BT yn cytuno i wahanu Openreach yn gyfreithiol

10 Mawrth 2017

  • Openreach i fod yn gwmni ar wahân, gyda’i staff, ei reolwyr, ei bwrpas a’i strategaeth ei hun

Mae’r diwygiad mwyaf yn hanes Openreach ar fin cael ei gwblhau, ar ôl i BT gytuno i ofynion Ofcom iddo wahanu ei adran rhwydwaith yn gyfreithiol.

Mae hyn yn golygu y bydd Openreach yn dod yn gwmni ar wahân, gyda’i staff a’i reolwyr ei hun, ynghyd â’i strategaeth ei hun a phwrpas cyfreithiol i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd.

Mae BT wedi cytuno i'r holl newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â phryderon Ofcom ynglŷn â chystadleuaeth. O ganlyniad i hyn, ni fydd angen mwyach i Ofcom wthio’r newidiadau hyn drwy reoleiddio. Bwriedir i’r diwygiadau ddechrau eleni.

Er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith, bydd angen deddfwriaeth i gadw ‘Gwarant y Goron’ ar gyfer staff Openreach sy'n aelodau o gynllun pensiwn BT.1

Bydd yr Openreach newydd yn cael y lefel uchaf bosibl o annibyniaeth o Grŵp BT heb yr oedi a’r tarfu – ar y diwydiant, defnyddwyr a chynlluniau buddsoddi – sy’n gysylltiedig â gwahanu’r cwmnïau’n strwythurol neu werthiant Openreach i gyfranddalwyr newydd.

Bydd ymrwymiadau BT, ynghyd â rheoleiddio a wneir gan Ofcom drwy ei adolygiadau rheolaidd o'r farchnad, yn darparu ateb cynhwysfawr i’r problemau a welwyd yn y farchnad gan Ofcom.

Sut bydd yr Openreach newydd yn gweithio

  • Bydd Openreach yn dod yn gwmni ar wahân. Bydd Openreach yn cael ei gorffori fel cwmni ar wahân yn gyfreithiol o fewn Grŵp BT, gyda’i ‘Erthyglau Cymdeithasiad’ ei hun. Bydd gofyniad cyfreithiol ar Openreach – a’i gyfarwyddwyr – i wneud penderfyniadau er budd holl gwsmeriaid Openreach, a hybu llwyddiant y cwmni.
  • Bwrdd Openreach fydd yn rhedeg y cwmni. Bydd Bwrdd Openreach, a sefydlwyd eisoes gan BT yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac sydd â’r rhan fwyaf o’i gyfarwyddwyr yn annibynnol o BT, yn dod yn Fwrdd y cwmni newydd. Bydd yn wirioneddol gyfrifol am redeg Openreach, dan gytundeb llywodraethu newydd.
  • Strategaeth ar wahân a rheolaeth dros ddyrannu cyllidebau. Bydd Openreach yn datblygu ei strategaeth a’i gynlluniau gweithredu blynyddol ei hun, o fewn cyllideb gyffredinol a osodir gan Grŵp BT.
  • Bydd y swyddogion gweithredol yn atebol i'r Bwrdd newydd. Yn y dyfodol, bydd Prif Weithredwr Openreach yn cael ei benodi gan Fwrdd Openreach, a bydd yn atebol iddo. Bydd Grŵp BT yn gallu rhoi feto ar benodi Prif Swyddog Gweithredol Openreach, ond dim ond drwy hysbysu Ofcom. Yna, bydd Prif Weithredwr Openreach yn gyfrifol am benodiadau gweithredol eraill, a bydd yn atebol i Gadeirydd Openreach – ac yna’n atebol i Brif Weithredwr BT o ran rhwymedigaethau cyfreithiol, ymddiriedol neu reoleiddiol angenrheidiol.
  • Bydd y staff yn gweithio i Openreach. Bydd yr Openreach newydd yn cyflogi pob un o’i 32,000 o staff yn uniongyrchol, a bydd y rheini’n cael eu trosglwyddo o BT. Bydd hyn yn caniatau i Openreach ddatblygu ei ddiwylliant trefniadaethol ei hun.
  • Caiff yr asedau eu rheoli gan Openreach yn unig. Bydd Openreach yn cael rheolaeth ar yr asedau hynny – megis y rhwydwaith mynediad ffisegol – sydd eu hangen er mwyn cyflawni ei bwrpas. Bydd Bwrdd Openreach yn gwneud penderfyniadau ynglŷn ag adeiladu a chynnal yr asedau hyn: bydd BT yn trosglwyddo'r pwerau hyn i Openreach, ac yn cadw’r teitl perchnogaeth.
  • Ymgynghori a chyfrinachedd i gwsmeriaid Openreach. Bydd rhaid i Openreach ymgynghori’n ffurfio â chwsmeriaid fel Sky, TalkTalk a Vodafone ynghylch buddsoddiadau mawr. Yn y dyfodol, bydd cyfnod ‘cyfrinachol’ pryd y gall cwsmeriaid drafod syniadau heb i hynny gael ei ddatgelu i Grŵp BT, yn ogystal ag amddiffyniadau pellach ar wybodaeth gyfrinachol am gwsmeriaid.
  • Brand gwahanol. Bydd BT yn cael ei dynnu o frand Openreach, i adlewyrchu’r newidiadau hyn a’r ffaith fod y cwmni’n fwy annibynnol.

Bydd y model newydd yn cael ei gefnogi gan waith monitro gofalus a pharhaus i sicrhau ei fod yn effeithiol. Fel rhan o hyn, bydd BT yn darparu trylowyder ychwanegol i Ofcom ynglŷn â natur y rhyngweithio rhwng yr Openreach newydd a gweddill Grŵp BT.

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: "Dyma ddiwrnod pwysig i ddefnyddwyr ffonau a band eang. Bydd yr Openreach newydd yn cael ei adeiladu i wasanaethu ei holl gwsmeriaid fel ei gilydd, gan weithio’n wirioneddol annibynnol a gwneud penderfyniadau buddsoddi ar ran y diwydiant cyfan – nid BT yn unig.

“Rydym yn croesawu penderfyniad BT i wneud y diwygiadau hyn, sy’n golygu bod modd eu rhoi ar waith yn llawer cyflymach. Byddwn yn monitro’n ofalus sut bydd yr Openreach newydd yn perfformio, a hefyd yn parhau gyda’n gwaith yn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigir gan yr holl gwmnïau telathrebu.”

Mae ymrwymiadau BT hefyd yn cynnwys diwygiadau i’r modd y mae BT yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon, lle nad yw Openreach yn gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn y manteision sy’n gysylltiedig â’r newidiadau i Openreach i BT Gogledd Iwerddon – gan gynnwys rhagor o annibyniaeth, cyfrinachedd, a brandio annibynnol. Bydd BT Gogledd Iwerddon hefyd yn dal i fod yn gallu ystyried cyfleoedd ac amgylchiadau penodol lleol.2

Pam mae angen diwygio Openreach

Fe wnaeth Ofcom gyhoeddi cynlluniau y llynedd, fel rhan o’i Adolygiad o Gyfathrebu Digidol, i ailwampio trefnu lywodraethu Openreach a chryfhau ei annibyniaeth o BT.

Roedd hyn yn dilyn ein pryderon fod BT wedi cadw rheolaeth ar benderfyniadau Openreach, ac na fu digon o ymgynghori â chwmnïau telathrebu eraill ar gynlluniau buddsoddi sy’n effeithio arnynt.

Mae diwygio Openreach yn un rhan o waith Ofcom i sicrhau bod yr holl ddarparwyr yn ateb gofynion cynyddol y cwsmeriaid. Rydym hefyd yn cwblhau mesurau i sicrhau mwy o werth i gwsmeriaid sy’n cymryd llinell dir yn unig; darparu iawndal awtomatig i gwsmeriaid llinell dir a band eang pan fydd pethau’n mynd o’i le; a sicrhau bod Openreach yn gosod offer ac yn atgyweirio namau’n gynt.

Y camau nesaf

Mae BT wedi amlinellu ei ymrwymiadau mewn hysbysiad ffurfiol i Ofcom.

Cyn bo hir, bydd Ofcom yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y modd y bydd y cytundeb heddiw yn mynd i'r afael â’n pryderon ynglŷn â chystadleuaeth, ynghyd â chynigion i ryddhau BT o’i fentrau blaenorol yn ymwneud ag Openreach unwaith y bydd yr ymrwymiadau newydd yn eu lle yn gyfan gwbl. Ar yr un pryd, byddwn yn datgan sut byddwn yn monitro ac yn gorfodi’r strwythur newydd ar gyfer Openreach.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Gwarant y Goron yw darn o ddeddfwriaeth sy'n sicrhau y byddai'r Llywodraeth yn cwrdd â chyfraniadau pensiwn BT petai'r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben, er mor annhebygol yw hynny.

    Er mwyn gwneud hyn gan effeithio cyn lleied â phosibl ar gynllun pensiwn BT, bydd angen cynnal Gwarant y Goron, sy’n bodoli eisoes, ar gyfer staff Openreach sy'n aelodau o gynllun pensiwn BT. Mae Gwarant y Goron yn bwysig hefyd i gadw hawliau pensiwn gweithwyr Openreach. Mater i'r Llywodraeth yw cynnal Gwarant y Goron, ac mae angen newid y ddeddfwriaethol bresennol.

  2. Yn hanesyddol, mae Openreach wedi bodoli ym Mhrydain ond nid yng Ngogledd Iwerddon. Yn hytrach, mae BT Gogledd Iwerddon wedi addasu ei brosesau i adlewyrchu’n agos rai Openreach, sef trefniant sydd wedi gweithio’n dda ar y cyfan. Mae Ofcom eisiau amddiffyn y manteision hyn i Ogledd Iwerddon a chryfhau’r trefniadau cyfredol i adlewyrchu’r cytundeb heddiw.