
Cymraeg isod/Welsh below
Full time undergraduate students can now apply for funding at www.studentfinancewales.co.uk even if they don’t have a confirmed place at university yet.
Last year SLC received almost 70.000 applications from Welsh full-time undergraduate students with the majority of these received before the deadline. The deadline for new students to get their applications in for the 19/20 academic year is 10 May 2019.
Executive Director of Operations, Derek Ross, said: “Last year the majority of students applied for their funding early, which was great. We hope to see that trend continuing. Applying for your student finance before the deadline is the best way to make sure you have your finances sorted before term starts.”
Student Finance Wales (SFW) has produced a series of short films covering everything you need to know about student finance for 19/20 including how much you can get and how to apply as well as useful information on repayment and interest. The Playlist featuring all the films can be found here: https://www.youtube.com/playlist?list=PLbRuPgpyODof631RXASGsHhAo61OxbAbj
You can view the playlist in Welsh here: https://www.youtube.com/playlist?list=PLbRuPgpyODocchKJ1J6Ea2zfyMPj8ZreV Students should also follow SFW’s facebook facebook.com/SFWales and twitter channels @SF_Wales for all the latest news and updates.
Other tips for making the application process as smooth as possible include:
Having your National Insurance Number and passport details to hand before you start your online application as you will be asked for this information as part of the process.
Keeping a note of the email address you use when applying for student finance and making sure you choose a password you’ll remember. Don’t worry if you do forget it as you will be able to reset it yourself using our password reset service.
Follow SFW’s facebook facebook.com/SFWales and twitter channels @SF_Wales for all the latest news and updates.
Annog myfyrwyr brwd yng Nghymru i Ymgeisio Nawr am gyllid i fyfyrwyr
Dylai myfyrwyr brwd yng Nghymru ymgeisio am eu cyllid i fyfyrwyr cyn gynted â phosibl. Dyma’r neges gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wrth i geisiadau agor ar gyfer blwyddyn academaidd 19/20.
Gall myfyrwyr israddedig amser llawn ymgeisio am gyllid ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk hyd yn oed os nad ydynt wedi cael cadarnhad o le yn y brifysgol eto.
Y llynedd fe dderbyniodd SLC bron i 70,000 o geisiadau gan fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru, gyda’r mwyafrif o’r rhain wedi eu derbyn cyn y dyddiad cau. Y dyddiad cau i fyfyrwyr newydd gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 19/20 yw 10 Mai 2019.
Meddai’r Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Derek Ross: “Y llynedd fe ymgeisiodd y mwyafrif o fyfyrwyr am eu cyllid yn gynnar, sy’n wych. Gobeithio y byddwn yn gweld y tuedd hwn yn parhau. Ymgeisio am eich cyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau yw'r ffordd orau i sicrhau’ch bod yn cael trefn ar eich cyllid cyn dechrau'r tymor.”
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 19/20, yn cynnwys faint allwch chi ei gael a sut i ymgeisio, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar ad-dalu a llog. Gellir gweld y Rhestr Chwarae yn cynnwys yr holl ffilmiau yma:: http://bit.ly/Repaying Gallwch weld y rhestr chwarae yn Gymraeg yma: http://bit.ly/Repaying
Dylai myfyrwyr hefyd ddilyn sianeli facebook facebook.com/SFWales a twitter @SF_Wales CMC ar gyfer y newyddion diweddaraf.
Ymysg awgrymau eraill am wneud y broses ymgeisio mor ddidrafferth â phosibl mae:
Cael eich Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn i chi gychwyn eich cais ar-lein gan y gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth yma yn rhan o'r broses.
Cadwch nodyn o'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch wrth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr a sicrhau eich bod yn dewis cyfrinair y byddwch yn ei gofio. Peidiwch â phoeni os byddwch yn ei anghofio gan y byddwch yn gallu ei ailosod eich hun yn defnyddio ein gwasanaeth ailosod cyfrinair.
Dilynwch sianeli facebook facebook.com/SFWales a twitter @SF_Wales CMC ar gyfer y newyddion diweddaraf.