Rhwyd ddiogelwch band eang newydd bron â chyrraedd

06 Mehefin 2019

  • Ofcom yn penodi BT a KCOM i ddarparu ‘gwasanaeth band eang cyffredinol’ y DU o fis Mawrth ymlaen
  • Bydd cartrefi a busnesau’n cael hawl gyfreithiol i ofyn am gysylltiadau teilwng

Bydd gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy o fis Mawrth y flwyddyn nesaf ymlaen, mae Ofcom wedi cadarnhau.

Rydym yn rhoi ‘gwasanaeth band eang cyffredinol’ Llywodraeth y DU ar waith – rhwyd ddiogelwch a fydd yn rhoi hawl gyfreithiol i gartrefi a busnesau cymwys ofyn am gysylltiad teilwng.

Drwy ddeddfwriaeth a gyflwynwyd y llynedd, bydd yr aelwydydd hynny’n gallu gofyn am fand eang gwell sy’n gallu darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad o leiaf. Bydd y cyflymder yn cael ei adolygu dros amser, wrth i faint o ddata mae pobl yn ei ddefnyddio newid.1]

Ar hyn o bryd, byddai 620,000 o gartrefi a swyddfeydd, neu 2%, yn elwa o’r cynllun newydd, er bod y nifer hwn yn disgwyl wrth i rwydweithiau band eang gael eu huwchraddio. Mae'r cartrefi hyn yn ymysg y rhai mwyaf anghysbell yn y DU, neu’n bell i ffwrdd o rwydweithiau band eang presennol, sy'n golygu ei bod hi’n anodd iddyn nhw gael gwasanaeth band eang teilwng ar hyn o bryd.

BT a KCOM fydd yn darparu'r gwasanaeth cyffredinol

Rydym wedi penderfynu mai BT a KCOM sydd yn y sefyllfa orau i ateb heriau darparu cysylltiadau gwasanaeth cyffredinol. Felly, bydd BT yn gyfrifol am gysylltu eiddo yn y DU gyfan ar wahân i ardal Hull, a KCOM fydd y darparwr dynodedig yn yr ardal honno.

Mae BT a KCOM wedi cael tan 20 Mawrth flwyddyn nesaf i wneud y paratoadau angenrheidiol, gan gynnwys newidiadau i’w systemau a’u prosesau er mwyn dechrau creu’r cysylltiadau hyn. O’r dyddiad hwnnw ymlaen bydd pobl yn cael dechrau gwneud ceisiadau.

Sut bydd y cynllun yn gweithio

Pan fydd rhywun yn cyflwyno cais, bydd gan BT neu KCOM 30 diwrnod i gadarnhau a ydy'r cwsmer yn gymwys ai peidio. Bydd hyn yn golygu pennu a oes gan yr eiddo fynediad yn barod at fand eang teilwng, am bris fforddiadwy[2]; neu os yw ar fin cael ei gysylltu drwy gynllun sy’n cael arian cyhoeddus cyn pen 12 mis.

Ar ôl cadarnhau hynny, bydd yn rhaid i BT neu KCOM ddarparu’r cysylltiad cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym wedi gosod targedau llym o ran faint o amser maen nhw'n gallu ei gymryd.[3]

O dan ddeddfwriaeth ar gyfer y gwasanaeth newydd, bydd hyd at £3,400 o gostau darparu'r cysylltiadau i gartrefi cymwys yn cael ei dalu.

Os bydd y gwaith angenrheidiol yn costio mwy na hynny, gall cwsmeriaid naill ai dalu’r costau ychwanegol neu ofyn am ateb gwahanol y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol, fel band eang lloeren.

