20 October 2011
Heddiw cyhoeddodd Ofcom gynigion gyda'r bwriad o sicrhau bod defnyddwyr y DU yn parhau i elwa oddiwrth wasanaeth post fforddiadwy gyda phrisiau cyffredin, chew diwrnod yr wythnos.
Heddiw cyhoeddodd Ofcom gynigion gyda'r bwriad o sicrhau bod defnyddwyr y DU yn parhau i elwa oddiwrth wasanaeth post fforddiadwy gyda phrisiau cyffredin, chew diwrnod yr wythnos.
Byddai'r cynigion, yn amod ol i ymgynghoriad cyhoeddus 11 wythnos, yn rhoi mwy o ryddid i'r Post Brenhinol i osod rhai o'i brisiau, ond mae'n cyflwyno mesurau diogelwch i sicrhau bod defnyddwyr a chystadleuaeth yn cael eu hamddiffyn.
Diogelu'r gwasanaeth cyffredin a gwella effeithlonrwydd
Nod ganolog y cynigion yw gwneud yr hyn a elwir yn Rwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredin (y Rhwymedigaeth) a osodwyd ar y Post Brenhinol yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Heb newidiadau rheoleiddiol mae perygl na all y Post Brenhinol barhau i gyflwyno'r Rhwymedigaeth i'r un safon.
Mae'r Rhwymedigaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol gasglu a dosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos (a phacedi bum diwrnod yr wythnos) ar bris fforddiadwy a unffurf yn ddaearyddol i bob cyfeiriad yn y DU.
Mae'r Rhwymedigaeth hefyd yn gosod safonau perfformiad ar y Post Brenhinol: rhaid i 93% o bost dosbarth cyntaf gyrraedd y diwrnod canlynol a rhaid i 98.5% obost ail ddosbarth gyrraedd o fewn tri diwrnod i'w bostio.
Mae rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredin y Post Brenhinol - fel dosbarthu chwe diwrnod yr wythnos - ymysg yr uchaf yn Ewrop.
Byddai cynigion heddiw yn annog mwy o effeithlonrwydd yn y Post Brenhinol ac yn sicrhau bod gwasanaeth cyffredin yn ddichonadwy yn yr hir dymor.
Pam bod angen newidiadau
Er bod y Post Brenhinol wedi dosbarthu 16 biliwn o lythyrau i tua 28 miliwn o gyfeiriadau y llynedd, ers 2006 gwelwyd 25% o ostyngiad yn swm y post gan fod cwsmeriaid wedi symud oddiwrth bost traddodiadol i dechnoleg digidol fel e-bost.
Yn ôl Adroddiad Hooper 2010 ar y sector post, mae disgwyl i swm post barhau i ostwng yn fyd-eang rhwng 25% a 40% yn ystod y pum mlynedd nesaf wrth i fusnesau a chwsmeriaid preswyl wneud defnydd cynyddol o wasanaethau ar-lein ac e-bost.
Gwnaeth busnes llythyrau'r Post Brenhinol golled o £120 miliwnyn 2010/11 ac mae ganddo ddiffyg pensiwn sylweddol. Amcangyfrifir bod cost y rhwydwaith sydd yn angenrheidiol i ddiwallu'r Rhwymedigaeth dros £6 biliwn y flwyddyn.
Tra bod defnyddwyr a busnesau yn dibynnu ar wasanaethau post, mae'r teulu cyffredin yn gwario tua 40c yr wythnos ar bost, o'i gymharu â tua £10 yr wythnos ar bob un o'r gwasanaethau trydan, ffôn a nwy*.
Cynigion i sicrhau gwasanaethau post o ansawdd uchel yn y DU
Mae'r model rheoleiddiol cyfredol ar gyfer y post wedi methu â sicrhau dichonolrwydd parhaus gwasanaeth cyffredin. Mae'r newidiadau enfawr sydd yn wynebu'r diwydiant - yn enwedig y gostyngiad yn swm y post - yn galw am agwedd newydd tuag at reoleiddio.
Mae Ofcom felly yn cynnig rhoi rhyddid i'r Post Brenhinol osod ei brisiau ei hun ar gyfer y mwyafrif o gynnyrch yn cynnwys:
* Dosbarthiadau Dosbarth Cyntaf - llythyrau, llythyrau mawr (maint A4 hyd at 750g mewn pwysau) a pharseli;
* Dosbarthiadau Ail Ddosbarh - ar gyfer llythyrau mawr a pharseli hyd at 1Kg mewn pwysau;
* Parseli safonol;
* Post busnes - post wedi'i fesur neu ei ffrancio ac amlenni wedi'u rhagargraffu; a
* Post swmp - yn bennaf busnesau mawr yn anfon swm mawr o bost ar un tro er enghraifft, datganiadau banc.
Mesurau diogelwch i amddiffyn defnyddwyr
Mae Ofcom yn cynnig nifer o fesurau diogelwch rheoleiddiol sylweddol i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth cyffredin yn parhau'n ddichonadwy ac i amddiffyn defnyddwr.Maent yn cynnwys:
1. Terfyn ar stampiau Ail Ddosbarth ar gyfer llythyrau safonol
Mae Ofcom yn bwriadu gosod terfyn 45c a 55c ar stampiau Ail Ddosbarth ar gyfer llythyrau safonol er mwyn diogelu defnyddwyr bregus rhag cynnydd sylweddol mewn prisiau. Byddai'r terfyn wedi'i fynegeio yn unol â chwyddiant.
