02 July 2015
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniadau ei drydydd adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y teledu, yr adolygiad cyntaf ers 2008.
Mae'r adolygiad yn edrych ar sut mae'r BBC, ITV, STV, UTV, Channel 4, Channel 5 ac S4C wedi cyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n nodi'r dewisiadau ar gyfer sut byddai modd cynnal a chryfhau'r system. Mae'r Senedd yn mynnu bod Ofcom yn adolygu perfformiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Mae adolygiad Ofcom yn canfod bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal i wneud cyfraniad sylweddol at ddarlledu yn y DU.
Mae gwylwyr yn gwerthfawrogi cynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae bodlonrwydd y gynulleidfa yn uchel. Mae wyth gwyliwr o bob deg (79%) yn credu bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni ei ddibenion a'i nodweddion - fel newyddion mae modd ymddiried ynddyn nhw, cynnwys o ansawdd uchel ac adlewyrchu'r DU - cynnydd sylweddol o 69% yn 2008.
Mae dros hanner yr holl wylio teledu yn cael ei wneud ar y prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus - BBC 1, BBC 2, ITV 1, UTV, STV, Channel 4 a Channel 5 - gan godi i dros 70% wrth ystyried yr holl sianeli sy'n cael eu darlledu gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel sianeli '+1'.
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gwneud cyfraniad sylweddol at greu cynnwys yn y DU. Yn 2013, gwnaeth y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fuddsoddi ychydig dros £2bn bob blwyddyn mewn rhaglenni newydd yn y DU, heb gynnwys ar chwaraeon, o'i gymharu ag oddeutu £350m o ffynonellau heb fod yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus 1.
Mae gwylio ar-lein, ar alwad ac ar draws ystod o ddyfeisiau yn dod yn bwysicach i wylwyr, yn enwedig gwylwyr iau. Ymysg pobl ifanc 16-24 oed, dim ond 50% o'r hyn maen nhw'n ei wylio sy'n cael ei wylio ar deledu byw, gan fod gwasanaethau ar-lein newydd fel Netflix, Amazon Instant Video, BBC iPlayer ac All4 yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch beth a phryd maen nhw eisiau gwylio.
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mewn sefyllfa dda i fanteisio ar fwy o gysylltedd er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae'r twf mewn gwylio ar-lein hefyd yn rhoi cyfleoedd i gynnwys tebyg i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gael ei ddarparu gan ffynonellau heb fod yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Er enghraifft, mae cwmnïau fel Vice Media yn darparu cynnwys newyddion i bobl iau, mae cynnwys lleol yn dod o wefannau lleol iawn ac mae prifysgolion yn rhoi eu darlithoedd ar-lein.
Ond mae sialensiau yn codi, ac mae angen i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ymateb i newidiadau mewn technoleg ac ymddygiad gwylwyr.
Ers 2008 mae'r buddsoddiad mewn cynnwys gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi disgyn oddeutu £440m mewn termau real, gostyngiad o 15% rhwng 2008 a 2014.
Mae darlledwyr wedi mynd i'r afael â'r sialens hon drwy arbedion a newid y mathau o raglenni maen nhw'n eu gwneud. O ganlyniad, mae faint o gynnwys newydd sydd ar gael yn dal yn uchel, gyda dros 32,491 awr o raglenni DU newydd gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn 2014, o'i gymharu â 33,981 o oriau yn 2008.
Mae bodlonrwydd cynulleidfaoedd wedi codi ers 2008, i fyny o 69% i 79% yn 2014.
Ond mae Ofcom o'r farn ei bod yn rhaid i ddarlledwyr addasu eu modelu i gynyddu refeniw masnachol ac arbedion effeithlonrwydd, ac mae angen i'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus esblygu wrth i'r tuedd at wylio ar-lein dyfu; fel arall mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn debyg o wynebu dewisiadau anoddach ynghylch pa gynnwys a gwasanaethau maen nhw'n gallu ei ariannu.
Caiff darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei gefnogi gan fanteision penodol fel mynediad at sbectrwm teledu digidol gwerthfawr, amlygrwydd ar ganllawiau rhaglenni electronig ac, yn achos y BBC, ffi'r drwydded.
Bydd angen i lunwyr polisïau ystyried a fydd y manteision a gafodd eu dylunio i alluogi darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn effeithiol yn oes y rhyngrwyd.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: "Mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal i ddarparu rhaglenni teledu sy'n cael eu mwynhau a'u gwerthfawrogi gan filiynau o wylwyr ar draws y DU.
"Mae rhagor o bobl yn gwylio ar-lein neu ar alwad ac mae hyn yn cyflwyno sialensau yn ogystal â chyfleoedd. Rhaid iddynt barhau i ganfod ffyrdd newydd o gysylltu gyda chynulleidfaoedd ac mae angen i'r system darlledu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus esblygu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol yn yr oes ddigidol."
Roedd adolygiad Ofcom wedi nodi rhai pryderon mae angen mynd i'r afael â nhw ar unwaith: defnyddio newyddion a darparu newyddion ar gyfer pobl ifanc; drama sy'n adlewyrchu ac yn portreadu cymdeithas Brydeinig yn ôl i gynulleidfa Brydeinig; cynnwys sydd wedi cael ei deilwra yn ôl anghenion penodol y Gwledydd a'i rhanbarthau; rhaglenni crefyddol; rhaglenni i blant; a buddsoddi mewn meysydd eraill fel cerddoriaeth a'r celfyddydau.
