Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu bod defnyddwyr y rhyngrwyd yn y DU yn fwy a mwy pryderus am fod ar-lein, wrth i tua phedwar o bob pump fynegi pryderon.
Mae’r astudiaeth ar y cyd gan Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth[1] yn dangos bod cyfran yr oedolion sy’n bryderus ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd wedi codi ers y llynedd, o 59% i 78%.[2]
Yn debyg, mae 61% o oedolion wedi cael profiad niweidiol posibl ar-lein yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r ffigur yn codi i 79% ymysg plant rhwng 12 a 15 oed.[3]
Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o oedolion (59%) yn cytuno bod manteision bod ar-lein yn drech na'r peryglon, ac mae 61% o blant yn meddwl bod y rhyngrwyd yn gwneud eu bywyd yn well.
Gwelir y canfyddiadau yn adroddiad Ein Gwlad Ar-lein blynyddol cyntaf Ofcom – astudiaeth fanwl o sut mae pobl yn defnyddio'r rhyngrwyd. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut mae pobl yn cael eu gwasanaethu gan gynnwys a gwasanaethau ar y rhyngrwyd, ac ar eu hagweddau at fod ar-lein.
Mae'r amser mae pobl yn ei dreulio ar-lein yn tyfu tua 7% bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, roedd oedolion yn y DU wedi treulio 3 awr a 15 munud ar-lein bob dydd y llynedd – cynnydd o 11 munud ers 2017. Mae hynny’n trosi’n 1,192 awr dros y flwyddyn: tua 50 diwrnod ar y rhyngrwyd.[4]
Mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid ein bywyd gwaith a’n bywyd cymdeithasol, gan ei gwneud yn haws ac yn rhatach cyfathrebu a chreu a rhannu cynnwys a gwybodaeth. Bob wythnos:
Er gwaethaf y manteision hyn, mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cael profiadau niweidiol posibl ar-lein hefyd. Y niwed posibl ar-lein mwyaf cyffredin ymysg oedolion oedd negeseuon e-bost nad oedd pobl wedi gofyn amdanynt (34% wedi eu cael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf), newyddion ffug (25%) a sgamiau neu dwyll (22%).
Ymysg plant, roedd 39% wedi gweld iaith dramgwyddus ar-lein; 28% wedi cael ceisiadau ffrind nad oeddent eu heisiau; 23% wedi gweld seiberfwlio; a 20% wedi gweld trolio.[5]
Fe wnaeth Ofcom hefyd astudio lle roedd pobl wedi cael eu profiad niweidiol posibl mwyaf diweddar. Cyfryngau cymdeithasol yw'r brif ffynhonnell – yn enwedig Facebook, a gafodd ei nodi gan 28% o’i ddefnyddwyr sy’n oedolion, wedi’i ddilyn gan Instagram (16%) a Twitter (12%).[6]
Dim ond 40% o oedolion sy’n cytuno bod gwefannau a safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn darparu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i'w cadw’n ddiogel ar-lein, ond mae’r ffigur hwn yn codi i 55% ymysg plant.
Mae’n ymddangos bod y gefnogaeth i ragor o reoleiddio ar-lein wedi cynyddu mewn nifer o feysydd. Mae'r rhan fwyaf o oedolion o blaid rheolau llymach i safleoedd cyfryngau cymdeithasol (70% yn 2019, i fyny o 52% yn 2018); i safleoedd rhannu fideos (64% o’i gymharu â 46%) ac i wasanaethau negeseuon gwib (61% o’i gymharu â 40%).
Serch hynny, mae bron i hanner (47%) y defnyddwyr rhyngrwyd yn cydnabod bod gwefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi rhyddid mynegiant, hyd yn oed pan fydd rhai pobl yn credu bod y cynnwys yn annifyr.
Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Gan fod y rhan fwyaf ohonom yn treulio mwy o amser nag erioed ar-lein, rydyn ni’n poeni mwy a mwy am gynnwys niweidiol – ac yn fwy tebygol o’i weld.