Pam mae plant yn treulio amser ar-lein

29 Ionawr 2019

  • Mae ymchwil newydd yn esbonio sut mae YouTube yn manteisio ar ddiddordebau plant
  • Mae teledu ‘byw’ yn parhau’n bwysig ar gyfer amser teulu
  • Mae plant yn ei chael hi’n anoddach i reoli eu defnydd o’r sgrin - ond mae llawer yn dweud eu bod yn llwyddo i gael cydbwysedd

Mae’r amser y mae plant yn ei dreulio ar-lein wedi sefydlogi ar ychydig dros ddwy awr y diwrnod, wrth i astudiaeth newydd gan Ofcom ddarganfod y rhesymau pam y mae pobl ifanc yn cael eu denu at wasanaethau fideo fel Netflix a YouTube.

Mae plant yn y DU (rhwng 5 a 15 mlwydd oed)[1]  bellach yn treulio oddeutu 20 munud yn fwy ar-lein, mewn diwrnod arferol, nac y maent o flaen set deledu – ychydig dros ddwy awr ar-lein, ac ychydig dan ddwy awr yn gwylio’r teledu – yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom ar  eu defnydd o gyfryngau [2].

Er i’r amser a dreulir gan blant ar-lein beidio â chynyddu am y tro cyntaf yn 2018 – amcangyfrif o 2 awr ac 11 munud y diwrnod ar gyfartaledd, sef yr un faint â’r flwyddyn flaenorol – yr oedd cyfartaledd yr amser a dreulir yn gwylio’r teledu bob dydd wedi gostwng bron i 8 munud o un flwyddyn i’r llall, i amcangyfrif o 1 awr 52 munud.

YouTube yw’r prif gyrchfan ar-lein ymysg plant o hyd, gydag 80% wedi ei ddefnyddio. Mae bron i hanner (49%) o blant, a thraean (32%) o’r cyn oed ysgol sef 3-4 oed, bellach yn gwylio gwasanaethau tanysgrifio ar-alwad fel Netflix, Amazon Prime Video a Now TV.

Mae’n well gan hanner y ‘tweens’, sef rhai 8-11 oed a phlant hŷn wylio YouTube na rhaglenni teledu ar set deledu, ymysg y rhai sy’n gwneud y ddau beth. Er bod dros draean yn cael yr un mwynhad o’r naill brofiad a’r llall.

Hoff ddewis plant o ran gwylio rhaglenni ar y teledu o'i gymharu â fideos YouTube (2017/2018)

Bywyd ar y sgrin fach

I helpu deall pam fod plant yn cael eu denu at gynnwys ar-lein, eleni y mae Ofcom wedi cynnal astudiaeth ansoddol o arferion gwylio plant.

Cynigiodd panel o 40 o fechgyn a merched rhwng 4 a 16 oed ar draws y DU ddata manwl, dyddiaduron 7 diwrnod a chyfweliadau ynghylch beth yr oeddynt yn ei wylio a pham.  Datgelodd yr astudiaeth hoffterau pwerus o ran dewis, rheoli a theimlad o gymuned. Canfuwyd y canlynol:

