Aspiring students in Wales urged to apply now for student finance

Aspiring students and their parents in Wales are being urged to swot up on student finances as applications open for the 18/19 academic year.

14 March 2018

The Student Loans Company is encouraging students to make sure they know their student finance facts and apply as early as possible to ensure their funding is in place before their course starts. 

Derek Ross, SLC’s Executive Director of Operations said: 

“There is a range of finance available to help with university costs, including tuition fee loans and maintenance loans which can help with your living costs while you’re studying.  

“It’s best to apply as early as possible to get everything in place and start budgeting. You don’t even need a confirmed place on a course to apply, you can use your first choice of course and update your application later if this changes. The quickest and easiest way to apply is online at www.studentfinancewales.co.uk” 

Student Finance Wales (SFW) has produced a series of short films covering everything you need to know about student finance for 18/19 including how much you can get and how to apply as well as useful information on repayment and interest. The Playlist featuring all the films can be found here: http://bit.ly/Repaying You can view the playlist in Welsh here: http://bit.ly/2GXs7dc

Students should also follow SFW’s facebook facebook.com/SFWales and twitter channels @SF_Wales for all the latest news and updates.  

5 Common Student Loan Myths 

Myth: I have to have a place at a higher or further education institution before I can apply for funding  

BUSTED: You don’t need a confirmed place on a course to be able to apply for student finance – you can use your first choice of course and update your application later if this changes. Read our interactive guide to find out more about how to apply: http://media.slc.co.uk/sfe/quickStartFinanceGuide/Home.html

Myth: It doesn’t matter when I apply for my funding I’ll still get it on time 

BUSTED: The only way to ensure you get funding in time for your course starting is to apply before the deadline and ensure you provide all the supporting evidence needed for the application. The deadline for new students is 11 May and 8 June for returning students.  

Myth: Even if I’m not working I’ll still have to repay my Student Loan  

You don’t have to start paying off your student loan until you are earning over the repayment threshold. The annual threshold for plan 2 customers (those who started their course on or after 1 September 2012) is currently £21,000 but this will change to £25,000 from 6 April 2018 subject to parliamentary approval. You pay 9% of what you earn above the threshold. Find out everything you need to know about repaying your student loan here: http://media.slc.co.uk/repayment/qsg/index.html

Myth: My student loan will be interest free 

Busted: Everyone is charged interest on their student loans. Interest rates are set by the Government and the amount you repay depends on your repayment plan. You are charged interest from the day your first payment is made until your loan is repaid in full. Interest is added to the total amount you owe every month. Watch our film about understanding interest here: http://bit.ly/UnderstandingInterest

Myth: I won’t need to pay off my student loan if I leave my course  

Busted: If you choose to leave your course early without completing your studies, you will still be liable to repay your student loan. Once your Higher Education Provider confirms your withdrawal we will cancel future payments and re-calculate your entitlement.

Myfyrwyr brwd yng Nghymru yn cael eu hannog i Ymgeisio Nawr am gyllid i fyfyrwyr 

Mae myfyrwyr brwd a’u rhieni yng Nghymru yn cael eu hannog i adolygu cyllid i fyfyrwyr wrth i’r ceisiadau agor ar gyfer blwyddyn academaidd 18/19. 

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn annog myfyrwyr i sicrhau eu bod yn gwybod eu ffeithiau cyllid i fyfyrwyr ac ymgeisio cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn i le cyn dechrau eu cwrs. 

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SLC: 

“Mae yna ddetholiad o gyllid ar gael i helpu gyda chostau prifysgol, yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth a all eich helpu gyda chostau byw tra byddwch yn astudio.  

