Datgelu’r cwynion diweddaraf am delegyfathrebiadau a theledu drwy dalu

17 Mai 2019

  • Sky sy’n sgorio orau ar gyfer pob gwasanaeth, wedi iddynt ymddangos ar y tabl ffonau symudol am y tro cyntaf
  • Cwynion Plusnet wedi mwy na dyblu o ganlyniad i lansio system filio newydd

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf am y cwynion rydym yn eu derbyn am brif gwmnïau’r DU ar gyfer ffôn cartref, band eang, ffôn symudol a theledu drwy dalu.

Mae’r adroddiad chwarterol yn dangos nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd am gwmnïau ym marchnadoedd band eang mewn cartrefi, ffôn linell sefydlog, ffôn symudol talu’n fisol, a theledu drwy dalu. Mae pob darparwr sydd â chyfranddaliad sydd dros 1.5% yn cael ei gynnwys.

Am y tro cyntaf, mae Sky wedi ei gynnwys yn y farchnad ffonau symudol, ac wedi ymuno â'r tabl cynghrair gyda'r lleiaf o gwynion. Mae hyn yn golygu mai Sky yw’r darparwr rydym wedi derbyn y lleiaf o gwynion amdano ar draws y pedwar gwasanaeth.[1]

Roedd cwynion gan gwsmeriaid band eang Plusnet wedi mwy na dyblu yn ystod chwarter olaf 2018. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y cwmni'n cael problemau gyda system filio newydd roedd wedi ei lansio.

Mae BT wedi disodli Virgin Media fel y darparwr teledu drwy dalu sydd wedi derbyn y mwyafrif o gwynion, tra bod y ddau gwmni wedi derbyn y gyfran uchaf o ffigurau cwynion ar gyfer gwasanaethau ffonau symudol, ynghyd â Vodafone. Y prif reswm dros y cwynion am y tri darparwr oedd materion yn ymwneud â bilio, prisiau a delio â chwynion.

Mae gwybodaeth am gwynion yn helpu pobl i feddwl am ansawdd gwasanaeth pan fyddant yn chwilio am ddarparwr newydd, ac yn annog cwmnïau i wella eu perfformiad. Mae ein hwb ansawdd gwasanaeth yn cynnig rhagor o wybodaeth am ddewis y darparwr gorau.

Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Defnyddwyr Ofcom: “Mae mwy o ddewis nag erioed o ran gwasanaethau ffôn a band eang heddiw. Rydym yn falch o weld cystadleuaeth ffyrnig yn sbarduno rhai cwmnïau i wthio eu hunain i ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

“Yn anffodus, mae rhai cwmnïau ar ei hôl hi, neu'n cael trafferth gyda chysondeb. Mae'n bwysig eu bod nhw’n cofio y gall eu cwsmeriaid sy’n anhapus adael a chwilio am ddarparwr arall.”

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, a gall yr wybodaeth a gawn ein harwain ni i lansio ymchwiliadau.

Dylai unrhyw un sy'n cael problemau wneud cwyn i'w darparwr yn gyntaf. Os ydynt yn anhapus â'r canlyniad, gallant wneud cwyn i ombwdsmon annibynnol, a fydd yn edrych ar yr achos, ac yn gwneud dyfarniad ar hynny.

Cwynion ynglŷn â band eang yn y cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid

Plusnet = 43,Vodafone = 25, TalkTalk = 20, BT = 18, Virgin Media = 14, EE = 9, Swyddfa'r Post = 8, Sky = 5. Cyfartaledd y diwydiant = 15

Mae’r gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng ffigurau rhai cwynion band eang fesul 100,000 o danysgrifwyr yn llai nag un, felly dylid ystyried cymharu’r canlyniadau canlynol: 1) Virgin Media a’r cyfartaledd diwydiant; 2) EE a Swyddfa'r Post.

Cwynion ynglŷn â ffôn llinell sefydlog fesul 100,000 o gwsmeriaid

Plusnet = 33, TalkTalk = 16, Vodafone = 14, BT = 12, Virgin Media = 11, Swyddfa'r Post = 9, EE = 5, Sky = 4. Cyfartaledd y diwydiant = 11.

Mae’r gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng ffigurau rhai cwynion ffôn llinell sefydlog fesul 100,000 o danysgrifwyr yn llai nag un, felly dylid ystyried cymharu’r canlyniadau canlynol: 1) BT, Virgin Media a’r cyfartaledd diwydiant; 2) EE a Sky.

Cwynion ynglŷn â ffonau symudol fesul 100,000 o gwsmeriaid

BT Mobile, Vodafone, Virgin Mobile = 7, Three UK = 4, O2 = 3, iD Mobile, EE = 2, Tesco Mobile, Sky Mobile = 1. Cyfartaledd y diwydiant = 4

Mae’r gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng ffigurau rhai cwynion ffonau symudol talu’n fisol fesul 100,000 o danysgrifwyr yn llai nag un, felly dylid ystyried cymharu’r canlyniadau canlynol: 1) BT, Vodafone a Virgin Mobile; 2) Three, y cyfartaledd diwydiant ac O2; 3) iD Mobile ac EE; 4) EE a Tesco Mobile; 5) Tesco Mobile a Sky Mobile.

Cwynion ynglŷn â theledu drwy dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid

BT = 12, Virgin Media = 10, TalkTalk Group = 7, Sky = 1. Cyfartaledd y diwydiant = 4

Graddfa gymharol o gwynion ar gyfartaledd fesul 100,000 o gwsmeriaid, fesul sector (chwarterol)

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae’r gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng ffigurau rhai cwynion band eang fesul 100,000 o danysgrifwyr yn llai nag un, felly dylid ystyried cymharu canlyniad llinell ffôn sefydlog EE gyda chanlyniad Sky, fel y dylid ystyried cymharu canlyniadau Tesco Mobile a Sky yn y sector ffôn symudol talu’n fisol.