Bydd gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy o fis Mawrth y flwyddyn nesaf ymlaen, mae Ofcom wedi cadarnhau.
Rydym yn rhoi ‘gwasanaeth band eang cyffredinol’ Llywodraeth y DU ar waith – rhwyd ddiogelwch a fydd yn rhoi hawl gyfreithiol i gartrefi a busnesau cymwys ofyn am gysylltiad teilwng.
Drwy ddeddfwriaeth a gyflwynwyd y llynedd, bydd yr aelwydydd hynny’n gallu gofyn am fand eang gwell sy’n gallu darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad o leiaf. Bydd y cyflymder yn cael ei adolygu dros amser, wrth i faint o ddata mae pobl yn ei ddefnyddio newid.1]
Ar hyn o bryd, byddai 620,000 o gartrefi a swyddfeydd, neu 2%, yn elwa o’r cynllun newydd, er bod y nifer hwn yn disgwyl wrth i rwydweithiau band eang gael eu huwchraddio. Mae'r cartrefi hyn yn ymysg y rhai mwyaf anghysbell yn y DU, neu’n bell i ffwrdd o rwydweithiau band eang presennol, sy'n golygu ei bod hi’n anodd iddyn nhw gael gwasanaeth band eang teilwng ar hyn o bryd.
Rydym wedi penderfynu mai BT a KCOM sydd yn y sefyllfa orau i ateb heriau darparu cysylltiadau gwasanaeth cyffredinol. Felly, bydd BT yn gyfrifol am gysylltu eiddo yn y DU gyfan ar wahân i ardal Hull, a KCOM fydd y darparwr dynodedig yn yr ardal honno.
Mae BT a KCOM wedi cael tan 20 Mawrth flwyddyn nesaf i wneud y paratoadau angenrheidiol, gan gynnwys newidiadau i’w systemau a’u prosesau er mwyn dechrau creu’r cysylltiadau hyn. O’r dyddiad hwnnw ymlaen bydd pobl yn cael dechrau gwneud ceisiadau.
Pan fydd rhywun yn cyflwyno cais, bydd gan BT neu KCOM 30 diwrnod i gadarnhau a ydy'r cwsmer yn gymwys ai peidio. Bydd hyn yn golygu pennu a oes gan yr eiddo fynediad yn barod at fand eang teilwng, am bris fforddiadwy[2]; neu os yw ar fin cael ei gysylltu drwy gynllun sy’n cael arian cyhoeddus cyn pen 12 mis.
Ar ôl cadarnhau hynny, bydd yn rhaid i BT neu KCOM ddarparu’r cysylltiad cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym wedi gosod targedau llym o ran faint o amser maen nhw'n gallu ei gymryd.[3]
O dan ddeddfwriaeth ar gyfer y gwasanaeth newydd, bydd hyd at £3,400 o gostau darparu'r cysylltiadau i gartrefi cymwys yn cael ei dalu.
Os bydd y gwaith angenrheidiol yn costio mwy na hynny, gall cwsmeriaid naill ai dalu’r costau ychwanegol neu ofyn am ateb gwahanol y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol, fel band eang lloeren.
Bydd cwsmeriaid sy’n cael eu cysylltu drwy'r gwasanaeth cyffredinol newydd yn talu’r un prisiau ac yn cael gwasanaeth o’r un ansawdd â chwsmeriaid band eang eraill sy'n cael cysylltiad cyfatebol.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Wrth i fwy a mwy o’n bywydau symud ar-lein, mae hi’n hollbwysig ein bod yn rhoi band eang gwell i bobl ac i fusnesau. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y rhwyd ddiogelwch band eang newydd yma yn rhoi’r hawl gyfreithiol i bawb ofyn am gysylltiad teilwng – os ydych chi'n byw mewn dinas neu yng nghefn gwlad. Bydd hyn yn hollbwysig i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cael y band eang sydd ei angen arnynt.”
Mae Llywodraeth y DU eisiau i’r gwasanaeth cyffredinol gael ei ariannu gan y diwydiant i gyd. Felly, yn yr hydref, byddwn yn ymgynghori ynghylch pa gwmnïau eraill fyddai’n cyfrannu at gronfa, ac ar ba gyfran, er mwyn talu am unrhyw gostau na fyddai’n briodol i BT neu KCOM dalu amdanynt.
Mae darpariaeth band eang yn gwella drwy'r amser. Mae tua 95% o gartrefi a busnesau bach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, sy'n cynnig cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf. Mae dros hanner yn gallu cael cyflymder gwibgyswllt (300 Mbit yr eiliad o leiaf).[4] Fodd bynnag, mae angen y rhwyd ddiogelwch ar gyfer y 2% o gartrefi a swyddfeydd nad ydynt yn gallu cael band eang teilwng.
Mae gweithredu'r gwasanaeth band eang cyffredinol yn rhan o raglen waith Ofcom i helpu pawb yn y DU i elwa o wasanaethau band eang a ffonau symudol gwell.
Mae’r gwaith yma hefyd yn cynnwys:
1. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn ei deddfwriaeth – Deddf yr Economi Ddigidol 2017 – y dylid adolygu’r diffiniad o fand eang teilwng pan fydd o leiaf 75% o eiddo yn y DU yn tanysgrifio i wasanaeth band eang sy'n darparu cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf.
2. Os bydd yr unig wasanaeth sydd ar gael sy’n gallu darparu’r cyflymder angenrheidiol yn costio mwy na £45 y mis, bydd gan bobl hawl i ofyn am gysylltiad USO.
3. Mae'n rhaid i BT ddarparu pob cysylltiad USO cyn gynted â phosibl a darparu 80% ohonynt o fewn 12 mis, 95% ohonynt o fewn 18 mis, a 99% ohonynt o fewn 24 mis o dderbyn archeb USO wedi'i chadarnhau. Mae'n rhaid i KCOM ddarparu'r cysylltiad USO cyn gynted â phosibl, ac o fewn 12 mis fan bellaf ar ôl i rywun wneud archeb, oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn gwneud hynny'n anoddach.
4. Ffynhonnell: Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd Ofcom: gwanwyn 2019.