Mae setiau gwahanol iawn o sialensiau ym mhob un o Wledydd y DU. Mae gwylwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'u rhanbarthau y DU yn teimlo mai darparu newyddion ydy un o ddibenion pwysicaf darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac, yn gyffredinol, mae'r gwylwyr yn fodlon â'r newyddion ar gyfer eu hardal leol. Mae cynulleidfaoedd ar draws y DU hefyd yn rhoi llawer iawn o bwysigrwydd ar bortreadu eu Gwlad neu eu rhanbarth ond roedd un gwyliwr o bob pump (21%)yn yr Alban ac un gwyliwr o bob pedwar (26%) yng Ngogledd Iwerddon yn teimlo eu bod yn cael eu portreadu yn negyddol mewn rhaglenni darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Canfu ymchwil Ofcom bod dros hanner yr ymatebwyr (55%) o grwpiau ethnig du yn teimlo nad oedden nhw'n cael eu cynrychioli digon mewn rhaglenni darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac roedd cyfran debyg (51%) yn teimlo eu bod yn cael eu portreadu yn negyddol. Roedd tua hanner y bobl anabl (51%) yn teimlo nad oedden nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol.
Mae sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn adlewyrchu amrywiaeth y DU yn faes y bydd angen i ddarlledwyr ei fonitro yn agos er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu eu cyfrifoldebau a disgwyliadau cynulleidfaoedd.
Mae Ofcom wedi partneru gyda'r Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol a fydd, am y tro cyntaf, yn darparu data ar gynrychiolaeth sydd wedi ei safoni, yn gymharol ac ar gael yn gyhoeddus.
Mae Ofcom hefyd yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Iawnderau Dynol i ddod o hyd i gamau ymarferol y gall darlledwyr eu cymryd i gynyddu amrywiaeth.
Ers 2008, mae gwylio rhaglenni newyddion teledu wedi disgyn 29% ymysg pobl ifanc 16-34 oed. Mae gwefannau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn bwysig ond mae cynulleidfaoedd iau hefyd yn defnyddio Twitter, Facebook, Google a YouTube i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf. Mae angen i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu newyddion a fydd yn apelio at gynulleidfaoedd iau.
Mae gwariant ar raglenni plant sy'n cael eu dangos am y tro cyntaf yn y DU wedi gostwng mewn termau real, o £103m yn 2008, i £88m yn 2014. Mae gwariant gan ITV, Channel 4 a Channel 5 wedi disgyn 74% yn gyffredinol, i ddim ond £3m yn 2014, sy'n golygu bod y BBC yn cyfrif am bron i 97% (£84m) o gyfanswm gwariant darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar raglenni plant.
Mae buddsoddi mewn drama hefyd wedi disgyn. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal i ddarparu dramâu proffil uchel gyda chyllidebau mawr fel Sherlock, Doctor Who a Downton Abbey. Ond mae'r gwariant ar raglenni drama yn y DU sy'n cael eu dangos am y tro cyntaf wedi disgyn 44% ers 2008, o £484m yn 2008 i £278m yn 2014. Mae nifer yr oriau o raglenni drama newydd sy'n cael eu dangos ar y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn disgyn o 627 awr yn 2008 i 371 awr yn 2014 - gostyngiad o 41%.
Heddiw, mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi adolygiad o'r modd y mae Corfforaeth Channel 4 yn cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â chynnwys cyfryngau ar draws ei hystod lawn o sianelau a gwasanaethau.
Canfu adolygiad Ofcom fod Corfforaeth Channel 4 wedi gwneud yn dda yn gyffredinol o ran cyflawni ei dyletswyddau dros gyfnod yr adolygiad (2010-2013). Mae wedi cynhyrchu ystod eang o gynnwys cyfryngau perthnasol sy'n apelio at gymdeithas sy'n amrywiol yn ddiwylliannol; gwneud ffilmiau o ansawdd uchel; a darlledu a dosbarthu'r cynnwys hwnnw.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Nid yw'r ffigurau hyn ar wariant yn cynnwys gwariant ar gynnwys chwaraeon. Y prif ddarparwyr heb fod yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU ydy cwmnïau fel Sky, Discovery, Fox, NBC Universal, Turner a Sony.
2. Mae data ar wylio, gwariant ac allbwn yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r rhanbarthau o amgylch y DU yn cael ei gyhoeddi yn natganiad Ofcom Gwledydd y DU a'u rhanbarthau .
3. Bydd Ofcom yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus rheolaidd yn nes ymlaen mis yma. Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer asesu darparu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae Adroddiad Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus 2014 Ofcom ar gael yma.
4. Mae'n rhaid i Ofcom adrodd bob hyn a hyn ar sut mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei ddarparu, gyda'r bwriad o gynnal a chryfhau'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Er mwyn gwneud hynny, mae Ofcom wedi edrych ar y newidiadau yn y sector darlledu a'r sector cyfathrebu ehangach a'u heffaith bosibl ar y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus bresennol. Mae adolygiad heddiw yn asesu i ba raddau mae'r system wedi cyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus ers i Ofcom adolygu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ddiwethaf yn 2008, ac edrych ar gyfraniad gwasanaethau cyfryngau eraill, fel teledu a chynigion ar-lein heb fod yn ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Yna, mae'n edrych ar heriau posib i'r system yn y dyfodol ac yn ystyried sut gellid cynnal a chryfhau'r system.
5. Y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus a ystyriwyd yn yr adolygiad yw BBC One, BBC Two, BBC Three, BBC Four, BBC News, CBBC, CBeebies, BBC Parliament, BBC HD Services, ITV, STV a BBC Alba yn yr Alban, UTV yng Ngogledd Iwerddon, Channel 4, Channel 5 ac S4C yng Nghymru.
6. Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn nodi dibenion ac amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae Ofcom wedi datblygu cyfres o ddibenion a nodweddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn seiliedig ar yr amcanion a'r dibenion statudol hyn.
Nodweddion Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus: