Cysylltu ardaloedd gwledig yng Nghymru

18 Rhagfyr 2018

  • Darpariaeth symudol a band eang yn gwella, ond angen rhagor o gynnydd mewn ardaloedd gwledig
  • Rheolau newydd Ofcom i gynyddu signal symudol yn yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf
  • Cynlluniau ar gyfer ‘rhannu sbectrwm’ i gynorthwyo gwella darpariaeth symudol ac arloesedd

Mae darpariaeth symudol a band eang yn gwella yn y DU, ond mae gormod o ardaloedd gwledig yn parhau i gael signal gwael – yn ôl astudiaeth sylweddol Ofcom ar rwydweithiau cyfathrebu’r DU.

Mae ein hadroddiad blynyddol Cysylltu’r Gwledydd yn dangos fod darpariaeth symudol yn parhau i wella ond mae’n dal i fod yn gyfyngedig mewn llawer o ardaloedd gwledig yng Nghymru. Gall 98% o gartrefi a swyddfeydd gael signal 4G dan do da gan o leiaf un darparwr; tra bo 69% yn cael darpariaeth gan bob un o’r pedwar rhwydwaith, cynnydd o’r 45% flwyddyn ynghynt.

Mae derbyniad dan do yn bwysig, ond mae pobl hefyd yn disgwyl signal da pan fyddant yn yr awyr agored, ac wrth deithio. Mae adroddiad heddiw’n canfod fod gan 75% o arwyneb tir Cymru ddarpariaeth ‘gyflawn’ gan bob un o’r pedwar darparwr – cynnydd o’r 62% flwyddyn yn ôl.

Ac mae gan 90% o ddaearyddiaeth Cymru signal rhyngrwyd 4G da  gan o leiaf un darparwr, o’i gymharu â 80% y llynedd. Mae gan dros hanner (57%) o arwyneb y tir ddarpariaeth 4G ‘gyflawn’ gan bob un o’r pedwar, i fyny o 30% y llynedd.

Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael trafferth cael darpariaeth symudol dda, ac yng Nghymru y mae’r bwlch mwyaf o ran darpariaeth 4G rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig. Er bod gan 79% o gartrefi a swyddfeydd trefol ddarpariaeth 4G gynhwysfawr, mae’r ffigur ar gyfer eiddo gwledig yn llai na hanner hynny (36%).  Mewn rhai ardaloedd anghysbell o'r wlad, does dim darpariaeth o gwbl, mae 10% o Gymru (9% o’r DU) heb ddarpariaeth 4G da gan unrhyw weithredydd.

Mae Ofcom eisiau gweld cynnydd cyflymach o ran cyflwyno signalau modern 4G i ardaloedd sy’n parhau i fod heb ddarpariaeth dda – gan alluogi pobl i wneud galwadau, cael mynediad at y rhyngrwyd, ffrydio fideo a defnyddio apiau ffonau clyfar lle bynnag y maent yn digwydd bod.

Heddiw, rydym wedi nodi cynlluniau wedi’u diweddaru i ryddhau tonnau awyr newydd ar gyfer gwasanaethau symudol, gan gynnwys gofynion ar gyfer darparwyr i gynyddu darpariaeth 4G dan do yn sylweddol, gan ddefnyddio o leiaf 500 o safleoedd trosglwyddyddion newydd i gyrraedd mwy o bobl a busnesau.

Rhyddhau rhagor o donnau awyr ar gyfer gwasanaethau symudol

Rydym yn bwriadu arwerthu dau ‘fand’ sbectrwm ar gyfer gwasanaethau symudol gyda’i gilydd, erbyn gwanwyn 2020.

Y band 700 MHz. Mae’r tonnau awyr hyn yn addas iawn ar gyfer darparu signal symudol o ansawdd da, dan do ac ar draws ardaloedd eang iawn – gan gynnwys yng nghefn gwlad.

