Rhaid i gwmnïau band eang, ffôn a theledu drwy dalu roi gwybod i gwsmeriaid am eu cynigion gorau

15 Mai 2019

  • Bydd rheolau newydd Ofcom yn helpu pobl i gael y pecyn gorau ar gyfer eu hanghenion
  • Bydd yn rhaid i gwmnïau hysbysu cwsmeriaid pan fydd eu contract yn dod i ben
  • Rhaid i ddarparwyr ddweud wrth gwsmeriaid am y bargeinion gorau sydd ganddynt bob blwyddyn

Rhaid i gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu gael gwybod pa bryd mae eu contract yn dod i ben, a rhaid iddynt gael gweld beth yw’r bargeinion gorau sydd ar gael, o dan reolau newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.[1]

Mae Ofcom am i gwsmeriaid allu manteisio ar y dewis o ran band eang, ffôn a theledu, a chael y bargeinion gorau ar gyfer eu hanghenion. Gallai hyn fod drwy newid darparwr neu gytuno ar fargen newydd â’r darparwr presennol.

Er mwyn helpu pobl i wneud hyn, rydym yn ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau band eang, teledu, ffonau symudol a ffonau cartref anfon yr wybodaeth sydd ei hangen ar eu cwsmeriaid ynghylch eu contract, pan fydd ei hangen arnynt, er mwyn iddynt allu dewis y pecyn gorau iddynt hwy.[2] Dyma’r mesurau gwarchod diweddaraf yn rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid Ofcom.

Gallai 20 miliwn o gwsmeriaid elwa

Mae ein hymchwil yn dangos bod dros 20 miliwn o gwsmeriaid wedi mynd heibio i gyfnod eu contract cychwynnol. Gallai nifer o’r rhain fod yn talu mwy na sydd raid.

Mae pobl sy'n bwndelu eu gwasanaethau llinell sefydlog a'u band eang yn talu 20% yn fwy ar gyfartaledd pan fyddant y ‘tu allan i gontract’. Mae hyn yn codi i 26% ymhlith cwsmeriaid sy’n bwndelu eu teledu drwy dalu â’r ddau wasanaeth hwn.

Nid yw tua un o bob saith cwsmer (14%) yn gwybod a ydynt yn dal i fod ynghlwm wrth eu bargen wreiddiol; ac mae tua un o bob wyth (12%) yn credu eu bod ‘mewn contract’, ond ddim yn gwybod pa bryd mae’r cyfnod hwn yn dod i ben.

Hysbysiadau newydd i gwsmeriaid

Felly, mae Ofcom wedi camu i’r adwy i sicrhau tegwch i gwsmeriaid, drwy orfodi cwmnïau telegyfathrebiadau a chwmnïau teledu drwy dalu i rybuddio cwsmeriaid rhwng 10 a 40 diwrnod cyn y bydd eu contract yn dod i ben. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu hanfon drwy neges destun, neges e-bost neu lythyr.[3] Byddant yn cynnwys:

  • dyddiad dod i ben y contract;
  • y pris a dalwyd cyn y dyddiad hwn;
  • unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a’r pris a delir ar ddiwedd y cyfnod hwn;
  • gwybodaeth am unrhyw gyfnod rhybudd sy’n ofynnol er mwyn dod â’r contract i ben; a’r
  • bargeinion gorau sy’n cael eu cynnig gan eu darparwr, gan gynnwys rhoi gwybod i gwsmeriaid ffyddlon pa brisiau sydd ar gael i gwsmeriaid newydd.

Bydd pobl sy’n dewis aros gyda’u darparwr heb ymrwymo i gontract newydd yn cael nodyn atgoffa bob blwyddyn am fargeinion gorau’r cwmni.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg, drwy wneud i gwmnïau roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, pan fydd ei hangen arnyn nhw.

“Bydd hyn yn rhoi grym yn nwylo miliynau o bobl sy’n talu mwy na sydd raid pan na fyddan nhw o dan gontract mwyach.”

Bydd y newidiadau’n golygu bod darparwyr yn anfon gwybodaeth wedi’i theilwra'n bersonol i filiynau o gwsmeriaid unigol. Er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn iawn, bydd gan gwmnïau naw mis i roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith yn eu systemau a’u prosesau. Bydd cwsmeriaid yn dechrau derbyn hysbysiadau o 15 Chwefror y flwyddyn nesaf.

Fairness for customers logo Tegwch i Gwsmeriaid

Mae ein hymgyrch Tegwch i Gwsmeriaid wedi cyflwyno'r canlynol yn ddiweddar hefyd:

Ar 1 Gorffennaf 2019, bydd rheolau newydd yn dod i rym a fydd yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws newid darparwr symudol.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Yn gyffredinol, pan fyddwn ni’n sôn am ‘gontract’ – er enghraifft, ‘cyfnod cychwynnol y contract’, neu fod ‘allan o gontract’ neu fod ‘mewn contract’ – mae hyn yn cyfeirio at gyfnod ymrwymiad sefydlog cwsmeriaid. Hynny yw, y cyfnod na all cwsmeriaid ganslo eu gwasanaethau na newid i ddarparwr gwahanol heb dalu ffi ganslo.

2. Bydd cwsmeriaid busnes hefyd yn cael hysbysiadau ‘diwedd contract’ a gwybodaeth am y tariff gorau bob blwyddyn, mewn fformat sy’n addas iddyn nhw.

3. Dyma enghraifft o hysbysiad diwedd contract a anfonwyd drwy neges destun:

Enghraifft o neges destun SMS byddai cwsmer yn ei dderbyn cyn diwedd contract