Gallai hanner yr holl gartrefi gyflymu eu band eang

14 Rhagfyr 2018

  • Gallai miliynau gael rhyngrwyd cyflymach heddiw heb dalu mwy. Dyna mae ymchwil yn ei ddatgelu.
  • Rhaid i ddarparwyr ddweud wrth gwsmeriaid am eu bargen orau, dan reolau newydd arfaethedig
  • Hefyd, mae Ofcom yn datgan y bydd yn adolygu prisiau band eang i gwsmeriaid ffyddlon
  • Ac mae ymgyrch yn cael ei lansio i’ch helpu chi i gael y Gorau o’ch Gwesanaeth

Gallai hanner yr holl gartrefi ym Mhrydain symud i fand eang cyflymach heddiw, meddai Ofcom wrth iddo ddatgan cyfres o gamau i ddiogelu cwsmeriaid band eang ffyddlon a helpu pobl i gael bargen well.

Yn ôl ffigyrau Ofcom, mae 94% o gartrefi a swyddfeydd yn y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn hyn ond llai na hanner sydd wedi manteisio arno.

Ac mae llawer mwy o bobl yn talu mwy nag sydd ei angen. Mae tua phedair miliwn o gartrefi sydd â band eang sylfaenol hen ffasiwn wedi mynd heibio i gyfnod eu contract cychwynnol, a gallen nhw symud i fand eang cyflym iawn am yr un faint - neu lai - o arian na’r hyn maent yn ei dalu ar hyn o bryd.

Felly, mae Ofcom yn datgan cyfres o fesurau heddiw i helpu pobl i gael y fargen orau.

  1. Gwybodaeth fwy clir. Rydyn ni'n cynnig y bydd rhaid i gwmnïau band eang – yn ogystal â darparwyr ffonau symudol a theledu drwy dalu – roi gwybod i'w cwsmeriaid o'r flwyddyn nesaf ymlaen am y bargeinion gorau sydd ganddynt, a hynny pan mae eu bargeinion yn dod i ben a phob blwyddyn wedi hynny.
  2. Prisiau teg. Rydyn ni’n lansio adolygiad o arferion prisio'r cwmnïau band eang – i weld pam mae rhai cwsmeriaid yn talu mwy nag eraill, ac i weld a oes angen mwy o fesurau diogelu ar gwsmeriaid bregus er mwyn sicrhau eu bod yn cael bargen dda.
  3. Ymgyrch defnyddwyr. Mae ymgyrch a gwefan bwysig newydd, o'r enw Y Gorau o’ch Gwesanaeth, yn cael ei lansio heddiw. Mae'r wefan yn cael ei chefnogi gan Gloria Hunniford OBE, sy’n frwd dros hawliau defnyddwyr. Mae’r wefan yn defnyddio data Ofcom i ddweud wrth bobl pa fand eang sydd ar gael yn eu hardal, ac mae’n cynnig cyngor diduedd ar ddod o hyd i'r fargen orau heddiw.

Mae’r farchnad band eang yn un gystadleuol iawn, ac mae pecynnau band eang cyflym iawn ar gael am ryw £20 y mis. Ond er bod wyth o bob deg o ddefnyddwyr band eang yn hapus gyda’r gwasanaeth maen nhw’n ei gael, mae Ofcom eisiau sicrhau bod y farchnad yn gweithio i bawb.

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: Rydyn ni'n bryderus nad yw llawer o gwsmeriaid band eang ffyddlon yn cael y fargen orau bosibl.

“Felly, rydyn ni'n adolygu arferion prisio band eang ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir a chywir gan eu darparwr am y bargeinion orau sydd ganddynt.”

Rhoi gwybod i gwsmeriaid am y fargen orau

Dan reolau newydd a gynigir gan Ofcom heddiw , rhaid i gwmnïau band eang – yn ogystal â darparwyr ffonau symudol a theledu drwy dalu – roi gwybod am y fargen neu'r “tariff” gorau sydd ganddynt. Rhaid iddynt wneud hynny pan fydd unrhyw fargen ddisgownt sydd gan gwsmeriaid yn dod i ben, a hefyd bob blwyddyn i gwsmeriaid sydd wedi aros efo nhw ers tro.

Mae’r mesurau’n dilyn cynigion a gyhoeddwyd gan Ofcom ym mis Gorffennaf, a byddant yn gymorth i roi’r wybodaeth angenrheidiol i gwsmeriaid allu arbed arian, gan gynnwys chwilio am fargeinion a newid eu darparwr.

Prisiau teg i gwsmeriaid ffyddlon

Yn ogystal â’r hysbysiadau newydd i gwsmeriaid, mae Ofcom wedi dechrau ar adolygiad manwl heddiw ar arferion prisio yn y farchnad band eang.

Rydyn ni'n bryderus fod rhai cwsmeriaid yn talu mwy na rhai eraill am wasanaethau tebyg, a bod rhai gwasanaethau hyd yn oed yn waeth weithiau, yn enwedig pan fo'r cynigion cychwynnol wedi dod i ben. Er enghraifft, rydyn ni'n amcangyfrif fod cwsmeriaid sy’n cael gwasanaeth llinell sefydlog a band eang gyda’i gilydd yn talu 19% yn fwy ar gyfartaledd ar ôl i'r fargen ddisgownt ddod i ben.

Felly, bydd ein hadolygiad yn edrych sut mae cwmnïau’n newid prisiau i gwsmeriaid dros amser, ac ar bwy mae hyn yn effeithio fwyaf. Os byddwn ni'n gweld tystiolaeth o niwed, byddwn ni'n gweithredu i ddiogelu defnyddwyr – yn enwedig rhai a allai gael trafferth cymryd rhan yn y farchnad.

