Mae Pwyllgor Etholiadau Ofcom wedi ystyried cwyn gan y Blaid Geidwadol ynghylch The Channel 4 News Climate Debate.
Mae gan ddarlledwyr rhyddid golygyddol wrth benderfynu fformat unrhyw drafodaeth etholiad. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallant ddewis bwrw ymlaen heb gytuno ar gyfranogiad plaid wleidyddol neu wleidydd penodol, dim ond eu bod yn cymryd camau i sicrhau bod y rhaglen yn cydymffurfio gyda’n rheolau didueddrwydd dyladwy a rheolau etholiadau.
Yn yr achos hwn, gwnaeth y Pwyllgor Etholiadau ddod i’r casgliad bod, Channel 4, ar draws y drafodaeth awr a’r rhaglen newyddion a ddilynodd, wedi defnyddio technegau golygyddol i sicrhau bod safbwynt y Ceidwadwyr ynghylch hinsawdd a materion amgylcheddol wedi’u hadlewyrchu’n ddigonol ac wedi cael sylw priodol.
Gwnaeth y Pwyllgor hefyd ystyried nad oedd y cerflun iâ o’r glôb yn gynrychiolaeth o’r Prif Weinidog yn bersonol, a doedd fawr o ffocws golygyddol yn cael ei roi iddo, naill ai’n weledol neu gan y cyflwynydd neu gyfranogwyr y drafodaeth.
Roedd y Pwyllgor felly o'r farn nad oedd y rhaglen hon, yn cynnwys y cerflun iâ, wedi codi materion fyddai’n destun ymchwiliad pellach yn unol â’n rheolau didueddrwydd dyladwy. Mae casgliadau’r Pwyllgor ar gael yn llawn.