  • YouTube sydd ar y brig, yn cael ei ddilyn gan Netflix. Yr oedd yn llawer gwell gan blant yn yr astudiaeth wylio YouTube (yr oedd bron yr holl blant yn ei wylio’n ddyddiol) a Netflix, nac unrhyw lwyfannau eraill [3].
  • Mae teledu byw yn cael ei arwain gan rieni, ac yn aml wedi’i neilltuo ar gyfer amser teulu Yr oedd y rhan fwyaf o’r plant yn yr astudiaeth yn gwylio teledu byw wedi’i amserlennu, er mai dim ond nifer fechan a oedd yn gwneud hynny bob dydd [4]. Yn aml yr oedd gwylio teledu byw yn cael ei drefnu gan rieni, gan alluogi'r teulu i ddod ynghyd i wylio operâu sebon, cwisiau neu raglenni yr oedd yn rhaid eu gwylio fel Strictly Come Dancing neu The X-Factor. Yr oedd rhai plant yn defnyddio teledu byw i lenwi’r amser, yn aml wrth wneud rhywbeth arall fel bwyta’u cinio.
  • Dewis a rheolaeth. Dywedodd llawer o’r plant eu bod yn gwerthfawrogi YouTube a Netflix am ddarparu rheolaeth unionsyth dros yr hyn y maent yn ei wylio, a mynediad at gynnwys diddiwedd, wedi’i bersonoli, fe ymddengys. Yr oedd plant yn gwerthfawrogi argymhellion y llwyfan o ran cynnwys ac yn rhoi gwerth ar dderbyn hysbysiadau gan y sianeli y maent wedi tanysgrifio iddynt. Yr oedd yn well gan rai ohonynt wylio cynnwys yn breifat, boed hynny ar eu dyfeisiau personol neu ar ben eu hunain yn eu hystafell wely.
  • Mae plant yn troi at YouTube ar gyfer tri pheth. Canfu’r astudiaeth fod y gwylio y mae plant yn ei wneud ar YouTube yn dod o fewn tri chategori eang [5]:
  1. Hobïau a diddordebau brwd. Yr oedd llawer o blant yn gwylio fideos yn ymwneud â’u diddordebau all-lein – fel sesiynau tiwtorial i hybu eu diddordeb brwd mewn cerddoriaeth neu bêl-droed. Yr oedd rhai yn cael yr un boddhad drwy wylio eraill yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol – fel celf a chrefft, neu gymryd rhan mewn chwaraeon – i’r graddau eu bod yn dweud nad oeddynt bellach yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn eu hunain yn y ‘byd go-iawn’.
  2. Flogwyr a chymuned. Yr oedd llawer o blant yn gwylio ‘flogwyr’ neu bobl ar YouTube, yn aml yn creu cysylltiad â nhw drwy rannu brwdfrydedd am weithgareddau fel chwaraeon neu grefftau, a mwynhau dod yn rhan o’r gymuned sy’n eu ‘dilyn’. Dywedodd llawer o blant eu bod yn ystyried eu hoff flogwyr fel modelau rôl, neu’n edrych arnynt fel ffrind a allai ddarparu cymorth neu gyngor. Yr oedd y math hwn o gynnwys hefyd yn apelio at chwilfrydedd naturiol plant ynghylch bywydau ‘normal’ pobl eraill; roeddent yn teimlo fod gan y fideos ddilysrwydd a oedd yn eu gwneud yn hawdd teimlo cysylltiad â nhw.
  3. Fideos synhwyraidd. Roedd llawer o blant yn mwynhau fideos a oedd yn cynnwys synau a oedd yn ‘bodloni’ – fel sŵn pobl eraill yn gwneud ac yn chwarae gyda llysnafedd, neu’n agor anrhegion. Mae fideos o’r fath yn cael eu disgrifio fel ‘Ymateb Meridian Synhwyraidd Awtonomaidd’ – oherwydd eu gallu i gynhyrchu teimlad o les ac ymlacio ymysg rhai pobl.

Yn ôl Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil at Ofcom: “Mae plant wedi dweud wrthym yn eu geiriau eu hunain pam eu bod yn rhoi mwy o sylw i gynnwys ar-lein. Gall y sylwadau hyn helpu i hysbysu rhieni a llunwyr polisïau wrth iddynt ystyried rôl y rhyngrwyd ym mywyd eu plant.

“Mae’r ymchwil hon hefyd yn tynnu sylw at yr her i ddarlledwyr y DU o ran cystadlu am sylw plant. Ond mae’n amlwg fod plant heddiw yn dal i werthfawrogi rhaglenni teledu gwreiddiol sy’n adlewyrchu eu bywydau a’r munudau hynny o deledu oriau brig sy’n parhau’n rhan annatod o fywyd teuluol.

Rheoli amser ar y sgrin

Mae ymchwil genedlaethol, feintiol hefyd wedi canfod fod plant hŷn yn ei chael yn anoddach i reoli’r amser a dreuliant ar y sgrin, nac yr oeddent y llynedd.

Yr oedd cyfran y rhai rhwng 12 a 15 oed a oedd yn cytuno eu bod yn ei chael yn anodd cymedroli eu hamser ar y sgrin wedi cynyddu i draean (35%), i fyny o chwarter (27%) y flwyddyn flaenorol. Yr oedd saith o bob deg o blant hŷn (71%) yn cael caniatâd i fynd â’u ffôn symudol i’r gwely.

