Ofcom yn croesawu dau aelod newydd ar y bwrdd

24 Medi 2018

Mae Ofcom wedi croesawu dau aelod newydd ar ei fwrdd, ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gadarnhau penodiad Maggie Carver a Dr Angela Dean.

Ar hyn o bryd mae Maggie yn Gadeirydd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain a’r Racecourse Association. Dechreuodd Maggie ei gyrfa mewn bancio buddsoddi ac mae hi wedi dal nifer o rolau yn y diwydiant cyfryngau - gan gynnwys eistedd ar fyrddau ITN, Channel 5 a sefydliadau eraill ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a dim-er-elw. Roedd hi’n arfer bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Channel 4 Racing, a gweithiodd ar sefydlu’r fasnachfraint ITV, Meridian Broadcasting.

Roedd Dr Angela Dean yn ddadansoddwr ariannol ar gyfer cwmnïau cyfathrebiadau a thechnoleg am bron i 20 mlynedd. Roedd hi’n rheolwr gyfarwyddwr yn y banc buddsoddi Morgan Stanley, gan arwain ei dîm ymchwil technoleg byd-eang; ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr y banc dros Fuddsoddi sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol. Roedd hi’n arfer bod yn un o Ymddiriedolwyr Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac roedd yn arfer bod yn aelod o’r Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Ar hyn o bryd mae Angela yn Gadeirydd International House Trust, sef sefydliad iaith annibynnol blaenllaw. Mae hi’n aelod o Gyngor Coleg King’s Llundain ac yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Caerefrog.

Dywedodd Terry Burns, Cadeirydd Ofcom: “Rwy’n falch iawn o groesawu Maggie ac Angela ar Fwrdd Ofcom. Bydd eu profiad helaeth, gan gynnwys mewn meysydd fel y cyfryngau a thechnoleg o fudd enfawr i Ofcom wrth i ni weithio i sicrhau bod pobl yn manteisio i’r eithaf ar wasanaethau cyfathrebu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r ddwy."

Y broses penodi

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Maggie Carver a Dr Angela Dean ar fwrdd Ofcom am bedair blynedd, gan ddechrau ar 30 Medi 2018.

Cafodd y naill benodiad a'r llall eu gwneud o dan God Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.1 Caiff y broses penodi ei rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Nodiadau I olygyddion

1. Yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus, rhaid datgelu unrhyw weithgareddau gwleidyddol sylweddol a wnaed gan unigolyn a benodir yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Caiff hyn ei ddiffinio fel dal swydd, siarad cyhoeddus, gwneud rhodd a gofnodir, neu sefyll mewn etholiad.

2. £42,519 y flwyddyn ydy cyflog aelodau Bwrdd Ofcom. Bydd Dr Angela Dean yn cael £42,519 y flwyddyn a bydd Maggie Carver, fel Dirprwy Gadeirydd yn cael £70,000 y flwyddyn.