Cefnogi buddsoddi mewn ffibr: mynediad digyfyngiad at bibellau a pholion, a’r BCMR

02 Tachwedd 2018

Bydd gan gwmnïau sy’n gosod ceblau ffibr cyflymder uchel a ddefnyddir gan fusnesau mawr, gweithredwyr symudol a darparwyr band eang well mynediad at bibellau a pholion Openreach, o dan gynigion sy’n cael eu datgan heddiw gan Ofcom.

Cyhoeddir y cynlluniau ochr yn ochr ag ymgynghoriad ar Adolygiad Ofcom o'r Farchnad Cysylltedd Busnes, sy’n edrych ar y gystadleuaeth am ‘linellau a brydlesir’ penodol, cyflymder uchel.

Mynediad digyfyngiad at bibellau a pholion Openreach

Fis Gorffennaf 2018, aethom ati i ddatgan cynlluniau tymor hir i gefnogi buddsoddi mewn rhwydweithiau ffibr. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno mynediad digyfyngiad i bibellau tanddaearol a pholion telegraff Openreach y flwyddyn nesaf.

O dan reolau Ofcom, mae’n ofynnol i Openreach, sy’n cynnal prif rwydwaith band eang y DU, adael i ddarparwyr eraill ddefnyddio ei bolion telegraff a’i bibellau tanddaearol i osod eu ceblau ffibr eu hunain. Mae’r mesur hwn yn gallu lleihau’r costau dechreuol sy’n gysylltiedig ag adeiladu rhwydweithiau ffibr llawn i fod tua hanner y gost, ond ar hyn o bryd mae wedi’i gyfyngu i gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau band eang preswyl yn bennaf.

Rydym eisiau rhoi mwy o hyblygrwydd i gwmnïau i osod rhwydweithiau ffibr sy’n gwasanaethu cwsmeriaid preswyl neu fusnes. Felly heddiw rydym yn ymgynghori ar gynigion i ganiatáu mynediad at bibellau a pholion Openreach i gwmnïau sy’n cynnig unrhyw fath o wasanaethau telathrebu, gan gynnwys llinellau cyflymder uchel i fusnesau mawr, rhwydweithiau sy’n cludo data i weithredwyr symudol a llinellau capasiti uchel sy’n cefnogi gwasanaethau band eang. Rydym yn bwriadu gweithredu’r mynediad digyfyngiad hwn at bibellau o wanwyn 2019 ymlaen.

Adolygiad o'r Farchnad Cysylltedd Busnes

Mae’r BCMR yn edrych ar ‘linellau a brydlesir’ – cysylltiadau data pwynt i bwynt cyflymder uchel ac o ansawdd uchel y mae darparwyr telathrebu’n eu defnyddio ar gyfer cysylltu swyddfeydd, gorsafoedd lleoliadau symudol a rhwydweithiau mynediad band eang. Mae’r llinellau hyn hefyd yn darparu cysylltiadau capasiti uchel hollbwysig i ysbytai, ysgolion a llyfrgelloedd. Mae ein rheoleiddio presennol yn y farchnad hon yn dod i ben ym mis Mawrth 2019; felly rydym yn ei adnewyddu cyn symud at reoleiddio'r marchnadoedd preswyl a busnes drwy adolygiad sengl o 2021 ymlaen.

Mewn ardaloedd daearyddol lle nad oes llawer o gystadleuaeth, rydym yn cynnig heddiw cynnal y mesurau rheoli prisiau ar gyfer BT, gan gadw prisiau’n wastad a hefyd gorfodi safonau ansawdd gwasanaeth llym. Os oes mwy o gystadleuaeth, neu ddarpar gystadleuaeth, rydym yn cynnig rheoleiddio ysgafnach na'r rheolau presennol, er mwyn i hyn ffynnu.

Mewn rhai ardaloedd, hyd yn oed gyda mynediad at bibellau a pholion, nid yw’n debygol y bydd cystadleuaeth effeithiol yn y dyfodol rhagweladwy. Felly, ar gyfer cysylltiadau o gyfnewidfeydd lle nad yw BT yn wynebu unrhyw gystadleuaeth gan weithredwyr eraill, rydym yn cynnig bod rhaid i BT roi i gystadleuwyr fynediad ffisegol at ei geblau ffibr optig, gan ganiatáu iddynt reoli'r cysylltiad yn uniongyrchol. Cyfeirir at y gwasanaeth hwn yn aml fel ‘ffibr tywyll’ oherwydd ni fyddai'r ceblau’n cael eu ‘goleuo’ gan ddefnyddio offer electronig BT. Yn hytrach, byddent yn cael eu ‘goleuo’ wrth i’r cystadleuydd osod ei offer ei hun y naill ben neu'r llall i’r ffibr optegol. Rydym yn cynnig y dylai BT ddarparu’r mynediad ffibr tywyll hwn am bris sy’n adlewyrchu ei gostau.

Y camau nesaf

Bydd y ddau ymgynghoriad heddiw’n cau ar 18 Ionawr 2019 ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ein casgliadau terfynol yng ngwanwyn 2019.

Hefyd byddwn yn ymgynghori’n fuan ynghylch sut dylem ddiffinio ardaloedd daearyddol fel naill ai rhai cystadleuol, cystadleuol o bosib neu anghystadleuol yn ein hadolygiad marchnadoedd preswyl a busnes sengl, cyflawn yn 2021.

DIWEDD