Myfyrwyr yng Nghymru: Dyddiadau cau ceisiadau yn nesáu
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid prifysgol erbyn y dyddiadau cau sy'n nesáu i sicrhau fod eu cyllid yn barod erbyn dechrau’r tymor.
09 May 2016
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid prifysgol erbyn y dyddiadau cau sy'n nesáu i sicrhau fod eu cyllid yn barod erbyn dechrau’r tymor.
09 May 2016
Dylai myfyrwyr newydd ymgeisio am gyllid erbyn 13 Mai 2016 a'r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau yw 10 Mehefin 2016.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn prosesu oddeutu 1.7 miliwn o geisiadau eleni yn ei swyddfa yng Nghyffordd Llandudno gyda'r disgwyliad o fwy nag erioed o fyfyrwyr o Gymru. Mae dros 32,000 o fyfyrwyr yng Nghymru eisoes wedi cyflwyno ceisiadau.
Meddai Mark Cassidy, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweithrediadau:
“Dylai myfyrwyr newydd yng Nghymru ymgeisio nawr ac mae'r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau yn prysur nesáu hefyd. Mae’n bwysig ymgeisio erbyn y dyddiadau cau perthnasol i sicrhau bod eich cyllid yn ei le i chi ar ddechrau’r tymor.
“Does dim angen lle wedi ei gadarnhau i allu ymgeisio - gallwch ddefnyddio eich dewis cyntaf o gwrs a’i ddiweddaru'n hwyrach os oes angen. Dylai myfyrwyr newydd gael eu Rhif Yswiriant Gwladol a Phasbort wrth law wrth anfon eu cais i mewn.
“Byddwn hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu manylion banc - mae'n bwysig rhoi'r manylion banc cywir i sicrhau y telir y cyllid yn uniongyrchol i'r cyfrif priodol.
“Dylai myfyrwyr sy'n parhau ar eu cwrs gasglu manylion unrhyw newid mewn amgylchiadau yn y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu gwybodaeth gyfredol.
“Gall gymryd chwe wythnos i brosesu cais am gyllid felly dylai myfyrwyr ymgeisio mor fuan â phosibl.”
Gall myfyrwyr newydd weld pa gymorth ariannol sydd ar gael cyn ymgeisio ar http://gov.uk/studentfinancecyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Efallai y bydd help ychwanegol ar gael i chi os oes gennych ddibynyddion neu anabledd.