2. Monitro perfformiad y Post Brenhinol yn effeithiol
Mae Ofcom yn bwriadu monitro perfformiad y Post Brenhinol yn agos, gan ganolbwyntio yn arbennig ar ddarpariaeth gwasanaeth cyffredin, effeithlonrwydd, elw a phrisio. Byddai hyn yn sicrhau bod y Post Brenhinol yn diwallu ei rwymedigaethau gwasanaeth cyffredin ac yn dod yn fwy effeithlon dros amser.
3. Ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol barhau i ddarparu mynediad rhwydwaith i'w gystadleuwyr
Mae Ofcom yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol barhau i ddarparu mynediad i'w gystadleuawyr at ei rwydwaith dosbarthu.Byddai gan y Post Brenhinol y rhyddid i osod 'pris cyfanwerth' am fynediad i'w rwydwaith ond byddai'n destun rheolau ynglyn â'r ffin a ganiateir rhwng y prisiau cyfanwerthu a'r prisiau manwerthu. Byddai hyn yn gymorth i sicrhau bod cystadleuwyr effeithiol yn gallu cystadlu'n effeithiol gyda'r Post Brenhinol.
Mae Ofcom hefyd yn bwriadu asesu ar sail achos wrth achos, unrhyw ddiddordeb mewn darparu yr hyn a elwiryn 'gystadleuaeth pen wrth ben' yn y DU lle mae gweithredwr post yn derbyn llythyr ac yn ei ddosbarthu i gyfeiriad yn y DU heb ddefnyddio rhwydwaith y Post Brenhinol.
Byddai'r fframwaith rheoleiddiol arfaethedig yn para am saith mlynedd. Byddai'n darparu'r rhyddid, amser a sicrwydd angenrheidiol i adfer dichonolrwydd gwasanaeth cyffredin a gwella effeithlonrwydd oddi mewn i'r Post Brenhinol.
Mae Ofcom ynymwybodol o'r angen am sicrwydd rhjeoleiddiol ond er hynny yn cadw'r gallu i ymyrryd pe bai'r drefn newydd yn methu â diogelu cynaliadwyaeth y gwasanaeth cyffredin a fforddiadwyaeth y gwasanaethau post. Mae Ofcom hefyd yn bwriadu cadw'r posibilrwydd o ail asesu lefel y bwlch prisio ar stampiau Ail Ddosbarth mewn dwy flynedd yn agored, yng ngoleuni unrhyw newidiadau perthnasol yn y farchnad.
Rheolieddio post
Fe wnaeth Ofcom gymryd drosodd rheoleiddio'r gwasanaethau post oddiwrth Postcomm ar 1 Hydref 2011. Roedd hyn yn dilyn argymhellion Adroddiad Hopper 2010 i'r gwasanaethau post, a dderbyniwyd gan y Llywodraeth.
Ar hyn o brydmae'r Post Brfenhinol yn cael ei reoleiddio yn y dulliau canlynol:
* Prisiau cynnyrch gwasanaeth cyffredin, yn cynnwys pris manwerthu stampiau;
* Prisiau y mae'r Post Brenhinol yn eu codi ar weithredwyr post eraill fel UK Mail, TNTa DHL i ddosbarthu eu post didoledig i fusnesau a phreswylwyr; a
* Diwallu ei rwymedigaeth gwasanaeth cyffredin a'i dargedau AnsawddGwasanaeth..
Dywedodd Cyfarwyddwr Grwp Cystadleuaeth Ofcom, Stuart McIntosh:
"Mae'r gwasanaeth post cyffredin - sydd yn sicrhau bod llythyrau yn cael eu dosbarthu i bob cyfeiriad yn y DU chwe diwrnod yr wythnos - yn arwyddocaol ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y cyhoedd. Ond oni bai bod newidiadau'n cael eu gwneud i reoliad y post, mae'r gwasanaeth hwn dan fygythiad.
"Diben cynigion Ofcom yw diogelu gwasanaeth post y DU, sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac o ansawdd uchel, hyd at ddiwedd y ddegawd a thuhwnt."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar gael yma http://stakeholders.ofcom.org.uk/consultations/securing-the-postal-service/ yn cauar 5 Ionawr 2012. Mae Ofcom yn disgwyl cyhoeddi penderfyniad ar y cynigion hyn yn y gwanwyn 2012
NODIADAU I OLYGYDDION
1. *Yn seiliedig ar ddata diweddaraf 2009 Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol. Mae prisiau ar gyfer cyfleustodau erbyn hyn yn uwch.
2. Ofcom yw'r rheoleiddiwr a'r awdurdod cystadleuaeth annibynnol ar gyfer diwydiannau cyfathrebiadau'r DU gyda chyfrifoldebau ar draws teledu,radio, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau diwifr a gwasanaethau post.
3. Am ragor o wybodaeth am Ofcom ewch i: www.ofcom.org.uk.Mae datganiadaui'r wasg Ofcom argaelyn: http://media.ofcom.org.uk/