Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ofcom yn cyhoeddi Adolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol

12 Mawrth 2015

12 March 2015

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi adolygiad trosfaol o farchnad gyfathrebu'r DU, i sicrhau bod darparwyr a gwasanaethau cyfathrebu'n parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr a busnesau.

Bydd Adolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol Ofcom yn edrych ar gystadleuaeth, buddsoddiad, arloesedd ac argaeledd cynnyrch yn y marchnadoedd band eang, symudol a llinellau sefydlog. Drwy asesu'r meysydd hyn gyda'i gilydd, bydd Ofcom yn ystyried cwestiynau ehangach sy'n ategu'r rheini mae'n eu hystyried yn ei adolygiadau rheolaidd o farchnadoedd telegyfathrebu unigol a gynhelir bob tair blynedd.

Fis Mai diwethaf, dywedodd Ofcom y byddai 2015 yn gyfle amserol i bwyso a mesur effeithiolrwydd y rheolau a ddeilliodd o'r adolygiad mawr diwethaf, 10 mlynedd ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Bydd yr adolygiad newydd yn ystyried amrywiaeth o faterion yn y maes telegyfathrebu. Mae Ofcom yn disgwyl y bydd yn canolbwyntio ar dair agwedd yn benodol;

  • sicrhau cymhelliant iawn i fuddsoddiad sector preifat all sicrhau argaeledd ac ansawdd gwasanaeth;
  • cynnal cystadleuaeth a thaclo unrhyw dagfeydd neu rwystrau economaidd a allai fod yn dal y sector yn ôl;
  • ac a oes posibilrwydd ar gyfer dadreoleiddio mewn rhai meysydd.

Amseru a chwmpas

Yr adolygiad hwn fydd ail asesiad mawr Ofcom o'r sector telegyfathrebu ehangach. Dechreuodd y cyntaf ym mis Rhagfyr 2003 a daeth i ben ym mis Medi 2005. Arweiniodd at reolau newydd a oedd yn caniatáu i ddarparwyr a oedd yn cystadlu â'i gilydd gael mynediad at rwydwaith BT, a hynny ar delerau cyfartal, er mwyn cynnig gwasanaethau ffôn a band eang i ddefnyddwyr.

Mae'r farchnad telegyfathrebu wedi trawsnewid yn ystod y ddegawd diwethaf. Bydd yr Adolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol yn ystyried goblygiadau datblygiadau cyfredol ac yn y dyfodol o ran rheoleiddio gan gynnwys: cynlluniau gweithredwyr mawr ar gyfer buddsoddi'n sylweddol mewn rhwydwaith; mwy a mwy o wasanaethau telegyfathrebu yn gweithredu dros y rhyngrwyd; a chynlluniau posibl amrywiol i uno, prynu, cynnal mentrau ar y cyd a llunio partneriaethau yn y sector.

Sicrhau gwerth i ddefnyddwyr

Ers ei adolygiad mawr diwethaf, mae Ofcom wedi addasu ei ddull gweithredu rheoleiddio i adlewyrchu'r farchnad telegyfathrebu sy'n esblygu.

Yn 2006, roedd wedi diddymu rheolaethau pris ar wasanaethau telegyfathrebu cystadleuol. Yn 2010, cyflwynodd reolau newydd i hybu cystadleuaeth mewn band eang cyflym iawn. Yn 2011, gosododd gap ar gyfraddau symudol cyfanwerthu, gan arwain at alwadau rhatach i ffonau symudol.

Yn 2013, dyfarnodd Ofcom sbectrwm ar gyfer gwasanaethau symudol 4G, gyda rheol i sicrhau y byddai o leiaf 98% o eiddo'n elwa o'r dechnoleg newydd.Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae defnyddwyr gwasanaethau telegyfathrebu ledled y DU wedi gweld manteision go iawn drwy gynnyrch arloesol, mwy o ddewis a phrisiau is. Er enghraifft, dros y cyfnod hwnnw mae cyflymder cyfartalog band eang chwe gwaith yn gynt, ac mae'r prisiau wedi disgyn mwy na 50%; ac mae cost termau real bwndel symudol wedi disgyn o £40 i ddim ond £14.

Roedd Cerdyn Sgorio Band Eang Ewropeaidd diweddar Ofcom yn dangos bod y DU ar y blaen i bum economi fwyaf yr UE ar y rhan fwyaf o fesuriadau sy’n ymwneud â darpariaeth, prynu, defnyddio a dewis ar gyfer gwahanol fathau o fand eang, ac mae’n perfformio’n dda ar bris.

Hybu buddsoddiad

Mae gweithredwyr mawr yn dal i fuddsoddi yn rhwydweithiau telegyfathrebu'r DU. Er enghraifft, ym mis Ionawr dywedodd BT ei fod yn profi technoleg i ddarparu cyflymder band eang 'tra chyflym', gyda chynllun i gyflwyno i'r rhan fwyaf o'r DU cyn pen degawd. Y mis canlynol, cyhoeddodd Virgin Media gynlluniau i ymestyn ei rwydwaith i oddeutu pedwar miliwn o eiddo newydd dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Ofcom yn dymuno parhau i gefnogi datblygu'r farchnad drwy ddarparu fframwaith rheoleiddio clir a strategol. Bydd yn cael ei ddylunio i hybu cystadleuaeth a chefnogi buddsoddiad ac arloesedd parhaus a fydd o fantais i ddefnyddwyr ac i fusnesau, drwy argaeledd, dewis, pris ac ansawdd gwasanaeth.

Dywedodd Steve Unger, Prif Weithredwr Dros Dro Ofcom: "Rydyn ni wedi gweld newidiadau enfawr yn y marchnadoedd ffôn a band eang ers ein hadolygiad mawr diwethaf ddegawd yn ôl. Gwta bum mlynedd yn ôl, doedd neb ohonom ni bron wedi defnyddio cyfrifiadur tabled, ffrydio manylder uwch na band eang symudol 4G.

"Mae'r ffiniau'n dal yn niwlog rhwng gwasanaethau â gwifr, symudol a rhyngrwyd, ac mae pobl yn mwynhau gwasanaethau cyflymach ar ystod ehangach o ddyfeisiau.

"Bydd ein hadolygiad newydd yn golygu bod rheolau Ofcom yn parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr a busnesau, wrth gefnogi cystadleuaeth a buddsoddiad am flynyddoedd i ddod."

Y camau nesaf

Bydd cam cyntaf yr adolygiad yn archwilio ffactorau yn y farchnad nawr ac yn y dyfodol a allai effeithio ar wasanaethau cyfathrebu digidol, a dulliau gweithredu rheoleiddio cyfredol. Er mwyn cyfrannu at y gwaith hwn, mae Ofcom yn bwriadu casglu barn amrywiaeth eang o randdeiliaid dros y misoedd nesaf - gan gynnwys y diwydiant, grwpiau defnyddwyr a llywodraeth y DU a llywodraethau'r gwledydd - drwy gyfarfodydd a gweithdai.

Disgwylir i'r cam hwn o'r adolygiad ddod i ben gyda dogfen drafod yn ystod haf 2015. Mae Ofcom wedyn yn disgwyl amlinellu ei gasgliadau cychwynnol cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2015/16.

DIWEDD

 NODIADAU I OLYGYDDION:

  1. Ffynnonellau ar gyfer data ar bris a chyflymdra: Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu Ofcom 2014;  Cost and Value of Communications Services in the UK; and UK Fixed-line Broadband Performance.
  2. Prif ddyletswydd Ofcom dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, yw hyrwyddo buddiannau dinasyddion yng nghyswllt materion cyfathrebu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, lle bo hynny'n briodol, drwy hybu cystadleuaeth.