Mae Ofcom wedi canfod heddiw fod y sianel newyddion RT wedi torri rheolau darlledu drwy fethu â bod yn ddiduedd mewn saith rhaglen newyddion a materion cyfoes dros gyfnod o chwe wythnos.
Yn gynharach eleni, roedd Ofcom wedi lansio nifer o ymchwiliadau i RT i benderfynu a oedd rhai rhaglenni a oedd wedi cael eu darlledu ar y sianel wedi cydymffurfio â rheolau darlledu a oedd yn galw am ddidueddrwydd dyladwy.
Ar ôl archwilio’r rhaglenni a’r holl dystiolaeth a oedd ar gael, gan gynnwys sylwadau ysgrifenedig a llafar a wnaed gan RT, rydyn ni wedi dod i’r casgliad bod y saith rhaglen ganlynol wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy. Cafodd y rhaglenni eu darlledu rhwng 17 Mawrth 2018 a 26 Ebrill:
Canfuwyd nad oedd tair rhaglen arall wedi torri ein rheolau didueddrwydd dyladwy.1
Wrth eu hystyried gyda’i gilydd, mae’r saith achos yn cynrychioli methiant difrifol i gydymffurfio â’n rheolau darlledu. Rydyn ni wedi dweud wrth RT ein bod yn bwriadu ystyried gosod sancsiwn statudol. Mae’r darlledwr nawr yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau i ni, a byddwn ni’n eu hystyried cyn symud ymlaen.2
Mae ein penderfyniadau wedi’u nodi yn llawn yn y Bwletin Darlledu ac Ar-alwad rhifyn 369 (PDF, 2.2 MB).
DIWEDD