21 February 2013
Heddiw mae Ofcom yn gwahodd safbwyntiau am gynigion ynghylch trwyddedau darlledu teledu ITV, STV, UTV a Sianel 5.
Mae hyn yn dilyn y penderfyniad gan Maria Miller, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n galluogi adnewyddu’r trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus presennol ar gyfer gwasanaethau Sianel 3 (ITV, STV ac UTV) a Sianel 5.
Mae ITV yn darparu’r gwasanaeth Sianel 3 yng Nghymru, Lloegr a rhannau o’r Alban, mae STV yn gwasanaethu gogledd a chanol yr Alban ac mae UTV yn gwasanaethu gwylwyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae trwydded Sianel 5 yn berthnasol i’r DU i gyd.
Mae Ofcom nawr yn gweithio i gyflwyno trwyddedau 10 mlynedd newydd cyn i'r trwyddedau cyfredol ddod i ben ddiwedd 2014.
Cyn y cyfnod ail-drwyddedu nesaf, mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi tri ymgynghoriad ar wahân. Mae’r rhain yn edrych ar ddyletswyddau rhaglennu’r trwyddedau; y cynnig i greu trwydded ar wahân i Gymru oddi wrth y drwydded ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr sydd gan ITV ar hyn o bryd; a’r fethodoleg bydd Ofcom yn ei defnyddio i benderfynu ar y telerau ariannol ar gyfer adnewyddu'r trwyddedau.
Dyletswyddau Rhaglennu
Rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ddiwallu dyletswyddau rhaglennu penodol, fel darparu rhaglenni newyddion a materion cyfoes a faint o gynyrchiadau gwreiddiol ac annibynnol sydd ganddynt.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar y dyletswyddau rhaglennu hyn yn nhrwyddedau Sianel 3 a Sianel 5.
Y cynigion yw cynnal y set bresennol o ddyletswyddau ar gyfer y rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3, yn amodol ar y newidiadau canlynol:
Mae Ofcom yn cynnig cynnal y dyletswyddau rhaglennu presennol yn y drwydded ar gyfer Sianel 5.
Ardaloedd trwyddedig
Mae Ofcom yn cynnig creu trwydded Sianel 3 ar wahân i Gymru drwy ail-lunio ffiniau trwydded Cymru a Gorllewin Lloegr ITV. O dan y cynnig hwn, bydd gweddill yr ardal a ddaw o dan y drwydded honno – Bryste, Gwlad yr Haf, rhannau o Wiltshire a Swydd Gaerloyw – wedyn yn cael eu gwasanaethu gan drwydded De Orllewin Lloegr, sy’n cael ei dal gan ITV ar hyn o bryd.
Mae gan y ddau ranbarth a ddaw o dan drwydded Cymru a Gorllewin Lloegr gynnwys rhaglenni rhanbarthol ar wahân yn barod ac mae gan bob un ddyletswyddau trwydded ar wahân. Mae Ofcom yn cynnig cynnal y lefel bresennol o raglenni rhanbarthol sydd ei hangen ar gyfer Cymru yn y drwydded newydd Cymru yn unig.
Methodoleg ariannol
Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn mynnu ei bod yn rhaid i Ofcom benderfynu ar y telerau ariannol y caiff y trwyddedau eu hadnewyddu. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig methodoleg i gyfrifo’r telerau ariannol hynny.
Daw’r tri ymgynghoriad i ben ar 2 o Fai 2013 ac maent ar gael yma.
NODIADAU I OLYGYDDION
CYSYLLTU
Elinor Williams
Rheolwr Materion Rheoleiddiol,Cymru, Ofcom
02920 467 217