygyddol mewn teledu a radio, nawr yn ei ystyried ar gyfer y byd ar-lein.

Mewn ymchwil newydd gan Ofcom, roeddem wedi gofyn i bobl am eu perthynas â’r newyddion yn ein cymdeithas ‘ymlaen drwy'r amser’, ac mae’r canfyddiadau’n ddifyr dros ben.

Mae pobl yn teimlo bod mwy o newyddion nag erioed o’r blaen, sy’n golygu sialens o ran eu hamser a’u sylw. Mae hyn, ynghyd ag ‘ofn colli allan’ yn golygu bod nifer yn teimlo ei bod yn rhaid iddyn nhw ymgysylltu â sawl ffynhonnell o newyddion, ond dim ond yn arwynebol y maen nhw’n gallu gwneud hynny.

Yn yr un modd, gan fod nifer ohonom nawr yn darllen y newyddion drwy gyfryngau cymdeithasol ar ein ffonau clyfar, rydym bob amser yn sgrolio neu’n symud ein bys ar draws y sgrin yn gyflym. Rydyn ni’n gweld hysbysiadau ‘newyddion sy’n torri’, crynodebau newyddion, newyddion a straeon sy’n cael eu rhannu i gyd wedi’u cymysgu â mathau eraill o gynnwys. Mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i brosesu, neu hyd yn oed adnabod, y newyddion rydym yn eu gweld. Mae’n golygu ein bod yn aml yn ymgysylltu â´r newyddion yn ddamweiniol, yn hytrach nag yn weithredol.

Mewn gwirionedd, roedd ein hastudiaeth yn dangos, ar ôl gweld straeon newyddion ar-lein, nad oedd nifer o gyfranogwyr yn ymwybodol eu bod wedi gweld y straeon hynny o gwbl. Er enghraifft, roedd un yn cofio gweld naw stori newyddion ar-lein dros wythnos – mewn gwirionedd roedd hi wedi gweld 13 mewn un diwrnod yn unig. Roedd eraill yn cofio darllen erthyglau penodol, ond nid oedden nhw’n gallu cofio dim o’r manylion.

Mae apêl cyfryngau cymdeithasol fel ffynhonnell newyddion hefyd yn codi cwestiynau ynghylch ymddiriedaeth, gyda phobl yn llawer mwy tebygol o amau’r hyn maen nhw’n ei weld ar y llwyfannau hyn. Mae ein hymchwil yn dangos mai dim ond 39% sy’n ystyried bod cyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell newyddion ddibynadwy, wrth gymharu â 63% ar gyfer papurau newydd a 70% ar gyfer teledu.

Mae erthyglau ‘newyddion ffug’ ac ‘abwyd clicio’ yn dal yn bryderon cyffredin ymysg y bobl a gymerodd ran yn ein hymchwil, ond mae nifer yn ei chael hi’n anodd dilysu cynnwys newyddion ar-lein.  Mae rhai yn dibynnu ar eu greddf i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen, ac mae eraill yn gofyn am farn ffrindiau a theulu, neu’n chwilio am logos newyddion adnabyddus, fel y Times. Mae nifer o bobl yn cyfaddef nad oes ganddyn nhw’r amser na’r awydd i feddwl yn feirniadol wrth ymgysylltu â'r newyddion, sy’n golygu goblygiadau pwysig i’n democratiaeth.

Mae addysg ynghylch sut mae llywio drwy newyddion ar-lein yn bwysig wrth gwrs. Ond ni ddylai’r cyfrifoldeb fod ar y cyhoedd i ganfod a delio â chynnwys ffug a niweidiol. Mae angen i gwmnïau ar-lein fod yn llawer mwy atebol wrth guradu a phlismona'r cynnwys sydd ar eu llwyfannau, pan fydd hyn yn peri niwed i’r cyhoedd.

Rydym yn croesawu’r camau sy’n cael eu datblygu gan y prif enwau ar-lein, ond rydym yn credu na fu’r ddadl dros oruchwyliaeth rheoleiddio annibynnol ar gyfer eu gweithgareddau erioed mor gryf. Byddai angen i drefn o’r fath fod yn seiliedig ar dryloywder, a set o egwyddorion sylfaenol clir.

Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu craffu mwy ar ba mor effeithiol mae’r llwyfannau ar-lein yn ymateb i gynnwys niweidiol er mwyn diogelu defnyddwyr, gyda phwerau i reoleiddiwr orfodi safonau, a gweithredu os na chaiff y rhain eu cyrraedd. Byddwn yn amlinellu rhagor o syniadau am y rôl y gallai rheoleiddio annibynnol ei chwarae yn ystod yr hydref.

Wrth ystyried ymddiriedaeth ac atebolrwydd, mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel y BBC ran hanfodol i’w chwarae hefyd. Eu gweithrediadau newyddion nhw ydy'r sylfaen ar gyfer llawer o'r cynnwys newyddion a welwn ni ar-lein, ac fel rheoleiddiwr y darlledwr, bydd Ofcom yn parhau i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf.

Mae ymchwil Ofcom yn gallu cyfrannu at y ddadl ynghylch sut mae rheoleiddio’n effeithiol mewn byd ar-lein. Byddwn yn parhau i amlygu’r patrymau mewn ymddygiad sy’n dod i’r amlwg, wrth i berthynas gymhleth a newidiol pobl â’r cyfryngau barhau i esblygu.