Terfynau prisiau newydd ar rifau 118

28 Tachwedd 2018

  • Ofcom i roi terfynau ar gostau galw gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn
  • Bydd y newid yn lleihau costau i gannoedd ar filoedd o alwyr

Bydd pobl sy'n ffonio gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn yn cael eu diogelu rhag prisiau uchel o dan derfynau prisiau newydd ar gyfer rhifau ffôn 118, a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Rydym wedi bod yn pryderu bod prisiau ymholiadau rhifau ffôn wedi bod yn codi'n arw. Mae rhai darparwyr yn codi bron i £20 am alwad 90 eiliad ar gyfartaledd. Y pris a godir gan y gwasanaeth mwyaf poblogaidd – 118 118 – am alwad 90 eiliad erbyn hyn yw £11.23.[1]

Er bod gwasanaethau rhatach ar gael, mae ymchwil Ofcom yn dangos bod defnyddwyr yn tueddu i ffonio'r rhifau y mae’n haws iddyn nhw eu cofio.

Ac er bod nifer y galwadau i wasanaethau 118 wedi bod yn gostwng tua 40% bob blwyddyn[2], mae mwy na miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig - llawer ohonyn nhw’n oedrannus - yn dal i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae'r gost o ffonio nifer o'r gwasanaethau hyn bellach yn llawer uwch na'r hyn y mae pobl yn disgwyl ei dalu. Mae ymchwil Ofcom yn amcangyfrif bod oddeutu 450,000 o ddefnyddwyr y flwyddyn yn talu cyfanswm o £2.4 miliwn yn fwy nag y maen nhw’n ei ddisgwyl am y galwadau hyn, gyda rhai yn ei chael yn anodd talu eu biliau.[3]

Gan hynny, mae Ofcom yn camu i mewn drwy roi terfynau uchafswm y gall gwasanaeth 118 ei godi, sef £3.65 am 90 eiliad. Bydd hyn yn dod â phrisiau yn ôl i lefelau 2012, ac yn nes at yr hyn y mae pobl yn disgwyl ei dalu.

Dywedodd Jane Rumble, Cyfarwyddwr Polisi Defnyddwyr Ofcom: “Mae prisiau ymholiadau rhifau ffôn wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae galwyr yn talu llawer mwy nag y maen nhw’n ei ddisgwyl. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod hyn yn niweidiol i bobl, gyda rhai yn ei chael yn anodd talu eu biliau.

"Bydd hyn yn lleihau cost nifer o alwadau'n sylweddol, ac yn eu dychwelyd i lefelau 2012.”

Pam mae prisiau'n bwysig

Canfu ymchwil Ofcom fod pedwar o bob pump o alwyr 118 (82%) yn dweud ei bod yn bwysig cael gafael ar rif maen nhw ei angen ar yr adeg maen nhw’n galw gwasanaeth ymholiadau rhifau ffôn. Mae pobl 65 oed a throsodd bedair gwaith yn fwy tebygol o ffonio rhifau 118 na phobl rhwng 16 a 34 oed, ac maen nhw’n sylweddol llai tebygol o fod â mynediad at y rhyngrwyd pan fydd angen iddyn nhw ddod o hyd i rif.[4]

Canfuom hefyd nad yw bron i ddwy ran o dair (65%) o alwyr 118 yn gwybod faint mae galwadau'n costio. Mae dau o bob pump (42%) yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis arall ond defnyddio gwasanaeth ymholiadau rhifau ffôn ar yr adeg honno, ac mae cyfran debyg yn wynebu costau uwch nag y maen nhw’n ei ddisgwyl.

Gan hynny, bydd y terfyn newydd ar brisiau yn diogelu defnyddwyr rhag biliau annisgwyl o uchel, ac yn gwneud gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn yn fwy fforddiadwy. Er mwyn rhoi amser i ddarparwyr addasu eu prisiau a'u systemau bilio, daw'r terfynau ar brisiau i rym ar 1 Ebrill 2019.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Enghreifftiau o brisiau a godir gan amrywiaeth o ddarparwyr ymholiadau rhifau ffôn:

Image showing how 118 call prices vary. 60-second call: 118004 (Telecom2) = £15.98; 118118 (TNUK) = £8.98; 118212 (Maureen) = £8.98; 118247 (Yell) = £5.50; 118500 (BT) = £2.32; 118180 (Virgin)* = £1.50; 118402 (O2) = £0.75; 118855 (Post Office) = £1.00 -- 90-second call: 118004 (Telecom2) = £19.98; 118118 (TNUK) = £11.23; 118212 (Maureen) = £11.23; 118247 (Yell) = £6.88; 118500 (BT) = £3.10; 118180 (Virgin)* = £2.25; 118402 (O2) = £1.13; 118855 (Post Office) = £1.00. *Virgin provides 10 free DQ calls to its own customers daily. Onward connection restrictions apply.

Mae The Number UK (TNUK) yn cyfrif am y swm mwyaf o alwadau ymholiadau rhifau ffôn yn y Deyrnas Unedig (tua 40%), ac yna BT (rhwng 20% a 30%). Mae naw o wasnaethau ymholiadau rhifau ffôn sydd â rhif 118 gyda chostau gwasanaeth wedi eu cyhoeddi o £15.98 am funud cyntaf yr alwad a £7.99 am bob munud dilynol.

2. Mae nifer y galwadau a wnaed i rifau 118 wedi gostwng o 7.14 miliwn yn Chwarter 3 2014 i 1.95 miliwn yn Chwarter 2 2017 - gostyngiad blynyddol cyfartalog o 38%. Mae cynnydd mewn prisiau dros yr un cyfnod yn golygu bod refeniw darparwyr ymholiadau rhifau ffôn wedi gostwng o £27 miliwn yn 2014 i £12 miliwn yn 2017 - gostyngiad cyfartalog o 26% y flwyddyn.

3. O ran y defnyddwyr hynny sy'n defnyddio gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn, mae 8% yn wynebu problemau fforddiadwyedd o ganlyniad, naill ai'n torri'n ôl ar wariant ar eitemau eraill, yn menthyg arian gan ffrindiau neu deulu i dalu eu bil, yn gohirio talu neu’n methu talu eu bil yn gyfan gwbl.

4. Yn gyffredinol, mae 26% o ddefnyddwyr ymholiadau rhifau ffôn yn dweud bod ganddyn nhw gysylltiad rhyngrwyd pan fyddan nhw’n galw rhif ymholiadau rhifau ffôn, o'i gymharu â 13% o ddefnyddwyr dros 65 oed.

5. Cafodd rhifau 118 eu cyflwyno gan Oftel, yr hen reoleiddiwr telegyfathrebu, yn 2003. Cafodd y farchnad ymholiadau rhifau ffôn ei hagor i gystadleuaeth a chafodd amrywiaeth mawr o wasanaethau 118 eu lansio.