Hefyd, rydyn ni wrthi'n adolygu’r ffordd mae gweithredwyr ffonau symudol yn codi tâl ar eu cwsmeriaid am y ffonau eu hunain pan fydd y rhain yn cael eu bwndelu ag amser ar yr awyr mewn un contract, ac rydyn ni'n disgwyl cyhoeddi’r canfyddiadau y flwyddyn nesaf.

Annog cwsmeriaid i gael y Gorau o’ch Gwesanaeth

I gloi, i helpu pobl i gael y fargen orau ar gyfer band eang heddiw, mae Ofcom wedi lansio’r ymgyrch a’r wefan Gorau o’ch Gwesanaeth, sy’n cael eu cefnogi gan Gloria Hunniford OBE,  Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Y Llywodraeth Brydeinig, (DCMS), Yr Adran Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), a’r corff, Which? sy’n frwd dros hawliau defnyddwyr. Nod yr ymgyrch yw taflu goleuni ar y farchnad band eang, yn enwedig i bobl a allai gael eu dychryn gan y dewis sydd ar gael.

Drwy ddilyn tri cham yn BoostYourBroadband.com/cymru gall defnyddwyr band eang weld beth yw’r dewis, penderfynu beth sydd ei angen arnynt a chael cyngor clir ac annibynnol ar sicrhau'r fargen band eang orau iddynt eu hunain. Dyma sut mae’n gweithio:

  1. Rhowch eich cod post i weld pa fath o fand eang – ai safonol, cyflym iawn ynteu wibgyswllt – sydd ar gael ar gyfer eich cartref chi. Mae’r gwirydd yn defnyddio’r wybodaeth awdurdodol a diweddaraf sydd gan Ofcom.
  2. Penderfynwch beth fydd ei angen – drwy weld pa fath o ddefnyddiwr band eang ydych chi.
  3. Siaradwch gyda'ch darparwr – pan fyddwch chi’n gwybod beth i ofyn amdano a sut i gael y fargen orau. Neu ymchwiliwch i weld pa fargeinion mae darparwyr eraill yn eu cynnig.

Dywedodd Gloria Hunniford, OBE: “Gallai miliynau o bobl gyflymu eu band eang cyn Nadolig, pan mae llawer o bobl eisiau gwneud defnydd mawr o’r rhyngrwyd. Felly rwy’n annog pobl i ymweld â’r wefan newydd, sy’n cynnig cyngor annibynnol ynghylch sut i gael y fargen orau ac o bosib, gwasanaeth cyflymach gan eich darparwr band eang, gydag un alwad ffôn yn unig.”

Dywedodd Gweinidog Digidol y Llywodraeth Brydeinig, Margot James: “Mae ein darpariaeth band eang cyflym iawn yn cyrraedd miloedd yn ragor o gartrefi a busnesau yn wytnosol a gall miliynau o bobl ar draws y DU fwynhau y buddion amlwg mae band eang cyflym iawn yn ei gynnig. Mae hwn yn gam positif y gellid ei groesawu gan Ofcom ac rwy’n annog pobl i ymweld â’r wefan, gwirio pa wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal leol ac yna gweld os ydyn nhw gallu cael bargen well."

Dywedodd Gweinidog Defnyddwyr y Llywodraeth Brydeinig, Kelly Tolhurst: “Mae ein cyfundrefn amddiffyn defnyddwyr yn un o’r cryfaf yn y byd, ond mae yna mwy i’w wneud bob amser i sicrhau bod pobl yn deall eu hawliau. Felly rwy’n croesawu ymgyrch Ofcom, Y Gorau o’ch Gwesanaeth, i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r bargeinion gorau.

“Mae band eang yn wasanaeth hanfodol ac rydyn ni eisiau gweld pobl yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel, heb dalu mwy na beth sydd angen iddynt.”

Dywedodd Alex Neill, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynnyrch a Gwasanaethau’r Cartref, Which?: “Mae ein hymchwil wedi dangos bod nifer o gartrefi yn y DU yn talu taliadau premiwm ffyddlondeb mawr am aros ar yr un tariff pan gallen nhw dalu llai am wasanaeth rhyngrwyd sy’n gynt. Felly rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Ofcom i helpu’r genedl i gynyddu ei fand eang.

“Os ydych chi’n anhapus gyda’ch gwasanaeth rhyngrwyd, neu’n meddwl eich bod yn talu gormod, gallwch chi newid darparwr neu roi cynnig ar ofyn am fargen well. Gallai ychydig funudau o’ch amser, o bosib, arbed cannoedd o bunnoedd i chi yn flynyddol.”

Y camau nesaf

Rydyn ni’n ymgynghori tan 1 Chwefror ynghylch ein cynlluniau diwygiedig ar gyfer hysbysiadau i ddefnyddwyr. Yna, rydyn ni’n disgwyl cyhoeddi penderfyniad terfynol cyn gynted â phosibl, gyda rheolau newydd yn dod i rym yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf. Byddwn ni hefyd yn nodi'r canfyddiadau o’n hadolygiad o brisiau yn 2019.

Mae’r mesurau heddiw yn dilyn gwaith Ofcom yn ddiweddar i sicrhau bargen well i gwsmeriaid telegyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys iawndal awtomatig pan fydd pethau'n mynd o chwith; gwybodaeth gywir ar gyflymderau band eang pan fydd pobl yn chwilio am fargeinion neu’n trefnu contract; a phroses syml o negeseuon testun i’w gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid ffonau symudol newid darparwr.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae band eang cyflym iawn yn cynnig cyflymder lawrlwytho sydd o leiaf 30 Mbit yr eiliad ac mae gwibgyswllt yn cynnig cyflymderau sydd o leiaf 300 Mbit yr eiliad.