Gall cwsmeriaid ffonau symudol adael eu rhwydwaith drwy anfon neges destun syml yn rhad ac am ddim, dan reolau newydd Ofcom o ddydd Llun (1 Gorffennaf) ymlaen.
Ar hyn o bryd, mae pobl sydd eisiau newid darparwr eu ffôn symudol a chadw eu rhif ffôn yn gorfod ffonio eu darparwr presennol fel arfer, i ofyn am PAC (cod awdurdodi cludo). Ond mae llawer ohonynt yn cael eu poeni gan ymdrechion diangen i'w perswadio i aros.
Mae ymchwil newydd gan Ofcom yn dangos bod bron i un o bob tri (31%) o bobl sy’n newid darparwr yn ei chael hi'n anodd canslo eu gwasanaeth blaenorol. Dyma’r rhwystr mwyaf sy'n wynebu pobl sydd eisiau newid.[1]
O'r bobl sy’n ystyried newid ond sy’n dewis peidio, mae 45% yn penderfynu y byddai’n cymryd gormod o amser i newid; ac mae 39% yn digalonni wrth feddwl am y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr.
Mae ein proses ‘neges destun i newid’ yn gwneud pethau'n gyflymach ac yn haws i bobl adael eu cwmni ffôn symudol, drwy adael i’r cwsmeriaid reoli faint o gyswllt maent yn ei gael gyda’u darparwr presennol. Dyma sut mae’n gweithio:
Os yw cwsmer eisiau newid a chadw’r un rhif ffôn, dylent anfon y neges ‘PAC’ i 65075 er mwyn dechrau ar y broses.
Bydd eu darparwr presennol yn ymateb i’r neges o fewn munud er mwyn gwirio pwy yw’r cwsmer, cyn anfon cod newid a fydd yn ddilys am 30 diwrnod. [2] Rhaid i ateb y darparwr hefyd gynnwys gwybodaeth bwysig am unrhyw ffioedd terfynu’n gynnar, costau heb eu talu am setiau llaw, neu falansau credyd talu-wrth-ddefnyddio.
Yna, bydd y cwsmer yn rhoi'r cod i'w darparwr newydd, a rhaid i'r cwmni hwn drefnu i newid o fewn un diwrnod gwaith.
Mae’r broses wedi cael ei chynllunio i fod yn gyflym ac yn hawdd, felly gallai cwsmeriaid ofyn am eu cod wrth chwilio am fargen newydd - er enghraifft, tra byddan nhw ar y ffôn gyda darparwr newydd, neu mewn siop.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno cadw eu rhif ffôn symudol pan mae nhw’n newid, nid yw tua un o bob chwech o bobl sy’n newid eisiau gwneud hynny. Gall y cwsmeriaid hyn anfon y neges ‘STAC 'i 75075 i ofyn am ‘god awdurdodi terfynu gwasanaeth’. Mae gweddill y broses yr un fath â'r uchod. Mae hyn yn cael gwared o’r drafferth o orfod siarad gyda’ch darparwr presennol os ydych chi’n dymuno gadael.
Os nad yw rhywun yn siŵr pryd bydd eu contract cyfnod penodol yn dod i ben, ac a fyddai’n rhaid iddynt dalu unrhyw ffioedd terfynu’n gynnar, gallant anfon y neges ‘INFO’ i 85075 i gael yr wybodaeth heb ofyn am god newid.
Yr ail rwystr sy’n wynebu pobl (ar ôl canslo eu gwasanaeth blaenorol) yw ceisio osgoi talu’r hen gwmni a’r cwmni newydd yr un pryd – gan fod tri o bob deg o gwsmeriaid yn cael hyn yn anodd.
Felly, o ddydd Llun ymlaen, mae Ofcom wedi gwahardd darparwyr ffonau symudol rhag codi tâl am gyfnodau rhybudd sy’n rhedeg ar ôl y dyddiad newid. Bydd hyn yn arbed £10m y flwyddyn i gwsmeriaid ffonau symudol y DU.
Mae angen i gwsmeriaid roi eu rhif PAC neu STAC i’w darparwr newydd, fel bod eu cwmnïau symudol hen a newydd yn gallu sicrhau nad oes yna daliad dwbl.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Ni fu erioed yn haws i derfynu pethau gyda’ch darparwr ffôn symudol, diolch i reolau newydd Ofcom. Ni fydd angen i chi gael sgwrs lletchwith gyda’ch darparwr presennol i fanteisio ar y bargeinion gwych sydd ar gael.”
Mae’r mesurau heddiw yn rhan o raglen ehangach Ofcom i sicrhau Tegwch i Gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys:
1. Ffynhonnell: Data Traciwr Profiad Newid Ofcom.
2. Gall bobl hefyd ofyn am eu cod newid ar-lein. Yn achos cwsmeriaid busnes, fe fyddan nhw’n cael y cod hwn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Bydd angen i gwsmeriaid sydd â mwy na un rhif yn rhan o’u cyfrif -er enghraifft -y rheiny sydd â phecynnau symudol teuluol-ofyn am eu PAC ar-lein.
3. Dan y rheolau newydd, rhaid i ddarparwyr ffonau symudol gyhoeddi a hyrwyddo canllawiau clir i helpu cwsmeriaid i ddilyn y broses.