20 February 2014
Heddiw, cyhoeddodd Ofcom ei fod wedi adnewyddu trwyddedau darlledu Sianel 3 (ITV, STV ac UTV) a Channel 5 am 10 mlynedd o 1 Ionawr 2015 ymlaen, ar ôl i’r rheiny sy'n dal trwyddedau dderbyn telerau.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad Maria Miller, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ym mis Tachwedd 2012, a oedd yn galluogi adnewyddu’r trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus hyn.
Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd Ofcom y byddai’n adnewyddu’r trwyddedau a nododd y telerau ar gyfer adnewyddu, ac mae’r holl ddeiliaid trwyddedau wedi derbyn y rhain erbyn hyn.
Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae adnewyddu trwyddedau Sianel 3 a Channel 5 yn gam pwysig o ran sicrhau diogel cynaliadwy ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn y DU yn y degawd nesaf."
Telerau trwyddedau Sianel 3 a Channel 5:
Mae ITV yn darparu gwasanaeth Sianel 3 yng Nghymru, Lloegr, rhanbarth Border, Ynysoedd y Sianel a'r gwasanaeth brecwast cenedlaethol; mae STV yn gwasanaethu gogledd a chanolbarth yr Alban ac mae UTV yn gwasanaethu gwylwyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae trwydded Channel 5 yn berthnasol i’r DU i gyd.
Ym mis Chwefror 2013, ymgynghorodd Ofcom ynghylch dyletswyddau rhaglennu trwyddedau Sianel 3 a Channel 5, cynigion ynghylch newid yr ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu gan y ddwy drwydded a ddelir gan ITV, a'r fethodoleg ar gyfer pennu telerau ariannol y trwyddedau. Cyhoeddodd Ofcom ddatganiadau ym mis Gorffennaf 2013.
Mae gwybodaeth am y trwyddedau a dyletswyddau rhaglennu a gwybodaeth arall ar gael ar wefan Ofcom.