Ond er gwaethaf yr heriau hyn, yr oedd oddeutu dwy ran o dair o rai rhwng 12 a 15 oed (63%)  yn ystyried eu bod, yn y pen draw yn ‘cael cydbwysedd da rhwng amser ar y sgrin a gwneud pethau eraill’.

DIWEDD

Ymchwil feintiol: Adroddiad Ofcom ar Agweddau Plant a’u Defnydd o Gyfryngau 2018 - yn seiliedig ar oddeutu 2,000 o gyfweliadau gyda phlant a rhieni ar hyd a lled y wlad. Data 2018 wedi’i gasglu o 1,430 o gyfweliadau gyda rhieni plant rhwng  5 a 15 oed a phlant rhwng 8 a 15 oed, ynghyd â 630 o gyfweliadau gyda rhieni plant 3-4 mlwydd oed.

Ymchwil ansoddol: Revealing Reality: Life on the small screen: what children are watching and why.” - bu 40 o blant a phobl ifanc rhwng 4 a 16 mlwydd oed yn cymryd rhan yn ystod gaeaf 2018. Yr oedd yr ymatebwyr yn dod o ystod o leoliadau ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Llenwodd pob plentyn ddyddiadur cyfryngau dros saith diwrnod. Yn ogystal, casglwyd data gwrthrychol, yn cynnwys ‘hanesion gwylio’ ac ystadegau ar ddefnyddio apiau o ddyfeisiau. Yn olaf, treuliodd ymchwilwyr amser ym mhob cartref yn cynnal cyfweliadau.

  1. Oni nodir fel arall, mae’r data a nodir yng nghyswllt ‘plant’ yn ymwneud â phobl ifanc rhwng 5 a 15 mlwydd oed.
  2. Wrth gymharu ar draws cyfryngau gwahanol, fel yn yr achos hwn, mae’n werth cofio y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr amcangyfrifon hyn a bod rhai o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflawni yr un pryd. Bydd gwylio’r teledu ar set deledu yn cynnwys gwylio darllediadau byw ar y teledu yn ogystal â gwasanaethau ar-alw neu wasanaethau y tanysgrifir iddynt fel Netflix neu Amazon Prime. Gallai mynd ar-lein gynnwys chwarae gemau ar-lein, mynd ar y cyfryngau cymdeithasol neu wylio fideos ar-lein.
  3. O’r 40 o blant yn yr astudiaeth, yr oedd 37 a 16 yn gwylio YouTube a Netflix bob dydd, yn y drefn honno.
  4. O’r 40 o blant yn yr astudiaeth, yr oedd 35 yn gwylio teledu byw a 10 yn gwylio bob dydd.
  5. Mae data meintiol Ofcom hefyd yn dangos fod mathau penodol o gynnwys ar YouTube wedi cynyddu o ran poblogrwydd ymysg pobl ifanc 5-15 oed ers 2017: Sesiynau tiwtorial ‘sut mae gwneud’ ynghylch diddordebau neu chwaraeon (rhwng 40% a 45% bellach yn gwylio’r math yma o gynnwys), fideos yn cynnwys personoliaethau sy’n flogio (rhwng 32% a 41%) a fideos ‘tynnu allan o’r bocs’ lle y caiff teganau eu dad-lapio neu eu rhoi at ei gilydd (rhwng 21% a 25%).
  6. Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Ofcom ddiweddariad ar ein hadolygiad o gynnwys plant.  Canfuwyd diffyg rhaglenni gwreiddiol, o ansawdd uchel wedi’u gwneud yn benodol ar gyfer plant hŷn, ystod gyfyngedig o raglenni a oedd yn helpu plant i ddeall y byd o’u cwmpas ac yn eu galluogi i weld eu hunain a’u bywydau yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin. Rydym wedi gofyn i'r Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol - Channel 4, Channel 5 ac ITV - ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’r pryderon hyn erbyn Gwanwyn 2019.  Rydym yn disgwyl i’r cynlluniau hyn ddangos sut y byddant yn cyrraedd plant ar draws yr ystod lawn o wasanaethau a llwyfannau, a byddant yn gwneud defnydd o’r rhyngrwyd i roi ystyriaeth i’r newidiadau o ran arferion gwylio a hoffterau cynulleidfaoedd iau.
  7. Dyfyniadau gan rai o’r plant a gymerodd ran yn yr astudiaeth ansoddol: