28 July 2015
Heddiw mae Ofcom yn amlinellu opsiynau i'w gwneud yn haws i ddefnyddwyr newid eu darparwr ffôn symudol.
Ar hyn o bryd, mae defnyddwyr yn wynebu prosesau gwahanol wrth newid darparwr ffôn symudol, gan ddibynnu a ydynt yn dymuno cadw'r rhif ffôn symudol sydd ganddynt yn barod.
Mae Ofcom yn poeni y gallai'r prosesau hyn achosi dryswch i bobl, a gwneud iddynt feddwl bod newid darparwr yn anodd - a cholli allan ar y bargeinion gorau sydd ar gael.
Mae ymgynghoriad heddiw yn gofyn am safbwyntiau am ystod o opsiynau ar gyfer newid darparwr ffonau symudol. Mae'r rhain yn cynnwys proses syml - yr enw technegol a roddir arni yw newid 'dan arweiniad y darparwr sy'n ennill y cwsmer' - sy'n rhoi'r cyfrifoldeb am y newid yn gyfan gwbl yn nwylo'r cwmni y mae'r cwsmer yn symud ato. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen i’r cwsmer gysylltu â'r darparwr er mwyn newid, onibai eu bod nhw’n dymuno gwneud.
Mae Ofcom hefyd yn ystyried symleiddio'r broses o gael gafael ar y cod sy'n gadael i gwsmer gadw ei rif.
Mae rhoi'r gallu i gwsmeriaid wneud dewisiadau doeth a deallus yn rhan bwysig o waith Ofcom. Gall hyn gynnwys symud at ddarparwr gwahanol, ond os nad yw'r broses hon yn un syml, ni fydd pobl mor debygol o newid, a gall hynny gyfyngu ar gystadleuaeth.
Pan fydd cwsmer yn newid ei ddarparwr ffôn symudol, gall ddewis cael rhif ffôn newydd neu gadw ei rif presennol drwy ei 'gludo' i'r rhwydwaith symudol newydd.
Er mwyn i gwsmer allu cadw ei rif, mae'n rhaid iddo gysylltu â'i ddarparwr presennol er mwyn cael 'Cod Awdurdodi Cludo', neu god PAC, a rhoi'r rhif hwn i'r darparwr y mae'n bwriadu ymuno ag ef. Os nad yw'r cwsmer yn bwriadu cadw ei rif, os yw ar gontract misol, mae'n rhaid iddo ddelio â'i ddarparwr presennol i roi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw, ac yna mynd ati i drefnu gwasanaeth newydd gyda'r darparwr newydd ei hun.
Mae Ofcom yn poeni bod rhai cwmnïau’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr newid heb fod angen. Fis diwethaf, agorodd Ofcom ymchwiliad ar draws y diwydiant i drefniadau canslo gwasanaethau a dod â gwasanaethau i ben.
Yn ôl gwaith ymchwil Ofcom, mae'r cyfraddau newid ar gyfer gwasanaethau ffonau symudol wedi gostwng o 9% i 6% rhwng 2013 a 2014. Mae'n bosib bod sawl ffactor cymhleth wrth wraidd hyn, ac mae Ofcom yn dal i wneud gwaith ymchwil i'r mater.
Mae ymgynghoriad heddiw yn rhan o waith ehangach Ofcom i'w gwneud yn haws symud o un gwasanaeth cyfathrebu i un arall.
Fis diwethaf, gwnaed y broses o newid band eang yn fwy syml ac yn fwy hwylus gan Ofcom, drwy gyflwyno proses un cam i filiynau o gwsmeriaid band eang darparwyr sy'n defnyddio rhwydwaith copr Openreach - gan gynnwys BT, EE, Sky a TalkTalk.
Yn ogystal ag ymgynghoriad heddiw ar newid darparwyr ffonau symudol, mae Ofcom hefyd yn edrych ar brofiadau defnyddwyr o newid rhwng darparwyr bwndeli 'tri gwasanaeth' - llinell sefydlog, band eang a theledu drwy dalu - sy'n defnyddio rhwydweithiau lloeren Sky, cebl Virgin Media neu Openreach.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: "Dylai defnyddwyr allu newid eu darparwr ffôn symudol heb ddim trafferth, dryswch na phoen meddwl, a manteisio ar gystadleuaeth yn y farchnad.
"Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi gwneud y broses newid yn haws i filiynau o ddefnyddwyr band eang, ac rydyn ni'n canolbwyntio'n awr ar wella'r broses i gwsmeriaid ffonau symudol."
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad yw 5 Hydref 2015.
DIWEDD
Ni fyddai cynigion Ofcom yn atal defnyddwyr rhag cysylltu â'u darparwr presennol i ddod â'u contract i ben neu i drafod newid os ydynt yn dymuno gwneud hynny.