- Mae cyrhaeddiad gwasanaethau teledu'r BBC ymysg pobl 16-24 oed wedi gostwng o dan 50% am y tro cyntaf
- Mae’r BBC yn gwasanaethu pobl yn dda ar y cyfan, ond mae Ofcom yn galw am gynllun clir ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd iau a rhai sydd wedi ymddieithrio
Mae’n bosib na fydd y BBC yn gynaliadwy ar ei ffurf bresennol os bydd yn methu adennill cynulleidfaoedd iau, wrth iddyn nhw gefnu mwy a mwy ar wasanaethau’r BBC.
Mae adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC, a gyhoeddwyd heddiw, yn asesu perfformiad y gorfforaeth yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019.
Rydym wedi canfod bod y BBC, at ei gilydd, yn gwasanaethu gwylwyr a gwrandawyr yn dda, drwy amrywiaeth ac ansawdd ei raglenni. Mae lefelau bodlonrwydd pobl â'r BBC yn dal yn uchel – mae’n cymharu’n dda â darlledwyr teledu a radio eraill.
Ond fel nifer o ddarlledwyr, mae’r amgylchedd cyfryngau sy'n newid yn gyflym iawn yn effeithio ar y BBC. Mae’r gorfforaeth wedi cydnabod ei bod yn cael trafferth ennyn diddordeb cynulleidfaoedd iau a dal gafael arnyn nhw, ac mae’n mynd ati i fynd i’r afael â hyn – fel drwy lansio BBC Sounds a sicrhau bod rhaglenni ar gael am gyfnodau hirach ar iPlayer.
Mae canfyddiadau Ofcom yn dangos ei bod yn rhaid i'r BBC wneud llawer mwy i greu cysylltiad â phlant ac oedolion iau heddiw – drwy ddarparu cynnwys perthnasol, sy’n apelio ac sydd ar gael yn y llefydd iawn – neu gallai golli cenhedlaeth o bobl a allai fod yn talu ffi'r drwydded.
Maint yr her sy’n wynebu’r BBC
Mae adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC yn egluro natur yr her mae’n ei hwynebu.
- Y llynedd, am y tro cyntaf, llai na hanner (49%) y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd wedi gwylio sianeli teledu'r BBC mewn wythnos gyffredin. Y gyfradd ar gyfer dynion yn y grŵp yma oedd 46%.
- Roedd pobl 16-34 oed wedi treulio awr a 12 munud gyda'r BBC bob dydd ar gyfartaledd – pum munud yn llai na'r flwyddyn flaenorol, a hanner cymaint â chynulleidfaoedd yn gyffredinol.
- Ar ôl blynyddoedd lawer o sefydlogrwydd, roedd y gyfran o blant 4-6 oed sy’n gwylio CBeebies bob wythnos wedi gostwng – o 39% i 34%.
- Roedd cyrhaeddiad BBC iPlayer ymhlith pobl 15-24 oed wedi gostwng o 28% i 26%, ac roedd cynulleidfa iau Netflix wedi cynyddu o 56% i 66%.
- Roedd pobl rhwng 18 a 24 oed wedi treulio chwarter yn llai o amser bob dydd ar wefannau'r BBC – wedi gostwng o 2 funud a 43 eiliad bob dydd, i 2 funud.
Mae heriau tebyg yn cael eu datgelu yn adolygiad Ofcom o gynnwys newyddion a materion cyfoes y BBC, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Roedd yr adolygiad yn casglu barn cynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn cynnwys gwaith ymchwil manwl ac arloesol ynghylch sut mae pobl yn cael eu newyddion.
Mae ein hadolygiad wedi canfod mai’r BBC yw'r brif ffynhonnell newyddion o hyd yn y Deyrnas Unedig, a’i fod wedi cynnal ei enw da am ohebu’n gywir ac yn ddibynadwy. Gyda mwy a mwy o newyddion ffug a gwybodaeth gamarweiniol, mae pobl yn dal i droi at gynnwys newyddion y BBC i gael safbwynt dibynadwy ar ddigwyddiadau, yn enwedig newyddion sy'n torri.
