Ad-daliad i gwsmeriaid band eang a llinell sefydlog pan fydd pethau’n mynd o’i le

31 Mawrth 2019

  • Iawndal awtomatig o 1 Ebrill ymlaen er mwyn rhoi tegwch i gwsmeriaid
  • Cwmnïau’n gorfod talu £142m oni bai eu bod yn gwella eu gwasanaethau

Bydd cwsmeriaid band eang a llinell sefydlog yn cael ad-daliad gan eu darparwyr pan fydd pethau’n mynd o’i le, a hynny heb orfod brwydro, o ddydd Llun (1 Ebrill) ymlaen.

O’r blaen, os oedd cwsmeriaid band eang neu linell sefydlog yn dioddef oedi cyn trwsio neu osod cyfarpar, neu beirianwyr heb gadw at apwyntiad, dim ond rhyw un ymhob saith ohonynt gafodd iawndal gan eu darparwr; a hyd yn oed wedyn, dim ond symiau bach o arian oedd yn cael eu rhoi. [1]

Felly, mae Ofcom wedi ymyrryd i sicrhau tegwch i gwsmeriaid ac i gymell cwmnïau’n gryf i osgoi oedi rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae’r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n darparu band eang a llinellau sefydlog wedi cytuno i roi iawndal i gwsmeriaid os oes oedi, a hynny heb iddynt orfod gofyn am yr iawndal. [2]

Roedd BT, Sky, TalkTalk, Virgin Media a Zen Internet wedi arwyddo’r cynllun yn barod. Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw fod Hyperoptic a Vodafone hefyd wedi cytuno i’r telerau newydd, a byddant yn dechrau talu iawndal yn awtomatig yn nes ymlaen eleni. Gyda’i gilydd, mae gan y cwmnïau uchod fwy na 95% o’r cwsmeriaid band eang a llinell sefydlog yn y DU. [3]

Gallai’r cynllun newydd olygu y bydd cwsmeriaid yn elwa ar daliadau gwerth £142m, sef naw gwaith gymaint â’r swm maent yn ei gael heddiw. Yn ogystal â bod o fudd i ddefnyddwyr, bydd o fudd i lawer o gwmnïau bach a chanolig sy’n dewis gwasanaethau llinell sefydlog a band eang preswyl. [4]

Dyma sut mae’n gweithio:

Tabl yn dangos iawndal i gwsmeriaid llinell dir a band eang

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydym yn credu ei bod yn annerbyniol i bobl fod yn gorfod disgwyl am linell newydd neu i gael trwsio nam.

“Mae’r dulliau newydd hyn yn golygu y bydd cwmnïau ffôn a band eang eisiau osgoi problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Ond os byddant yn methu, rhaid i gwsmeriaid gael eu trin yn deg a chael ad-daliad heb orfod gofyn amdano.

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y cwmnïau i’r cynllun hwn, sy’n eu cymell yn gryf i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.”

Bydd Ofcom yn monitro’r modd bydd cwmnïau yn cydymffurfio â’r cynllun iawndal, a bydd yn dweud sut bydd pethau’n gweithio y flwyddyn nesaf. Os na fydd cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg, byddwn ni’n cymryd camau.

Tegwch i gwsmeriaid

Tegwych i gwsmeriaidMae'n cynllun iawndal yn rhan o raglen waith Ofcom ar Degwch i Gwsmeriaid er mwyn sichrau  bod cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu yn cael eu trin yn deg.

Mae hyn yn cynnwys:

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae ffigyrau Ofcom yn awgrymu bod 7.2m o achosion bob blwyddyn pan fo cwsmeriaid band eang neu linell sefydlog yn dioddef oedi wrth drwsio neu osod cyfarpar neu pan fydd apwyntiadau’n cael eu methu. Ar hyn o bryd, mae gwerth £16m o iawndal ariannol yn cael ei dalu mewn 1.1m o’r achosion. Rydym yn amcangyfrif bod pobl yn cael £3.69 y dydd ar gyfartaledd am golli gwasanaeth, a £2.39 y dydd am oedi cyn gosod cyfarpar.

2. Os yw cwsmer yn colli gwasanaeth o 1 Ebrill ymlaen, bydd yn rhaid iddynt ddweud wrth y darparwr am y nam. Ni fydd angen iddynt ofyn am iawndal oherwydd bydd y darparwyr yn talu’n awtomatig os yw’r gwaith trwsio yn cymryd gormod o amser.

3. Mae EE wedi cytuno i’r telerau newydd, ac mae’n disgwyl bod yn gallu talu iawndal yn awtomatig y flwyddyn nesaf. Mae Plusnet wedi ymrwymo i’r cynllun hefyd.

4. Mae’r cynllun iawndal awtomatig newydd yn gymwys i wasanaethau band eang sefydlog a llinellau sefydlog preswyl. Mae rhyw un rhan o dair o gwmnïau bach a chanolig yn dewis pecyn preswyl. Yn ôl ein dadansoddiad ni, nifer isel o gwsmeriaid ffonau symudol sy’n debygol o golli gwasanaeth am fwy na 24 awr, ac mae cwsmeriaid ffonau symudol fel arfer yn cael mwy o iawndal na chwsmeriaid band eang a llinell sefydlog.