Sharon White i gamu i lawr fel Prif Weithredwr Ofcom

06 Mehefin 2019

Mae Bwrdd Ofcom wedi cyhoeddi heddiw y bydd Sharon White yn camu i lawr fel Prif Weithredwr.

Mae Sharon yn gadael i fod yn Gadeirydd Partneriaeth John Lewis. Mae disgwyl iddi adael Ofcom tua diwedd y flwyddyn.

Sharon joined Ofcom in March 2015 from HM Treasury where she was Second Permanent Secretary.

Ymunodd Sharon ag Ofcom ym mis Mawrth 2015 o Drysorlys EM lle’r oedd yn Ail Ysgrifennydd Parhaol.

Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom: “Mae Sharon wedi bod yn Brif Weithredwr rhagorol i Ofcom a bydd y sefydliad cyfan yn ei cholli.

“O dan arweinyddiaeth Sharon, mae Ofcom wedi helpu i ddarparu band eang gwibgyswllt, gwasanaethau symudol 4G eang a 5G erbyn hyn, gan ddod yn rheoleiddiwr annibynnol cyntaf ar gyfer y BBC.”

“Mae’n gadael Ofcom fel rheoleiddiwr sydd â ffocws penderfynol ar fudd y defnyddiwr; gan wneud yn siŵr bod pobl a busnesau yn gallu manteisio i’r eithaf ar eu gwasanaethau cyfathrebiadau.”

Dywedodd Sharon White: “Mae wedi bod yn fraint enfawr i arwain Ofcom ar adeg pan mae cyfathrebiadau fforddiadwy, dibynadwy wedi dod yn hanfodol. Byddaf yn gadael sefydliad sy’n ymroddedig i’w genhadaeth o wneud i gyfathrebiadau weithio i bawb.”

Bydd Bwrdd Ofcom nawr yn dechrau’r broses o benodi olynydd.

Nodiadau:

  1. Mae Prif Weithredwr Ofcom yn benodiad cyhoeddus a gaiff ei wneud gan Fwrdd Ofcom, sy’n cynnwys aseswr annibynnol ac yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.