Fodd bynnag, roeddem wedi canfod bod cynulleidfaoedd iau yn cefnu ar gynnwys newyddion a materion cyfoes y BBC, ac yn defnyddio mwy a mwy ar gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ‘cyd-gasglu’ newyddion – fel Apple News neu Upday – lle mai dim ond un o blith nifer o ffynonellau ydy’r BBC. Ymysg pobl 16-24 oed:
- Roedd llai na chwarter (23%) wedi gwylio newyddion y BBC ar y teledu yn ystod 2018 – mae hyn wedi gostwng dros draean mewn dim ond pum mlynedd.
- Roedd llai nag un o bob 10 (8%) yn gwylio rhaglenni materion cyfoes ar wasanaethau teledu’r BBC – tua hanner y gyfran a oedd yn gwylio bum mlynedd yn ôl. Yn groes i hynny, mae dros dri chwarter (76%) bellach yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion.
- Roedd pobl ifanc yn ein hymchwil yn cwestiynu i ba raddau roedd darpariaeth newyddion y BBC yn ‘siarad â nhw’, yn hytrach na chenedlaethau hŷn.
Cyrraedd cynulleidfaoedd eraill
Mae'r BBC hefyd yn cael trafferth cyrraedd grwpiau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw.
Mae ein hymchwil yn dangos bod rhai pobl – fel menywod hŷn a phobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is – yn dal yn anfodlon â'r ffordd maen nhw'n cael eu portreadu ar y BBC. Mae gan bobl yn yr Alban a phobl sydd dros 65 oed bryderon tebyg.
Yn yr un modd, mae ein hadroddiad ar gynnwys newyddion y BBC yn dangos bod rhai pobl o’r farn ei fod yn cynrychioli safbwynt gwyn, dosbarth canol a Llundeinig nad yw’n berthnasol i'w bywydau nhw.
Yn fwy cyffredinol, fodd bynnag, mae'r BBC yn dal i berfformio'n dda yng nghyswllt arlwy a safonau golygyddol. Yn y mwyafrif llethol o achosion roeddem wedi’u hystyried yn ystod y flwyddyn, mae'r BBC yn bodloni safonau Cod Darlledu Ofcom, yn ogystal â'n hamodau rheoleiddio.
Yr hyn rydym yn disgwyl i’r BBC ei wneud
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae'r BBC yn dal yn rhan hanfodol a gwerthfawr o ddiwylliant Prydain. Ond rydym yn poeni bod cenhedlaeth newydd yn troi ei chefn ar wasanaethau’r BBC. Felly, mae’n rhaid i'r BBC amlinellu cynlluniau mwy beiddgar er mwyn creu cysylltiad â gwylwyr a gwrandawyr iau.
“Rydym hefyd eisiau i'r BBC ehangu apêl ei newyddion – nid yw rhai gwylwyr a gwrandawyr yn teimlo ei fod yn berthnasol i'w bywydau. Ac mae’n rhaid i'r BBC ddod o hyd i ffyrdd o fod yn fwy unigryw ar-lein, gan fod ein hymchwil yn dangos ei fod yn cael ei anwybyddu gan bobl ifanc.”
- Cyrraedd pobl iau. Er bod y BBC wedi lansio cynlluniau sy'n gallu helpu i ymestyn ei apêl, dydy’r rhain ddim yn ddigon pellgyrhaeddol. Dylai'r BBC amlinellu cynlluniau clir ar gyfer cynhyrchu cynnwys arloesol, unigryw sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd iau yn y mannau lle maen nhw eisiau cael gafael arno.