“Mae’n well ymgeisio cyn gynted â phosibl i gael popeth yn ei le a dechrau cyllidebu. Does dim hyd yn oed angen lle wedi ei gadarnhau ar gwrs i allu ymgeisio, gallwch ddefnyddio eich dewis cyntaf o gwrs a diweddaru eich cais yn hwyrach os bydd yn newid. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio yw ar-lein yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk” 

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 18/19, yn cynnwys faint allwch chi ei gael a sut i ymgeisio, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar ad-dalu a llog. Gellir gweld y Rhestr Chwarae yn cynnwys yr holl ffilmiau yma: http://bit.ly/Repaying Gallwch weld y rhestr chwarae yn Gymraeg yma: http://bit.ly/2GXs7dc

Dylai myfyrwyr hefyd ddilyn sianeli facebook facebook.com/SFWales a twitter @SF_Wales CMC ar gyfer y newyddion diweddaraf.  

5 Myth Cyffredin am Fenthyciadau Myfyrwyr 

Myth: Rhaid bod gen i le mewn sefydliad addysg uwch neu bellach cyn y gallaf ymgeisio am gyllid  

CHWALWYD: Does dim angen lle wedi ei gadarnhau ar gwrs i chi allu ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr – gallwch ddefnyddio eich dewis cyntaf o gwrs a diweddaru eich cais yn hwyrach os bydd yn newid. Darllenwch ein canllaw rhyngweithiol i gael gwybod mwy am sut i ymgeisio: http://media.slc.co.uk/sfe/quickStartFinanceGuide/Home.html

Myth: Does dim ots pryd fyddaf yn ymgeisio am fy nghyllid, mi fydda i'n dal i’w gael mewn pryd 

CHWALWYD: Yr unig ffordd i sicrhau eich bod yn cael eich cyllid mewn pryd ar gyfer cychwyn eich cwrs yw ymgeisio cyn y dyddiad cau a sicrhau’ch bod yn darparu’r holl dystiolaeth ategol sydd ei angen ar gyfer y cais. Y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr newydd yw 11 Mai ac 8 Mehefin ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd.  

Myth: Hyd yn oed os nad ydw i'n gweithio, byddaf yn dal angen ad-dalu fy Menthyciad Myfyriwr  

Nid oes raid i chi ddechrau talu eich benthyciad myfyriwr yn ôl nes eich bod yn ennill dros y trothwy ad-dalu. Y trothwy blynyddol ar gyfer cwsmeriaid cynllun 2 (y rhai a gychwynnodd eu cwrs ar neu wedi 1 Medi 2012) yw £21,000 ar hyn o bryd, ond bydd hyn yn newid i £25,000 o 6 Ebrill 2018 yn amodol i gymeradwyaeth seneddol. Rydych yn talu 9% o’r hyn rydych yn ei ennill dros y trothwy. Gallwch gael gwybod popeth sydd ei angen arnoch ynglŷn ag ad-dalu eich benthyciad myfyriwr yma: http://media.slc.co.uk/repayment/qsg/index.html

Myth: Bydd fy menthyciad myfyriwr yn ddi-log 

Chwalwyd: Codir llog ar bawb ar eu benthyciadau myfyrwyr. Y Llywodraeth sy'n gosod y cyfraddau llog a bydd y swm a ad-dalwch yn ddibynnol ar eich cynllun ad-dalu. Codir llog o'r diwrnod y gwneir eich taliad cyntaf nes bydd eich benthyciad wedi ei ad-dalu'n llawn. Ychwanegir llog i’r cyfanswm sy’n ddyledus bob mis. Gwyliwch ein ffilm ynghylch deall llog yma: http://bit.ly/UnderstandingInterest

Myth: Fydd dim rhaid i mi dalu fy menthyciad myfyriwr os byddaf yn gadael fy nghwrs  

Chwalwyd: Os byddwch yn dewis gadael eich cwrs yn gynnar heb gwblhau eich astudiaethau, byddwch yn dal yn atebol i ad-dalu eich benthyciad myfyriwr. Unwaith y bydd eich Darparwr Addysg Uwch yn cadarnhau eich bod wedi tynnu allan, byddwn yn canslo taliadau yn y dyfodol ac yn ail-gyfrifo eich hawl.