Cwmnïau mwyaf Prydain ar gyfer band eang a ffonau yn rhoi tegwch yn gyntaf

03 Mehefin 2019

  • Cwmnïau mwyaf y DU ar gyfer band eang, ffonau symudol, teledu-drwy-dalu a ffonau cartref yn cytuno i gyflawni ymrwymiadau newydd Ofcom ar gyfer Tegwch i Gwsmeriaid
  • Ofcom yn herio'r diwydiant i osod safonau newydd o ran sut mae'n trin cwsmeriaid

Mae cwmnïau mwyaf y DU ar gyfer band eang, ffôn a theledu-drwy-dalu wedi ymrwymo i sicrhau bod tegwch yn ganolog i'w busnesau, ar ôl cytuno i gyflawni ymrwymiadau newydd Ofcom ar gyfer Tegwch i Gwsmeriaid.

Mae Ofcom wedi datblygu'r ymrwymiadau er mwyn cryfhau’r modd mae cwmnïau’n trin eu cwsmeriaid. Maen nhw’n ceisio sicrhau bod pobl bob amser yn cael eu trin yn deg gan eu darparwr – p’un ai a ydyn nhw’n cofrestru ar gyfer cytundeb newydd, yn ceisio datrys problem neu’n symud at gwmni newydd.

Mae pob un o ddarparwyr mwyaf y DU wedi cytuno i gyflawni’r ymrwymiadau, gan gynnwys: BT; EE; Giffgaff; O2; Plusnet; Swyddfa'r Post; Sky; TalkTalk; Tesco Mobile; Three; Virgin Media a Vodafone. Y cwmnïau hyn yw darparwyr y rhan fwyaf o gwsmeriaid band eang, ffonau symudol, teledu-drwy-dalu a ffonau cartref.

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Rwy'n croesawu'r ymrwymiadau mae'r darparwyr wedi eu gwneud, a'r camau maen nhw'n eu cymryd i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg bob cam o'r ffordd.

“Ni all gwasanaeth gwych fod yn rhywbeth opsiynol. Mae’n rhaid iddo fod yn fater o drefn. Nid yw hynny’n digwydd bob tro mewn gwasanaethau band eang a symudol. Ond, erbyn hyn, mae mwy a mwy o ddarparwyr yn credu bod rhoi cwsmeriaid yn gyntaf yn hollbwysig.”

Dywedodd Margot James, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol a Digidol: “Rwy'n falch bod pob un o brif ddarparwyr telegyfathrebiadau wedi cytuno heddiw i gyflawni ymrwymiadau Ofcom. Byddant yn helpu defnyddwyr i gael bargeinion sy’n decach, a byddant hefyd yn cefnogi cystadleuaeth gan sicrhau bod darparwyr yn gweithio tuag at yr un amcanion, ac yn cystadlu ar sail safonau.”

Dywedodd Caroline Normand,  Cyfarwyddwr Eiriolaeth Which?: “Tan nawr, mae gormod o bobl wedi bod yn cael bargeinion gwael gan eu cyflenwyr band eang neu ffôn symudol. Felly mae'n gam cadarnhaol bod pob un o’r prif gwmnïau wedi cytuno i gyflawni ymrwymiadau tegwch newydd Ofcom.

“Mae rhai o’r problemau y mae pobl wedi eu profi yn cynnwys telerau dryslyd ac annheg, cefnogaeth wael i gwsmeriaid, a darparwyr yn codi gormod arnynt. Nawr, mae gan ddarparwyr gyfle i wneud pethau'n iawn ar gyfer eu cwsmeriaid drwy ymrwymo i gynnig gwasanaeth da, triniaeth deg ac atebion syml pan fo pethau'n mynd o chwith.

“Os ydych yn anhapus â'ch darparwr presennol, neu'n meddwl eich bod yn talu gormod, dylech chi ystyried newid. Gallai ychydig funudau o'ch amser arbed llawer o drafferth i chi, ac o bosib, cannoedd o bunnoedd y flwyddyn.”

Bydd y tair ohonynt yn siarad am y pwyntiau hyn mewn digwyddiad sy’n cael gynnal gan Ofcom a Which? ar Degwch i Gwsmeriaid heddiw (Dydd Llun 3 Mehefin). Bydd hyn yn dod ag Ofcom, cwmnïau cyfathrebiadau mwyaf blaenllaw y DU, y llywodraeth, grwpiau defnyddwyr ac elusennau ynghyd er mwyn hyrwyddo tegwch ar draws y diwydiant

Fairness for Customers logoYr holl ymrwymiadau

  1. Cwsmeriaid yn cael bargen sy'n deg, ac sy'n addas ar gyfer eu hanghenion. Darparwyr yn cynnig pecynnau i gwsmeriaid sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac yn cynnig dull prisio sy'n deg. Prisiau'n glir ac yn hawdd i'w deall;
  2. Cwsmeriaid yn cael eu cefnogi pan fo eu hamgylchiadau'n golygu eu bod yn agored i niwed. Darparwyr yn deall ac yn nodi nodweddion, anghenion ac amgylchiadau cwsmeriaid sy'n agored i niwed - e.e. oherwydd anabledd, oedran, salwch meddwl neu’r bobl wedi cael profedigaeth - a gweithredu er mwyn rhoi triniaeth deg iddynt a mynediad cyfartal at wasanaethau;
  3. Cwsmeriaid yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus gyda gwybodaeth glir am eu hopsiynau cyn, yn ystod, ac ar ddiwedd eu cytundeb. Darparwyr yn dylunio ac yn anfon cyfathrebiadau mewn ffordd sy’n adlewyrchu dealltwriaeth o sut mae cwsmeriaid yn gyffredinol yn ymateb i wybodaeth, er mwyn iddynt allu deall ac ymgysylltu â’r farchnad;
  4. Gwasanaethau cwsmeriaid yn gweithio fel y maent i fod, ac yn ddibynadwy dros amser. Os bydd pethau'n mynd o chwith, bydd darparwyr yn cynnig ateb i drwsio problemau yn sydyn, ac yn cymryd camau priodol i helpu eu cwsmeriaid, a allai gynnwys talu iawndal pan fo hynny'n berthnasol. Os nad yw darparwyr, o fewn cyfnod rhesymol, yn gallu datrys problemau gyda gwasanaethau craidd y maen nhw wedi'i addo i gwsmeriaid, gall cwsmeriaid adael eu cytundeb heb gosb;
  5. Cwsmeriaid yn gallu cofrestru, newid a gadael eu gwasanaethau'n gyflym ac yn ddidrafferth. Darparwyr yn sicrhau nad yw cwsmeriaid sy'n gadael yn wynebu rhwystrau neu drafferth ychwanegol, o'i gymharu â'r rheini sy'n cofrestru ar gyfer gwasanaethau newydd;
  6. Cwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod triniaeth deg yn rhan ganolog o ddiwylliant eu darparwyr. Cwmnïau'n gallu dangos bod ganddynt y gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn dda. Byddant yn sicrhau bod y gweithdrefnau hyn yn effeithiol ac yn gyfoes.

Mae'r ymrwymiadau yn rhan hanfodol o waith Ofcom i helpu i sicrhau bod cwmnïau yn trin eu cwsmeriaid yn deg. Mae cyfraith defnyddwyr a rheolau Ofcom eisoes yn sail i lawer o’r ymrwymiadau hyn. Byddwn yn monitro cwmnïau yn ofalus, a byddwn yn camu i mewn pan fyddwn yn gweld nad yw cwmnïau'n cyrraedd y nod.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd y flwyddyn nesaf, gan gynnal adolygiad i weld a yw cwmnïau'n cyflawni'r hyn maen nhw wedi'i addo. Mae hyn ochr yn ochr â'n hadroddiadau rheolaidd ar gwynion a bodlonrwydd cwsmeriaid.

Rhaglen Ofcom ar gyfer Tegwch i Gwsmeriaid

Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynrychioli’r diweddaraf am raglen Ofcom ar gyfer Tegwch i Gwsmeriaid, sydd hefyd yn cynnwys:

Mae rhagor o waith parhaus yn cynnwys cynigion i sicrhau bargeinion cliriach a tecach i bobl sy’n prynu ffonau symudol sydd wedi eu cynnwys mewn bwndel gyda’r amser ar yr awyr. Byddwn yn cyhoeddi'r camau nesaf ar gyfer hyn yn ddiweddarach yr haf hwn.

Rydym hefyd yn parhau â'n gwaith yn adolygu prisiau band eang, sy'n archwilio pam mae rhai pobl yn talu mwy nag eraill – yn enwedig y rheini a allai fod mewn sefyllfaoedd bregus. Disgwyliwn gyhoeddi ein canfyddiadau ar hyn yn yr hydref.