- Ehangu ei apêl.Mae angen i'r BBC amlinellu cynllun mwy manwl ar gyfer gwella’r ffordd mae’n cynrychioli ac yn portreadu cymdeithas y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys grwpiau llai bodlon. Mae ein hadolygiad o gynnwys newyddion yn galw ar y BBC i ganolbwyntio ar gynnwys newyddion a materion cyfoes dilys sy'n teimlo'n berthnasol ac yn ddifyr i'r holl gynulleidfaoedd. Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau gweld mwy o newyddion am eu cymunedau, sy’n cael ei gyflwyno gan bobl sydd â dealltwriaeth ddyfnach o'r ardal. Gydag adnoddau heb eu hail ar gyfer casglu newyddion lleol a rhanbarthol, dylai’r BBC allu cynrychioli’r wlad gyfan drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau o ran arddull, tôn a phynciau.
- Ennyn diddordeb cynulleidfaoedd iau ar-lein. Wrth i fwy a mwy o bobl ddibynnu ar wasanaethau cyd-gasglu newyddion a chyfryngau cymdeithasol i gael newyddion, mae angen i gynnwys ar-lein y BBC wneud mwy i sefyll allan. Dylai’r BBC gyhoeddi’r camau mae’n eu cymryd i helpu pob cynulleidfa – yn enwedig pobl iau – i ddeall ac ymgysylltu â’r byd.
- Didueddrwydd dyladwy. Er bod ymddiriedaeth a chywirdeb yn cael sgoriau uchel, mae argraffiadau pobl o ddidueddrwydd y BBC yn fwy cymhleth. Mae ein hadolygiad o gynnwys newyddion yn ystyried y rhesymau sydd wrth wraidd hynny. Mae'n dangos bod cynulleidfaoedd yn parchu safon newyddiaduraeth y BBC, ac yn disgwyl i’w ohebwyr ymchwilio i ddigwyddiadau, eu dadansoddi a’u hesbonio. Dylai hyn roi hyder i'r BBC fod yn fwy beiddgar o ran y ffordd mae’n mynd ati i sicrhau ‘didueddrwydd dyladwy’ – un o’r gofynion pwysig o dan God Darlledu Ofcom.
- Cefnogi safleoedd newyddion eraill. Mae ein gwaith yn dangos y gallai'r BBC ddarparu mwy o ddolenni at gynnwys trydydd parti allanol. Mae dolenni allanol yn cefnogi'r diwydiant newyddion ehangach, ac o fudd i gynulleidfaoedd drwy gynnig mynediad at amrywiaeth ehangach o ddeunydd. Bydd Ofcom yn casglu rhagor o dystiolaeth i weld a ddylai'r BBC wneud mwy i gynnwys dolenni at ffynonellau allanol.
- Tryloywder. Mae ein hadroddiad blynyddol hefyd yn codi pryderon difrifol am ba mor agored a thryloyw ydy’r BBC. Mae'r rhain yn cynnwys amharodrwydd y BBC i ymgysylltu'n effeithiol â'r partïon sy’n teimlo effeithiau newidiadau i wasanaethau a ariennir gan ffi'r drwydded; a’r ffordd mae’n rhyddhau ac yn esbonio ei benderfyniadau am gydymffurfiad golygyddol – mae Ofcom yn ystyried hyn fel mater o frys. Bydd ymrwymo i fod yn dryloyw yn helpu i ennyn ymddiriedaeth yn y BBC.
Ochr yn ochr â’r adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw, mae Ofcom wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i nodi ein prif ganfyddiadau. Byddwn yn cysylltu ag ef dros y misoedd nesaf ynghylch ein pryderon er mwyn iddo sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn llawn gan Fwrdd y BBC.
Rydyn yn disgwyl gweld cynllun clir i fynd i’r afael â’r meysydd hyn sy’n parhau i godi pryderon, yng nghynllun blynyddol y BBC, a’r broses sefydlu cyllideb ar gyfer 2020/21, fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd Mawrth 2020.
Y DIWEDD