Bydd cwsmeriaid sy’n cael eu cysylltu drwy'r gwasanaeth cyffredinol newydd yn talu’r un prisiau ac yn cael gwasanaeth o’r un ansawdd â chwsmeriaid band eang eraill sy'n cael cysylltiad cyfatebol.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Wrth i fwy a mwy o’n bywydau symud ar-lein, mae hi’n hollbwysig ein bod yn rhoi band eang gwell i bobl ac i fusnesau. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y rhwyd ddiogelwch band eang newydd yma yn rhoi’r hawl gyfreithiol i bawb ofyn am gysylltiad teilwng – os ydych chi'n byw mewn dinas neu yng nghefn gwlad. Bydd hyn yn hollbwysig i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cael y band eang sydd ei angen arnynt.”

Mae Llywodraeth y DU eisiau i’r gwasanaeth cyffredinol gael ei ariannu gan y diwydiant i gyd. Felly, yn yr hydref, byddwn yn ymgynghori ynghylch pa gwmnïau eraill fyddai’n cyfrannu at gronfa, ac ar ba gyfran, er mwyn talu am unrhyw gostau na fyddai’n briodol i BT neu KCOM dalu amdanynt.

Bydd miloedd o gartrefi yn elwa

Mae darpariaeth band eang yn gwella drwy'r amser. Mae tua 95% o gartrefi a busnesau bach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, sy'n cynnig cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf. Mae dros hanner yn gallu cael cyflymder gwibgyswllt (300 Mbit yr eiliad o leiaf).[4] Fodd bynnag, mae angen y rhwyd ddiogelwch ar gyfer y 2% o gartrefi a swyddfeydd nad ydynt yn gallu cael band eang teilwng.

Better broadband and mobile – wherever you areDarpariaeth band eang a symudol gwell – lle bynnag fyddwch chi

Mae gweithredu'r gwasanaeth band eang cyffredinol yn rhan o raglen waith Ofcom i helpu pawb yn y DU i elwa o wasanaethau band eang a ffonau symudol gwell.

Mae’r gwaith yma hefyd yn cynnwys:

  • cefnogi buddsoddiad tymor hir mewn rhwydweithiau ffeibr drwy agor mynediad i bolion telegraff a phibellau tanddaearol BT, sy’n ei gwneud hi’n rhatach, yn gyflymach ac yn haws i’w gystadleuwyr adeiladu eu rhwydweithiau eu hunain;
  • cymell BT i greu rhwydweithiau ffeibr mewn ardaloedd gwledig, lle nad oes siawns y bydd rhwydweithiau’n cystadlu a lle mae achos masnachol gwannach dros fuddsoddi mewn ffeibr;
  • mesurau newydd arfaethedig i helpu i roi hwb i ddarpariaeth symudol mewn ardaloedd gwledig; a
  • mae ein gwiriwr darpariaeth symudol yn caniatáu i bobl weld yn gyflym pa ddarpariaeth sydd ar gael, gan pa ddarparwyr, yn eu hardal.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn ei deddfwriaeth – Deddf yr Economi Ddigidol 2017 – y dylid adolygu’r diffiniad o fand eang teilwng pan fydd o leiaf 75% o eiddo yn y DU yn tanysgrifio i wasanaeth band eang sy'n darparu cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf.

2. Os bydd yr unig wasanaeth sydd ar gael sy’n gallu darparu’r cyflymder angenrheidiol yn costio mwy na £45 y mis, bydd gan bobl hawl i ofyn am gysylltiad USO.

3. Mae'n rhaid i BT ddarparu pob cysylltiad USO cyn gynted â phosibl a darparu 80% ohonynt o fewn 12 mis, 95% ohonynt o fewn 18 mis, a 99% ohonynt o fewn 24 mis o dderbyn archeb USO wedi'i chadarnhau. Mae'n rhaid i KCOM ddarparu'r cysylltiad USO cyn gynted â phosibl, ac o fewn 12 mis fan bellaf ar ôl i rywun wneud archeb, oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn gwneud hynny'n anoddach.

4. Ffynhonnell: Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd Ofcom: gwanwyn 2019.