Y band 3.6 GHz i 3.8 GHz. Mae’r sbectrwm ‘amledd canol’ hwn, a fydd yn cael ei arwerthu ochr yn ochr â’r band 700 Mhz, yn addas ar gyfer cynnal llawer o gysylltiadau sy’n llyncu llawer o ddata mewn ardaloedd prysur iawn. Gellir ei ddefnyddio i gynnig gwasanaethau 5G – y genhedlaeth nesaf o fand eang symudol cyflym iawn.

Mae Ofcom yn bwriadu cynnwys rheolau rhwymol o ran darpariaeth gyda’r sbectrwm. Mae'r rhain yn golygu y byddai’n rhaid i hyd at ddau ymgeisydd llwyddiannus, wneud y canlynol o fewn pedair blynedd:

  • Ymestyn darpariaeth data da yn yr awyr agored i o leiaf 90% o holl arwynebedd tir y DU o fewn pedair blynedd i’r cynnig llwyddiannus, gan gynnwys o leiaf 90% o Loegr, 90% o Ogledd Iwerddon, 74% o’r Alban ac 83% o Gymru.1
  • Gwella darpariaeth ar gyfer o leiaf 140,000 o gartrefi a swyddfeydd nad ydynt eisoes yn darparu ar eu cyfer. Mae hyn yn golygu y bydd darpariaeth newydd yn cael ei thargedu ar ardaloedd sy’n fwy anodd eu cyrraedd; a
  • Rhoi darpariaeth o 500 o orsafoedd mast symudol newydd, o leiaf, mewn ardaloedd gwledig. Bydd hyn yn sicrhau bod darparwyr yn trawsnewid darpariaeth mewn ardaloedd lle nad yw ar gael, yn hytrach na chyflawni’r rheolau drwy wneud dim ond rhoi hwb i signalau presennol.

Yn ystod yr arwerthiant y flwyddyn nesaf, byddai’r pris ar gyfer ennill tonnau awyr sy’n ddarostyngedig i'r rheolau hyn yn derbyn disgownt o hyd at £300-400m – i adlewyrchu’r buddsoddiad sylweddol fydd ei angen i gyflawni’r rheolau, a’r manteision cymdeithasol a ddaw yn eu sgil.

Yn ogystal â gweithio tuag at ddarpariaeth band eang cynhwysfawr ar draws y DU, mae Ofcom yn cefnogi datblygiad 5G - i gynyddu capasiti symudol a chynorthwyo'r DU i barhau i arwain y byd o ran technoleg symudol.

Dywedodd Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae canfyddiadau adroddiad heddiw’n galonogol – mae Cymru wedi gweld y gwelliant mwyaf o ran darpariaeth 4G ar gael gan bob darparwr ond rhaid gwneud mwy fel nad yw cymunedau yn cael eu gadael ar ôl.”

“Mae’r ddarpariaeth yn gwella, ond mae disgwyliadau yn cynyddu hefyd. Felly rydym yn parhau i gefnogi cystadleuaeth ac arloesedd, i helpu gwella darpariaeth ar draws Cymru - yn enwedig yn ein hardaloedd mwyaf gwledig.”

Rhannu sbectrwm i gefnogi darpariaeth ac arloesedd

Heddiw hefyd, mae Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau i ganiatáu i rai sbectra gael eu rhannu gan wahanol ddefnyddwyr, i gefnogi arloesedd a chynlluniau darpariaeth leol ar draws economi’r DU.

Gallai rhai o’r tonnau awyr hyn gynnal technoleg ddiwifr mewn meysydd mor amrywiol â logisteg, mwyngloddio, amaethyddiaeth a dyfeisiau wedi’u cysylltu a fydd yn ffurfio ‘rhyngrwyd Pethau’. Gallai tonnau awyr eraill gael eu defnyddio gan sefydliadau a grwpiau i adeiladu a gweithredu eu rhwydweithiau symudol lleol eu hunain, gan wella darpariaeth dan do a thu allan.

Er enghraifft, rydym yn bwriadu darparu sbectrwm ar gyfer defnydd sy’n cael ei rannu yn y bandiau 1800Mhz a 2300 Mhz, y gellir eu defnyddio gan ffonau symudol presennol. Rydym hefyd yn bwriadu galluogi trydydd partïon i ddefnyddio tonnau awyr sydd wedi’u trwyddedu i weithredwyr symudol, ond ddim yn cael eu defnyddio ganddynt. Gallai hyn fod yn arbennig o addas ar gyfer cymunedau lleol i wella darpariaeth.

Sicrhau bod y data ar gael ar lefelau sydd o’r diddordeb mwyaf

Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, rydym hefyd yn cyhoeddi dashfwrdd rhyngweithiol, i alluogi pobl i weld data ar y lefel ac yn y lleoliadau lle y mae eu diddordeb pennaf. Bydd pobl yn cael dewis o wahanol lefelau a manylion daearyddol, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru ac etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gan rai o ardaloedd Gogledd Ddwyrain Cymru beth o’r ddarpariaeth 4G symudol orau yng Nghymru, gydag etholaethau Dyffryn Cwyd, Wrecsam a Delyn yn cael 100% o ddarpariaeth ddaearyddol 4G.

O'r 10 etholaeth ddatganoledig yn y DU sydd â’r ddarpariaeth 4G ddaearyddol isaf yn yr awyr agored, mae Dwyfor Meirionnydd yn seithfed o’r gwaelod (37%). Wrth edrych ar hyn yn ôl awdurdod lleol, mae Gwynedd yn nawfed o’r gwaelod (42%) ac mae Conwy yn ddegfed (43%). Ym Mrycheiniog a Maesyfed y mae’r nifer uchaf o eiddo yng Nghymru (4,948) sy’n methu â chael mynediad at wasanaethau 10Mbit yr eiliad neu fwy. Mae gan bedair etholaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ganrannau o adeiladau sy’n rhifau dwbl yn y categori hwn.

Mae manylder y data i’w weld yn amlwg yn adroddiad Cysylltu’r Gwledydd ar gyfer Cymru eleni, gydag astudiaeth achos yn cymharu argaeledd gwasanaethau cyfathrebu mewn dwy o etholaethau mwyaf gwledig a phrin eu poblogaeth yng Nghymru – Ceredigion a Sir Drefaldwyn.

Mae band eang cyflym iawn ar gael i 93% o eiddo yng Nghymru

Mae adroddiad Cysylltu’r Gwledydd heddiw hefyd yn dangos cynnydd o ran ymestyn gwasanaeth band eang teilwng i’r holl wlad.

Mae cyfran yr eiddo na all dderbyn band eang teilwng – yn cynnig cyflymder ‘llwytho i lawr’ o 10 Mbit yr eiliad a ‘chyflymder llwytho i fyny’ o 1 Mbit yr eiliad – wedi gostwng i 3%.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu nad yw 48,000 o gartrefi a swyddfeydd yng Nghymru yn derbyn band eang teilwng. Wrth i weithredwyr barhau i ymestyn rhwydweithiau, mae Ofcom yn gweithio i weithredu gwasanaeth cyffredinol band eang y Llywodraeth. Bydd yn rhoi i gartrefi a swyddfeydd cymwys yr hawl i wneud cais am fand eang teilwng erbyn 2020.2

Mae band eang cyflym iawn – sy’n cynnig cyflymder lwytho i lawr o 30 Mbit yr eiliad o leiaf – bellach ar gael i 93% o gartrefi a swyddfeydd yng Nghymru – i fyny o 89% y llynedd. Mae hyn yn dilyn cwblhau rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni, sydd wedi darparu band eang cyflym iawn i 733,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer camau nesaf cyflwyno'r cynllun yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru lle caniateir ymyriad cyhoeddus.

Fodd bynnag, o’r 93% o gartrefi a busnesau yng Nghymru lle mae band eang cyflym iawn ar gael, dim ond 38% o gartrefi a busnesau sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Dyma’r ganran isaf yng ngwledydd y DU (Gogledd Iwerddon 45%, Lloegr 44%, yr Alban 40%).

Mae gan oddeutu 95,000 eiddo yng Nghymru bellach fynediad at fand eang ‘ffibr llawn’3 – cynnydd o 51,000 eiddo mewn blwyddyn. Mae darpariaeth ffibr llawn i eiddo gwledig ar ei uchaf yng Nghymru o gymharu â gwledydd eraill y DU, gyda 16% o eiddo’n cael mynediad at y dechnoleg hon o gymharu â 8% yn ardaloedd gwledig Lloegr a Gogledd Iwerddon a 3% yn ardaloedd gwledig yr Alban.

NODIADAU I OLYGYDDION

Beth sy’n cyfrif fel darpariaeth symudol?

Mae Ofcom wedi codi’r safon o ran diffinio darpariaeth symudol yn y blynyddoedd diwethaf, i adlewyrchu gofynion ffonau clyfar modern. Yn adroddiad Cysylltu’r Gwledydd heddiw, ac wrth bennu ein gofynion darpariaeth arfaethedig, rydym yn diffinio ardal fel un sydd â darpariaeth symudol os:

  • y gellir gwneud mwy na 95% o alwadau llais 90 eiliad o hyd heb ymyrraeth; a
  • bod cyflymder cysylltu data o 2 Mbit yr eiliad o leiaf ar gael

1. Rhwydweithiau band eang sefydlog yng Nghymru a’r DU

Rhwydweithiau band eang sefydlog

Cymru

Y DU

Darpariaeth band eang sy’n gyflymach na:

  

>=2Mbit yr eiliad

99%

99.6%

>=10Mbit yr eiliad

97%

98%

Adeiladau nad ydynt yn gallu cael band eang teilwng

3%

2%

Darpariaeth band eang cyflym iawn (% yr adeiladau â >=30Mbit yr eiliad)

93%

94%

Darpariaeth band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig (% yr adeiladau)

77%

74%

Llinellau cyflym iawn sy’n darparu cyflymder cyflym iawn (% yr adeiladau - yn rhoi syniad o faint sy’n manteisio ar fand eang cyflym iawn)

38%

45%

Cyflymder cyfartalog band eang (llwytho i lawr)

39Mbit yr eiliad

49Mbit yr eiliad

Cyflymder cyfartalog band eang (llwytho i fyny)

6Mbit yr eiliad

7Mbit yr eiliad

2. Uchafbwyntiau'r ddarpariaeth symudol yng Nghymru

Rhwydweithiau symudol

Cymru

Y DU

Adeiladau - llais dan do (darpariaeth gan y pedwar darparwr)

88%

92%

Daearyddol - llais (darpariaeth gan y pedwar darparwr)

75%

78%

Adeiladau - 4G dan do (darpariaeth gan y pedwar darparwr)

69%

77%

Daearyddol - 4G (darpariaeth gan y pedwar darparwr)

57%

66%

Adeiladau - llais dan do (mannau cwbl ddigyswllt)

1%

0.2%

Daearyddol - llais (mannau cwbl ddigyswllt)

5%

5%

Adeiladau - 4G dan do (mannau cwbl ddigyswllt)

2%

1%

Daearyddol - 4G (mannau cwbl ddigyswllt)

10%

9%

3. Mae band eang ffibr llawn yn golygu defnyddio ceblau ffibr optig i gysylltu adeiladau â’r cabinet stryd lleol, gan ddisodli hen wifrau copr. Mae ffibr llawn yn ddibynadwy iawn a gall ddarparu cyflymder goruwch 1Gbit yr eiliad. Cymerodd Ofcom ystod o gamau i hyrwyddo buddsoddi mewn ffibr llawn, ac rydym yn disgwyl i’r ddarpariaeth gynyddu yn y misoedd i ddod.