23 May 2012
Cyhoeddodd Ofcom gyngor heddiw ar ddewisiadau ar gyfer dyfodol y trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus teledu sy’n cael eu dal gan ITV, STV, UTV a Channel 5.
Bydd trwyddedau presennol Sianel 3 (ITV, STV ac UTV) a Channel 5, sy'n cyfrannu at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, yn dod i ben ddiwedd 2014. Er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod trwyddedu nesaf, mae gan Ofcom ddyletswydd i ddarparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol am y trwyddedau erbyn mis Mehefin 2012.
Mae adroddiad Ofcom yn ystyried a fydd y rheini sy’n dal y trwyddedau ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu, am gost sy’n gynaliadwy yn fasnachol, at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y 10 mlynedd o 2015 ymlaen.
Sicrhau manteision i wylwyr
Mae’r rheini sy’n dal y trwyddedau’n darparu rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus, fel newyddion a rhaglenni materion cyfoes, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan wylwyr. Yn gyfnewid am hynny, maent yn cael manteision fel yr hawl i gael amlygrwydd priodol ar restri rhaglenni teledu a mynediad at sbectrwm i ddarlledu ar deledu daearol digidol (Freeview).
Yn yr adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol, mae Ofcom wedi amlinellu tri dewis ymarferol ar gyfer y trwyddedau ac mae o'r farn y byddai pob un ohonynt yn gallu sicrhau manteision i wylwyr teledu. Sef:
1. Adnewyddu’r trwyddedau presennol
Mae’r rheini sy’n dal y trwyddedau wedi dweud wrth Ofcom, yn gyffredinol, y gallai eu dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus presennol fod yn gynaliadwy yng nghyfnod y drwydded nesaf*. Mae dadansoddiad Ofcom yn dangos y gallai’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Channel 5 barhau i wneud cyfraniad digonol at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ôl 2015. Mae hyn yn cynnwys posibilrwydd sefydlu trwydded annibynnol ar wahân ar gyfer Sianel 3 yng Nghymru. Rydym hefyd yn awgrymu y gallai newidiadau i’r gwasanaeth Sianel 3 ar gyfer gwylwyr yn ne’r Alban fod yn briodol i sicrhau bod rhaglenni newyddion yr Alban yn cael eu darparu yn yr ardal honno.
2. Cynnal arwerthiant o’r trwyddedau newydd
Byddai cynnal arwerthiant o’r trwyddedau yn agor proses gystadleuol ar gyfer y trwyddedu. Gallai hefyd brofi a fyddai’r rheini a allai wneud cynnig – gan gynnwys y rheini sy’n dal y trwyddedau ar hyn o bryd – ystyried dulliau gweithredu ffres yng nghyswllt darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
3. Ymestyn y trwyddedau presennol
Byddai ymestyn y trwyddedau presennol am gyfnod byrrach yn gallu caniatáu cynnal adolygiad llawn o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus fel rhan o Fesur Cyfathrebiadau yn y dyfodol. Gallai hefyd roi cyfle i’r Senedd ystyried sut gellid darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus mewn byd sy’n newid yn sgil twf cyfryngau digidol.
Mae Ofcom o’r farn bod y tri dewis yn ymarferol. Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd nawr yn penderfynu.
Mae’r adroddiad ar gael yma.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. * Mae Adran 4 yr adroddiad yn cynnwys cynigion y rheini sy’n dal y trwyddedau. Roedd y rheini sy’n dal y trwyddedau wedi cyflwyno eu safbwyntiau ynghylch eu gallu i gyflawni gofynion gwasanaeth cyhoeddus drwy ymateb i lythyr agored gan Ofcom ym mis Medi 2011, a oedd yn gwahodd safbwyntiau gan y rheini sy’n dal y trwyddedau a phartïon sydd â diddordeb.
2. O dan adran 229 Deddf Cyfathrebiadau (2003), mae’n rhaid i Ofcom baratoi adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol am effaith amodau’r drwydded a threfniadau eraill am allu’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Channel 5 i “gyfrannu, yn y cyfnod trwyddedu nesaf, at gyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig am gost sy’n gynaliadwy’n fasnachol i’r rheini sy’n dal y trwyddedau”.